Adnewyddu’r croen /neu’r gwallt gan ddefnyddio plasma sy’n gyfoethog mewn platennau (PRP)

URN: SKANSC20
Sectorau Busnes (Cyfresi): Triniaethau Cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol
Datblygwyd gan: SkillsActive
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon yma’n cydfodoli â, SKANSC1: Rhoi arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol ar waith a’u cynnal yn ystod triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol, SKANSC2: Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol, SKANSC14 Cyflawni dadansoddiad trylwyr o’r croen gan ddefnyddio technolegau a SKANSC15 Rheoli cymhlethdodau gyda thriniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol. Mae’r safon yma ar gyfer ymarferwyr esthetig sy’n defnyddio plasma sy’n gyfoethog mewn platennau (PRP) i adnewyddu’r croen a/neu’r gwallt, i adfer cyfaint sydd wedi’i golli mewn rhannau o’r wyneb a gwallt sydd wedi’i golli mewn rhannau o groen y pen. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ôl-driniaethol ac adfyfyrio ar gyfer gwelliant parhaus. Rhaid i’r ymarferydd esthetig gael cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gweithle neu ei gyffelyb a gallu cyflawni’r swyddogaethau o fewn SFHCHS132SFHCH Sicrhau samplau gwaed gwythiennol a SFHCHS36: Cefnogaeth bywyd sylfaenol a gallu cael gafael ar gyfarpar cefnogi bywyd fel sydd wedi'i nodi yn y cynllun rheoli cymhlethdodau. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon yma sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu’r diweddaraf o ran gwybodaeth, polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau am arfer orau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1.  cwblhau ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr wyneb yn wyneb â’r unigolyn
2.  cadw at eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth plasma sy’n gyfoethog mewn platennau
3.  trafod a sefydlu amcanion, pryderon a disgwyliadau yr unigolyn a’r canlyniadau mae’n ei ddymuno er mwyn hysbysu’r driniaeth plasma sy’n gyfoethog mewn platennau i gynnwys:
·  3.1 rhaglen baratoadol preimio’r croen
·  3.2 dosbarthiad y croen a nodweddion y croen
·  3.3 dosbarthiad y gwallt, dosbarthiad cyrls y gwallt a nodweddion y gwallt
3.4 dewisiadau ar gyfer triniaeth amgen
4.  trafod a chytuno ar y rhaglen preimio’r croen neu’r argymhellion sydd eu hangen, cyn y driniaeth plasma sy’n gyfoethog mewn platennau
5.  datblygu cynllun argyfwng gyda’r person proffesiynol perthnasol ym maes iechyd sydd wedi’i hyfforddi i ddelio gydag adweithiau anffafriol i’r plasma sy’n gyfoethog mewn platennau
6.  sefydlu’r cynllun trinaeth plasma sy’n gyfoethog mewn platennau yn unol â gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol i gynnwys:
·  6.1 cyngor, cefnogaeth a chanllawiau
·  6.2 cynllun argyfwng
·  6.3 strategaeth rheoli poen
7.  cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, eu bod wedi deall y driniaeth plasma sy’n gyfoethog mewn platennau arfaethiedig a rheoli poen i gynnwys:
·  7.1 gwrth weithredoedd
·  7.2 adweithiau anffafriol
8.  sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi gan yr unigolyn ar gyfer y driniaeth plasma sy’n gyfoethog mewn platennau a rheoli poen, gan ganiatau amserlen ddigonol i’r unigolyn wneud dewis gwybodus
9.  dethol cynnyrch glanwaith effeithiol i gwrdd ag anghenion yr unigolyn yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
10.     paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â’r protocol triniaeth plasma sy’n gyfoethog mewn platennau a’r strategaeth rheoli poen i gynnwys:
·  10.1 sicrhau bod y croen yn lân ac wedi’i baratoi yn unol â’r protocol
11.    cytuno ar, dethol a pharatoi’r man gwaith a nodwydd ddiheintiedig na ellir ond ei defnyddio unwaith
12.    cyflawni’r driniaeth plasma sy’n gyfoethog mewn platennau yn unol â’r protocol triniaeth plasma sy’n gyfoethog mewn platennau, i gynnwys:
·  12.1 meini prawf ar gyfer dewis yr wythïen a maint y nodwydd
13. cymryd a chadw delweddau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn yn unol â gofynion yswiriant, polisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
14.  cwblhau a chadw cofnodion triniaeth gosemtig yr unigolyn sydd heb fod yn llawfeddygol yn unol â deddfwriaeth gwybodaeth
15.  defnyddio arfer adfyfyriol i werthuso’r driniaeth plasma sy’n gyfoethog mewn platennau a gweithredu’n briodol
16.  cofnodi’r canlyniad y driniaeth plasma sy’n gyfoethog mewn platennau a’r gwerthusiad ohoni er mwyn cytuno ar ac hysbysu triniaethau yn y dyfodol
17.  trafod a chytuno ar driniaethau yn y dyfodol gyda’r unigolyn


