Adnewyddu’r croen drwy ddefnyddio triniaethau mesotherapi heb nodwydd

URN: SKANSC21
Sectorau Busnes (Cyfresi): Therapi Harddwch, Estheteg Harddwch, Triniaethau Cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol
Datblygwyd gan: SkillsActive
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon yma’n cydfodoli â, SKANSC1: Rhoi arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol ar waith a’u cynnal yn ystod triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol, SKANSC2: Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol, SKANSC14 Cyflawni dadansoddiad trylwyr o’r croen gan ddefnyddio technolegau a SKANSC15 Rheoli cymhlethdodau gyda thriniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol Mae’r safon yma ar gyfer person proffesiynol ym maes harddwch, estheteg sy’n darparu mesotherapi  heb nodwydd er mwyn gwella  a chadw cyflwr y croen. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ôl-driniaethol ac adfyfyrio ar gyfer gwelliant parhaus. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon yma sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu’r diweddaraf o ran gwybodaeth, polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau am arfer orau. Caiff defnyddwyr y safon yma eu cynghori i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio â, gofynion cymorth cyntaf, yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1.  cwblhau ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr wyneb yn wyneb â’r unigolyn
2.  cadw at eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth mesotherapi heb nodwydd
3.  trafod i sefydlu amcanion, ei bryderon am y croen a disgwyliadau yr unigolyn a’r canlyniadau mae’n ei ddymuno er mwyn hysbysu’r cynllun triniaeth i gynnwys:
·    3.1 hanes triniaethol
·    3.2 dosbarthiad y croen, ei fath a’i gyflwr
·    3.3 rhaglen baratoadol ar gyfer preimio’r croen
·    3.4 dewisiadau ar gyfer triniaeth amgen
4.  trafod a chytuno ar raglen preimio’r croen neu argymhellion sydd eu hangen, cyn y driniaeth mesotherapi heb nodwydd
5.  cadarnhau a chytuno gyda’s unigolyn, eu bod wedi deall y driniaeth arfaethiedig, i gynnwys:
·    5.1 canlyniadau disgwyliedig
·    5.2 gwrth-weithredoedd
·    5.3 adweithiau anffafriol
·    5.4 y gofynion cyn ac ar ôl y driniaeth
·    5.5 ymdeimlad corfforol ac o ran sŵn y protocol triniaeth
6.  sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer a driniaeth mesotherapi heb nodwydd yn unol â gofynion cyfundrefnol ac yswiriant
7.  gwneud prawf(ion) cyn y driniaeth er mwyn penderfynu sensitifrwydd y croen
8.  paratoi a glanhau man triniaeth yr unigolyn yn unol â’r protocol triniaeth mesotherapi heb nodwydd
9.  taflu goleuni ar fan triniaeth yr unigolyn a’i chwyddo yn unol â’r protocol triniaeth mesotherapi heb nodwydd
0.     gwneud dadansoddiad o’r croen a’r corff, i gynnwys:
·    10.1 dosbarthiad y croen
·    10.2 cyflwr y croen
·    10.3 y math o groen
11. dethol offer a chyfarpar yn unol â’r protocol triniaeth mesotherapi heb nodwydd, i gynnwys:
11.1 profi’r offer a’r cyfarpar yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol
12. cyflawni’r driniaeth yn unol â’r protocol triniaeth mesotherapi heb nodwydd i gynnwys:
·    12.1 ailgyfleu ymdeimlad y driniaeth a’r sŵn gaiff ei greu gan y cyfarpar i’r unigolyn
·    12.2 defnyddio ac addasu’r cyfarpar, offer a hyd y driniaeth yn unol â’r protocol triniaeth mesotherapi heb nodwydd
13.  monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth mesotherapi heb nodwydd
14.  cymryd y camau cywir os bydd adwaith anffafriol
15.  cwblhau’r driniaeth yn unol â’r protocol triniaeth mesotherapi heb nodwydd, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
16.  cwblhau a chadw cofnodion triniaeth yn unol â deddfwriaeth gwybodaeth
17.  defnyddio arfer adfyfyriol i werthuso’r driniaeth mesotherapi heb nodwydd a gweithredu’n briodol
18.  rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i’r unigolyn, cyn ac ar ôl y driniaeth
19.  cofnodi canlyniad y driniaeth mesotherapi heb nodwydd a’r gwerthusiad ohoni
20.  trafod a chytuno ar driniaethau yn y dyfodol gyda’r unigolyn


