Paratoi er mwyn newid edrychiad y perfformiwr
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'r dulliau paratoi i'w cyflawni er mwyn addasu edrychiad y perfformiwr yn ddiogel, yn lân ac yn unol â gofynion y cynhyrchiad.
Mae'n ymdrin â'ch gallu i drefnu a pharatoi safleoedd gwaith, deunyddiau a'r cyfarpar i'r holl ddefnyddwyr allu manteisio arnyn nhw'n rhwydd. Mae'n ymwneud â sicrhau bod safleoedd gwaith yn lân ac yn daclus a'ch bod chi'n defnyddio'r deunyddiau a'r cyfarpar yn ddiogel.
Mae hefyd yn ymdrin â chynghori'r perfformwyr o unrhyw anesmwythder posib y gall newid mewn edrychiad ei achosi.
Mae'r safon hon yn berthnasol i'r holl rolau ond mae'n fwyaf perthnasol i oruchwylwyr neu gynorthwywyr gwallt a cholur.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- egluro a chytuno ar y gofynion dylunio ac amserlen y cyfarwyddyd gyda'r unigolyn perthnasol
- paratoi a threfnu safleoedd gwaith, deunyddiau, cyfarpar a bagiau offer
- rhoi gwybod i'r bobl berthnasol am unrhyw broblemau gyda safleoedd gwaith, deunyddiau, cyfarpar a'r bagiau offer a cheisio dod o hyd i ddatrysiadau
- cynnal hylendid personol er mwyn osgoi trosglwyddo unrhyw haint i'r perfformwyr
- sicrhau bod digonedd o ddeunyddiau a chyfarpar yn y safleoedd gwaith a'u bod yn daclus ac yn lân drwy gydol y cynhyrchiad
monitro cyflenwad y stoc a chyfathrebu gyda'r bobl berthnasol i ailgyflenwi stoc neu brynu cyflenwadau penodol yn ôl yr angen
- glanhau deunyddiau gwallt, wigiau, colur a phrostheteg gan defnyddio'r nwyddau a'r dulliau glanhau sydd wedi'u cymeradwyo
- labelu deunyddiau a blychau gyda gwybodaeth er mwyn eu defnyddio'n ddiogel
- trin, storio a chael gwared ar wallt, wigiau, colur a deunyddiau, offer, cyfarpar a sylweddau peryglus prostheteg mewn dull diogel a hylan
- cydnabod cyflyrau croen a/neu wallt heintus neu ymledol a allai heintio'r deunyddiau a'r cyfarpar
- rhoi gwybod i'r bobl berthnasol am unrhyw gyflyrau croen neu wallt mewn dull amserol a phroffesiynol
- gwirio a pharatoi i orchuddio unrhyw dyllau yn y corff neu datŵs os oes angen
- cydymffurfio gyda'r gweithdrefnau i ymdrin â deunyddiau a chyfarpar gwallt, wigiau, colur a phrostheteg sydd wedi'u heintio er mwyn osgoi trosglwyddo haint i unrhyw berfformiwr
- cynghori'r perfformiwr am unrhyw adweithiau niweidiol neu anesmwythder posib yn sgil prosesau colur a/neu wallt a'r camau gaiff eu cyflawni i leihau'r peryg
- cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth, y polisïau a'r canllawiau iechyd a diogelwch bob amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y deunyddiau a'r cyfarpar gofynnol ar gyfer safleoedd gwaith gwallt, wigiau, colur a phrostheteg ar y set ac ar leoliad
- sut i baratoi a threfnu safleoedd gwaith, deunyddiau a'r cyfarpar i'r holl ddefnyddwyr allu manteisio arnyn nhw'n rhwydd
- pwy ddylech chi gyfathrebu gyda nhw ynghylch y gofynion logistaidd ynghlwm â gweithio ar y lleoliad gan gynnwys adnabod lle mae'r dŵr tap, y golau a'r mynediad
- lle a sut i gaffael y deunyddiau a'r cyfarpar gwallt, wigiau, colur a phrostheteg
- sut i gadw cofnodion stoc priodol a monitro cyflenwadau
- sut i wirio niferoedd y stoc gan gynnwys eu cyflwr a sut i ailgyflenwi'r stoc gan gadw at y gyllideb
- sut i gwblhau ffurflen archeb a'r staff perthnasol i gyfathrebu gyda nhw i dderbyn y llofnodion angenrheidiol
- y mathau o gynnyrch sydd ar gael ichi a'u defnyddiau unigol
- y gofynion dylunio y bu i'r unigolyn/pobl berthnasol eu rhannu gyda chi
- cyfyngiadau amser amserlen y cynhyrchiad
- y drefn a'r dechneg gywir ar gyfer paratoi gwallt, wigiau, colur neu brostheteg
- y gofynion hylendid a glanhau ar gyfer y deunyddiau a'r cyfarpar gwallt, wigiau, colur neu brostheteg
- y gofynion hylendid personol i sicrhau bod y perfformiwr yn gyfforddus ac yn ddiogel
- sut i adnabod ac osgoi heintiau posib ac adweithiau niweidiol i wallt a/neu groen
- pwy ddylech chi eu hysbysu ynghylch cyflyrau croen neu wallt
- y gweithrediadau priodol pan fo heintiau, adweithiau niweidiol ac anesmwythdra personol i'r perfformiwr
- y dulliau diogel a hylan i gadw, trin a chael gwared ar gyfarpar, offer a sylweddau peryglus yn ymwneud â gwallt, wigiau, colur neu brostheteg
- sut i orchuddio tatŵs a thyllau yn y corff gan ddefnyddio'r dulliau, yr offer a'r technegau priodol
- sut i egluro'r gweithdrefnau gwallt a/neu golur i'r perfformwyr
- sut i baratoi'r offer a'r cyfarpar penodol ar gyfer gwahanol leoliadau
- deall anghenion yr adran gwallt a cholur pan fyddwch yn gweithio ar leoliad a'r personél priodol i gysylltu â nhw
- y ddeddfwriaeth, y polisïau a'r canllawiau iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i gyfarpar gwallt a cholur a sylweddau peryglus