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.  pwysigrwydd cydweithio gyda phobl broffesiynol gymwys er mwyn cefnogi arferion gwaith effeithiol a diogel
2.  eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau pan fyddwch yn darparu triniaethau ddefnyddio plasma sy’n gyfoethog mewn platennau i’r wyneb a chroen y pen a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
3.  pam bod rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol i gynnwys:
·    3.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu’r awdurdod lleol ar eich cyfer chi eich hun a’ch adeilad
4.  pwysigrwydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, y polisïau, y wybodaeth, gweithdrefnau a chanllawiau am arfer orau ddiweddaraf
5.  yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma
6.  y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy’n berthnasol i driniaethau plasma sy’n gyfoethog mewn platennau, i gynnwys:
·    6.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer sicrhau diagnosis a chyfeirio meddygol
7.  pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ac anafiadau o’r croen, a chyfeirio at berson proffesiynol ym maes gofal iechyd
8.  sut gall rhaglen preimio’r croen ac argymhellion cyn triniaeth fod o fudd i ganlyniadau’r driniaeth plasma sy’n gyfoethog mewn platennau
9.  y broses heneiddio gronolegol o’r croen a’r berthynas gyda ffactorau cynhenid ac anghynhenid
10.           sut i wahaniaethu rhwng rhydwelïau a gewynnau a lleoliad yr wythïen.
11.           sut mae’r ffactorau canlynol yn dylanwadu ar y lleoliad o le caiff y sampl(au) ei/eu d/tynnu
·    11.1 gall anaf, afiechyd neu driniaeth atal y defnydd o aelod o’r corff
·    11.2 Oed a phwysau
·    11.3 Meddyginiaeth,
·    11.4 Pryder
·    11.5 sut gellir datrys datchwyddiad o’r wythïen neu wingiad (anghysur a lleihad yn llif y gwaed) drwy daro’r wythïen yn ysgafn neu ei thapio.
12. cyfansoddiad a swyddogaeth cyflawni plasma sy’n gyfoethog mewn platennau
13. sut i baratoi a thynnu gwaed, defnyddio allgyrchydd i gynnwys:
·    13.1 sut i osod nodwydd ddiheintiedig i mewn i’r wythïen yn ddiogel
14. sut i gyflawni’r driniaeth plasma sy’n gyfoethog mewn platennau yn unol â’r protocol triniaeth
15. canfod, cadw, trin, defnyddio a chael gwared o gyfarpar yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol
16. pwysigrwydd ystyried lles corfforol a seicolegol yr unigolyn ar gyfer y driniaeth plasma sy’n gyfoethog mewn platennau
17. y mathau o reolaeth poen a risgiau cysylltiedig
18. y gofynion deddfwriaethol a’r cyfyngiadau ar gyfer canfod, cadw a defnyddio anesthetigion lleol
19. yr adweithiau anffafriol sy’n gysylltiedig â’r driniaeth plasma sy’n gyfoethog mewn platennau
20. sut i gymryd y camau cywir os bydd adwaith neu ddigwyddiad anffafriol i gynnwys:
·    20.1 pam a phryd mae angen ymyrraeth feddygol ar unwaith
21. y strategaethau osgoi risg
22. pwysigrwydd sicrhau a dilyn cyfarwyddiadau gan berson proffesiynol ym maes gofal iechyd os bydd adwaith anffafriol
23. diben, defnydd a chyfyngiadau triniaethau plasma sy’n gyfoethog mewn platennau mewn perthynas â:
·    23.1 hanes meddygol y gorffennol a chyfredol
·    23.2 hanes triniaethau cosmetig blaenorol nad ydynt yn llawfeddygol a/neu hanes triniaethau deintyddol
·    23.3 ffactorau perthnasol sy’n ymwneud â ffordd o fyw
·    23.4 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol wedi’u gwrtharwyddo
·    23.5 disgwyliadau’r unigolyn
·    23.6 pa mor addas yw’r unigolyn yn gorfforol ac yn seicolegol ar gyfer triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol a chydymffurfiad ag ôl-ofal
·    23.7 rheoli ymateb gorimiwnaidd
·    23.8 rheoli goradweithiau
24. y gofynion rheoleiddiol a deddfwriaethol ar gyfer dyfeisiadau meddygol
25. y mathau o reolaeth poen a risgiau cysylltiedig
26. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth
27. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol i rai dan oed ac oedolion bregus
28. pam ei bod yn bwysig trafod a sefydlu amcanion, pryderon, disgwyliadau’r unigolyn a’r canlyniadau y mae’n ei ddymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth plasma sy’n gyfoethog mewn platennau
29. pwysigrwydd defnyddio cymhorthion gweledol i hysbysu’r unigolyn o’r effeithiau corfforol
30. y strwythurau taliadau a’r dewisiadau ar gyfer triniaeth
31. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer y driniaeth plasma sy’n gyfoethog mewn platennau a rheoli poen
32. y mathau o gynnyrch glanwaith ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
33. pam bod yn rhaid i’r croen fod yn lân a sych a chael ei baratoi cyn y driniaeth
34. y rhesymau dros weithio’n systematig er mwyn gwneud y cyfan o fan triniaeth yr unigolyn, yn unol â’r protocol triniaeth plasma sy’n gyfoethog mewn platennau
35. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y driniaeth
36. y cynnyrch wedi’r driniaeth sy’n gwarchod, hybu’r iachau a’r effeithiau adferol, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwy
37. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn, a’u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol
38. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnod o driniaeth yr unigolyn nad yw’n llawfeddygol
39. canlyniadau disgwyliedig triniaethau plasma sy’n gyfoethog mewn platennau
40. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae’n hysbysu triniaethau yn y dyfodol
41. pwysigrwydd cofnodi canlyniad y driniaeth plasma sy’n gyfoethog mewn platennau a’r gwerthusiad ohoni
42. y cyfarwyddiadau a’r cyngor cyn ac ar ôl y driniaethplasma sy’n gyfoethog mewn platennau