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwysigrwydd cydweithio gyda phobl broffesiynol gymwys er mwyn cefnogi arferion gwaith effeithiol a diogel
  2.  eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau pan yn cyflawni triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
  3. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol
  4. pwysigrwydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, y polisïau, y wybodaeth, gweithdrefnau a chanllawiau am arfer orau ddiweddaraf
  5. yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma
  6. y broses heneiddio gronolegol o’r croen a’r berthynas gyda ffactorau cynhenid ac anghynhenid
  7. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy’n berthnasol i’r driniaeth, i gynnwys:
    ·    7.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer sicrhau diagnosis a chyfeirio meddygol
  8. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ar y croen ac anafiadau, a chyfeirio’r rheiny at berson proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd
  9. sut gall rhaglen preimio’r croen ac argymhellion cyn triniaeth fod o fudd i ganlyniadau’r driniaeth mesotherapi heb nodwydd
    0.    y math o dechnoleg mesotherapi heb nodwydd a ddefnyddir mewn triniaethau a’r effeithiau ffisiolegol ar y croen i gynnwys:
    ·    10.1 y math o gerrynt a ddefnyddir·
    ·    10.2 risgiau cysylltiedig a sut i ymateb iddynt
  10.  y mathau o doddiadau ysgogol, eu cyfansoddiad a’r effeithiau ffisiolegol yn yr uwchgroen
  11. hanes mesotherapi
  12. y mathau o gyfarpar mesotherapi heb nodwydd, a thoddiadau ysgogol, eu diben, defnydd a’u cyfyngiadau, gan gymryd y canlynol i ystyriaeth:
    ·    13.1 dosbarthiad y croen
    ·    13.2 nodweddion y croen
    ·    13.3 amcanion yr unigolyn
    ·    13.4 y cynllun triniaeth
  13. canfod, cadw, trin, defnyddio a chael gwared o gyfarpar mesotherapi heb nodwydd, a thoddiadau ysgogol yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol
  14. yr adweithiau anffafriol sy’n gysylltiedig â’r driniaeth mesotherapi heb nodwydd a sut i ymateb iddynt
  15. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth mesotherapi heb nodwydd
  16. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol i bobl dan oed
  17. pam ei bod yn bwysig trafod a sefydlu amcanion, pryderon, disgwyliadau’r unigolyn a’r canlyniadau y mae’n ei ddymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol
  18. pwysigrwydd defnyddio cymhorthion gweledol i hysbysu’r unigolyn o’r effeithiau corfforol
  19. y strwythurau taliadau a’r dewisiadau ar gyfer triniaeth
  20. y triniaethau ellir eu defnyddio ar y cyd â thriniaeth mesotherapi heb nodwydd a risgiau cysylltiedig
  21. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer y driniaeth
  22. pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth mesotherapi heb nodwydd
  23. pam ei bod yn bwysig caniatau amser i’r unigolyn adfyfyrio cyn cadarnhau a chytuno i dderbyn triniaeth gosmetig ddewisiol nad yw’n llawfeddygol
  24. y mathau o gynnrch glanwaith ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  25. y rhesymau dros weithio’n systematig er mwyn gwneud y cyfan o fan triniaeth yr unigolyn, yn unol â’r protocol triniaeth mesotherapi heb nodwydd i gynnwys:
    ·    26.1 toddiad ysgogol a thechnegau a sut maent yn wahanol yn ôl parthau
  26. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y driniaeth
  27. pwysigrwydd cadw at y cynllun argyfwng os bydd adwaith anffafriol
  28. sut i gwblhau’r driniaeth yn unol â’r protocol triniaeth mesotherapi heb nodwydd, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
  29. y mathau, manteision a’r defnydd o gynnyrch cyn ac ar ôl triniaeth
  30. y gofynion deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol ar gyfer gwneud a chadw delweddau gweledol o fan triniaeth yr unigolyn
  31. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion triniaeth yr unigolyn
  32. canlyniadau disgwyliedig y driniaeth mesotherapi heb nodwydd
  33. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae’n hysbysu triniaethau yn y dyfodol
  34. sut i gyfosod, dadansoddi, crynhoi a chofnodi adborth gwerthusol mewn modd clir a chryno
  35. pwysigrwydd cofnodi canlyniad y driniaeth mesotherapi heb nodwydd a’r gwerthusiad ohoni
  36. y cyfarwyddiadau a’r cyngor cyn ac ar ôl y driniaeth mesotherapi heb nodwydd

Cwmpas/ystod

Dosbarthiad y croen
1.  Graddfa Fitzpatrick
2.  Ffenotip a genoteip
3.  Graddfa Lancer
4.  Graddfa Glogau
5.  Graddfa Rubins
6.  Graddfa gwëad croen Monk
 