Cwmpas/ystod

Dosbarthiad y croen
1.  Graddfa Fitzpatrick
2.  Difrod-ffoto Graddfa Glogau
3.  Graddfa Lancer
4.  Ffenotip a genoteip
5.  Graddfa gwëad croen Monk
6.  Graddfa Rubins
Nodweddion y croen
1.  sensitifrwydd y croen
2.  cyflwr y croen
3.  dwysedd y croen
Dosbarthiad y gwallt
1.  Graddfa Sinclair ac eraill sy’n cynrychioli patrwm colli gwallt ymhlith menywod
2.  Graddfa Norwood ac eraill sy’n cynrychioli patrwm colli gwallt ymhlith gwrywod
3.  Graddfa analog weledol pruritus
Nodweddion y gwallt
1.    dwysedd y gwallt
2.    gwëad y gwallt
3.    hydwythedd y gwallt
4.    mandylledd y gwallt
5.    patrymau tŵf y gwallt
 
Dosbarthiad cyrls y gwallt
1.  syth
2.  tonnog
3.  cyrliog
4.  cyrls tynn
5.  cyfuniad
 
Adweithiau anffafriol
1.  gormodedd o waed
2.  anafiadau
3.  creithio atroffig
4.  creithio celoid
5.  colli dŵr traws-uwchgroenol
6.  gorgleisio
7.  llid
8.  anhwylderau lliwiol
9.  adwaith alergaidd
10. proses iachau dan fygythiad
11. pendro
12. llewygu
Strategaethau osgoi risg
1.     cynllun argyfwng
2.     asesiad(au) risg
3.     hanes meddygol caffaeledig
4.     cynllun(iau) triniaeth
5.     mannau triniaeth cyfyngedig
6.     cyfarwyddiadau a chyngor cyn ac ar ôl triniaeth
7.     brechiadau
8.     cymhwyster cymorth cyntaf yn y gwaith a cefnogaeth bywyd sylfaenol neu ei gyffelyb
9.     arferion gwaith iechyd a diogelwch cyffredinol
10.  atal a rheoli haint
       amgylchedd waith
11.  cydweithrediad gyda pherson proffesiynol ym maes gofal iechyd/rhagnodwr annibynnol wedi’i reoleiddio/pobl broffesiynol briodol
12.  protocol rhagnodi deddfwriaethol
13.  rheolaeth meddyginiaethau
14.  cydsyniad gwybodus
15.  rheolaeth data
16.  archwiliad ac atebolrwydd
17.  dealltwriaeth o’r ffarmacoleg
18.  gwybodaeth waith o anatomeg yr wyneb a’r gwddf
19.  rheolaeth gwastraff
20.  asesiad o addasrwydd corfforol ac emosiynol yr unigolyn
Anatomeg a ffisioleg
1.  strwythur a swyddogaeth systemau’r corff a’u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd
2.  patholegau’r croen a systemig
3.  patholegau digwyddiad anffafriol difrifol
4.  gwybodaeth sylfaenol o ffarmacoleg
5.  effeithiau meddyginiaethau ar y croen a’r gwallt
Cyfarwyddiadau
1.  hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a’r ymarferydd esthetig
2.  cynllun argyfwng
3.  disgwyliadau ôl-driniaethol ac amserlenni cysylltiedig
4.  cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
5.  cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
6.  triniaethau yn y dyfodol
gweithdrefn cwynion neu brotocol pryderon


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwrtharwydd llwyr
Gwrtharwydd llwyr yw cyflwr sy’n atal y gwasanaeth rhag cael ei gyflawni  ac a all fod angen cyfeirio.
Adwaith anffafriol
Adwaith anffafriol yw adwaith neu ganlyniad ‘annisgwyl’ yn dilyn gwasanaeth, e.e.
llewygu
Anatomeg a Ffisioleg
Y ffordd mae’r systemau sgerbydol, cyhyrog cylchredol, lymffatig, resbiradol, ysgarthol, treuliol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda’i gilydd a sut mae nhw’n effeithio ar yr unigolyn, y gwasanaeth a’r canlyniadau.
Gwrth weithred
Gwrth weithred yw adwaith dros dro ddisgwyliedig o driniaeth, e.e. cochni
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Wedi ei seilio ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Dosbarthiad y Gwallt
Gellir cyfeirio at raddfeydd dosbarthiad y gwallt fel graddfa Norwood, graddfa Sinclair neu raddfa Weledol analog
PRP (Plasma sy’n gyfoethog mewn platennau)
Mae therapi Plasma sy’n gyfoethog mewn platennau yn driniaeth arloesol sy’n ysgogi proses iachau naturiol y cordd ac sy’n defnyddio celloedd y claf ei hunan i hyrwyddo iachad cyflymach o rai cyflyrau cyhyrysgerbydol, ac atgynhyrchu’r croen a’r gwallt. Mae’n gweithio drwy ryddhau ffactorau tŵf grymus sy’n ysgogi a gwella cyflenwad y gwaed i’r man sydd wedi’i anafu a’r maetholion mae’r celloedd eu hangen ar gyfer atgynhyrchu’r meinweoedd sydd wedi’u difrodi neu heneiddio.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol ar gyfer sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
Gwrtharwydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy’n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau
Swyddogaeth rhwystro’r croen
Y rhwystr adnewyddadwy, biogemegol sy’n gwarchod ein systemau mewnol rhag ymosodwyr a phathogenau amgylcheddol, ac sy’n helpu rhwystro colli dŵr traws-uwchgroenol. Mae’n cynnwys celloedd wedi’u cornio, ffactorau naturiol sy’n lleithio, lipidau rhwystrol a microbiomau’r croen.
Dosbarthiad y croen
Gellir cyfeirio at raddfeydd dosbarthu’r croen fel graddfa fitzpatrick, graddfa lancer a ffenoteip a genoteip, graddfa glogau, graddfa rubins a graddfa ffyrder croen Monk.
Rhaglen preimio’r croen
Rhaglen preimio’r croen yw cyfres o gyfgarwyddiadau gall yr unigolyn eu geneud cyn y driniaeth er mwyn cael y canlyniadau gorau.
Delweddau Gweledol
Delweddau gweledol yw tystiolaeth sydd wedi I gynhyrchu drwy ffotograffiaeth neu fideo.





Dolenni I NOS Eraill

SKANSC1, SKANSC2, SKANSC3, SKANSC4, SKANSC5, SKANSC6, SKANSC7, SKANSC8, SKANSC9, SKANSC10, SKANSC11, SKANSC12, SKANSC13, SKANSC15, SKANSC16, SKANSC17, SKANSC18, SKANSC19, SKANSC21, SKANSC22, SKANSC23


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKANSC20

Galwedigaethau Perthnasol

Estheteg Harddwch, Ymarferydd Estheteg

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

PRP, plasma, adnewyddiad