Cyflwr y croen
1.  hydwythedd llac
2.  gorliwio a thanliwio
3.  gorddwys
4.  llinorog
5.  bregus
6.  fasgwlaidd
7.  sensiteiddiedig
8.  sensitif
9.  wedi sychu
10.           ffoto-sensitif
11.           wedi’i niweiedio gan olau
12.           wedi dylu
Math o groen
1.    sych
2.    olewog
3.    cyfuniad
4.    cytbwys
Adweithiau anffafriol
1.  gormodedd o waed
2.  cleisio
3.  llid
4.  alergedd
5.  gorliwiad/tanliwiad
6.  chwydd gwyn
Anatomeg a ffisioleg
1.  strwythur a swyddogaeth systemau’r corff a’u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd
2.  strwythur a swyddogaeth y croen ac atodion y croen
3.  afiechydon, anhwylderau a chyflyrau’r croen
4.  proses heneiddio’r croen yn cynnwys effeithiau geneteg, ffordd o fyw a’r amgylchedd
5.  y swyddogaeth rwystro dan fygythiad a phrosesau atgynhyrchu’r croen
Protocol triniaethau mesotherapi heb nodwydd
1.  amgylchedd waith
2.  iechyd a diogelwch
3.  atal a rheoli haint
4.  cynllun gwasanaeth
5.  cydsyniad gwybodus
6.  rheolaeth data
7.  canlyniadau profion
8.  cyfarwyddiadau gwneuthurwyr
9.  archwiliad ac atebolrwydd
10. cyfarwyddiadau a chyngor
11. cynaliadwyedd
12. rheolaeth gwastraff
13. ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
14. ymarfer adfyfyriol

Cyfarwyddiadau
1.  hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a’r ymarferydd
2.  cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
3.  cyfyngiadau a risgiau cysyslltiedig
4.  triniaethau yn y dyfodol


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwrtharwydd llwyr
Gwrtharwydd llwyr yw cyflwr sy’n atal y gwasanaeth rhag cael ei gyflawni  ac a all fod angen cyfeirio.
Adwaith anffafriol
Adwaith anffafriol yw adwaith neu ganlyniad ‘annisgwyl’ yn dilyn gwasanaeth, e.e.
llewygu
Anatomeg a Ffisioleg
Y ffordd mae’r systemau sgerbydol, cyhyrog cylchredol, lymffatig, resbiradol, ysgarthol, treuliol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda’i gilydd a sut mae nhw’n effeithio ar yr unigolyn, y gwasanaeth a’r canlyniadau.
Gwrth weithred
Gwrth weithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth
e.e. cochni
        Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith
neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer gorau a
chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau’r
gwneuthurwr.
Gwrtharwydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy’n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau
Cyflwr croen sensitif
Cyflwr genetig lle mae cynnydd mewn adweithedd capilaraidd  a newid yn y swyddogaeth rhwystro gan arwain at freuder uwchgroenol cynhenid.
Cyflwr croen sensiteiddiedig
Mae cyflwr croen sensiteiddiedig yn digwydd o ganlyniad I ffactorau amgylcheddol neu yn y ffordd o fyw sydd un ai yn cynyddu cytocinau llidiol a modylyddion neu’n llesteirio rhwystr y croen.
Swyddogaeth rhwystro’r croen
Y rhwystr adnewyddadwy, biogemegol sy’n gwarchod ein systemau mewnol rhag ymosodwyr a phathogenau amgylcheddol, ac sy’n helpu rhwystro colli dŵr traws-uwchgroenol. Mae’n cynnwys celloedd wedi’u cornio, ffactorau naturiol sy’n lleithio, lipidau rhwystrol a microbiomau’r croen.
Dosbarthiad y croen
Gellir cyfeirio at raddfeydd dosbarthu’r croen fel graddfa fitzpatrick, graddfa lancer a ffenoteip a genoteip, graddfa glogau, graddfa rubins a graddfa ffyrder croen Monk.
Rhaglen preimio’r croen
Rhaglen preimio’r croen yw cyfres o gyfgarwyddiadau gall yr unigolyn eu gwneud cyn y driniaeth er mwyn cael y canlyniadau gorau.


Dolenni I NOS Eraill

SKANSC1, SKANSC2, SKANSC3, SKANSC4, SKANSC5, SKANSC6,
SKANSC7, SKANSC8, SKANSC9, SKANSC10, SKANSC11, SKANSC12, SKANSC13, SKANSC15, SKANSC16, SKANSC17, SKANSC18, SKANSC19, SKANSC20, SKANSC22, SKANSC23, SKABS2


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKANSC21

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch, Estheteg Harddwch, Ymarferydd Estheteg

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

mesotherapi, adnewyddu, heb nodwydd