Darparu pigiadau fitaminiau/neu fwynau ar gyfer lles
Trosolwg
Mae’r safon yma’n cydfodoli â, SKANSC1: Rhoi arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol ar waith a’u cynnal yn ystod triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol, SKANSC2: Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol, SKANSC14 Cyflawni dadansoddiad trylwyr o’r croen gan ddefnyddio technolegau a SKANSC15 Rheoli cymhlethdodau gyda thriniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol. Mae’r safon yma ar gyfer ymarferwyr esthetig sy’n cyflawni triniaethau gan ddefnyddio pigiadau fitamin a mwynau ar gyfer lles. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ôl-driniaethol ac adfyfyrio ar gyfer gwelliant parhaus. Rhaid i’r ymarferydd esthetig gael cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gweithle neu ei gyffelyb a gallu cyflawni’r swyddogaethau o fewn SFHCHS132SFHCH Sicrhau samplau gwaed gwythiennol a SFHCHS36: Cefnogaeth bywyd sylfaenol a gallu cael gafael ar gyfarpar cefnogi bywyd fel sydd wedi ei nodi yn y cynllun argyfwng. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon yma sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu’r diweddaraf o ran gwybodaeth, polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau am arfer orau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cwblhau ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr wyneb yn wyneb â’r unigolyn
2. cadw at eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth pigiad fitaminiau/neu fwynau
3. trafod a sefydlu amcanion, pryderon a disgwyliadau yr unigolyn a’r canlyniadau mae’n ei ddymuno er mwyn hysbysu’r driniaeth pigiad fitaminiau/neu fwynau i gynnwys:
· 3.1 dewisiadau ar gyfer triniaeth amgen
4. datblygu cynllun argyfwng gyda’r person proffesiynol perthnasol ym maes iechyd sydd wedi’i hyfforddi i ddelio gydag adweithiau anffafriol i driniaeth(au) pigiad(au) fitaminiau/neu fwynau
5. sefydlu’r cynllun trinaeth pigiad(au) fitaminiau/mwynau yn unol â gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
ailadrodd, cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, eu bod wedi deall y driniaeth pigiad fitaminiau/mwynau arfaethedig a rheoli poen i gynnwys:
· 6.1 gwrth weithredoedd
· 6.2 adweithiau anffafriol
7. sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi gan yr unigolyn ar gyfer y driniaeth pigiad fitaminiau/mwynau a rheoli poen, gan ganiatau amserlen ddigonol i’r unigolyn wneud dewis gwybodus
8. dethol cynnyrch glanwaith effeithiol i gwrdd ag anghenion yr unigolyn yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
9. paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â’r protocol triniaeth pigiad fitaminiau/mwynau a’r strategaethau osgoi risg cysylltiedig i gynnwys
10. cael gafael ar a dethol y toddiadau fitamin/mwynau, i gwrdd ag anghenion yr unigolyn a’r man sydd i’w drin, gan gynnwys risgiau cysylltiedig
11. chwistrellu’r toddiad fitamin/mwynau gyda nodwydd ddiheintiedig na ellir ond ei defnyddio unwaith yn unol â’r protocol triniaeth i gynnwys:
· 11.1 addasu technegau chwistrellu, o ran dyfnder a dodi
12. monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth pigiad fitamin/mwynau yn unol â gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
13. os bydd adwaith neu ddigwyddiad anffafriol, cymryd camau cywirol ar fyrder fel sydd wedi ei nodi yn y cynllun argyfwng i gynnwys:
· 13.1 ceisio a rhoi ar waith ymyrraeth feddygol ar unwaith gan rywun proffesiynol ym maes iechyd sydd wedi ei nodi a’i hyfforddi i ddelio gyda chymhlethdoddau fel sydd wedi ei nodi yn y cynllun argyfwng
14. cwblhau’r driniaeth yn unol â’r protocol triniaeth pigiad fitamin/mwynau, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
15. cwblhau a chadw cofnodion triniaeth gosemtig yr unigolyn sydd heb fod yn llawfeddygol yn unol â deddfwriaeth gwybodaeth
16. defnyddio arfer adfyfyriol i werthuso’r driniaeth pigiad fitamin/mwynau a gweithredu’n briodol
17. rhoi a sicrhau cadarnhad eich bod wedi derbyn cyfarwyddiadau a chyngor geiriol ac ysgrifenedig a roddwyd i’r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth i gynnwys:
· 17.1 manylion cyswllt yr ymarferydd esthetig
· 17.2 y cynllun argyfwng
· 17.3 y cynllun wrth gefn os bydd rhywun yn absennol
18. cofnodi’r canlyniad y driniaeth pigiad fitamin/mwynau a’r gwerthusiad ohoni er mwyn cytuno ar ac hysbysu triniaethau yn y dyfodol
19. trafod a chytuno ar driniaethau yn y dyfodol gyda’r unigolyn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd cydweithio gyda phobl broffesiynol gymwys er mwyn cefnogi arferion gwaith effeithiol a diogel
- eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau pan yn cyflawni triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
- pam bod rhaid i chi gydymffurfio ag arfer foesegol a gweithio o fewn y gofynion deddfwriaethol
- pwysigrwydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, y polisïau, y wybodaeth, gweithdrefnau a chanllawiau am arfer orau ddiweddaraf
- yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma
- y mathau o gynhwysion cemegol mewn toddiadau fitamin/mwynau, eu cyfansoddiad a’u heffeithiau ffarmacolegol i gynnwys:
· 6.1. yr effaith ffisiolegol gaiff y toddiad mewn pigiad fitamin/mwynau ar anatomi’r corff, meinwe’r croen a’r cyflenwad gwaed - sut i addasu technegau chwistrellu ar gyfer dodi’r toddiad fitamin/mwynau o dan feinwe’r croen i mewn i’r srtwythurau sylfaenol er mwyn cwrdd ag anghenion yr unigolyn
- yr adweithiau anffafriol a gysylltir â thriniaeth pigiad fitamin/mwynau i gynnwys:
· 8.1 gwybodaeth am barthau perygl a sut i’w hosgoi - sut i weithredu yn y modd cywir os bydd adwaith neu ddigwyddiad anffafriol i gynnwys:
· 9.1 pam a phryd mae angen ymyrraeth feddygol ar unwaith - y strategaethau osgoi risg
- pwysigrwydd derbyn a dilyn cyfarwyddiadau gan berson proffesiynol ym maes gofal iechyd wedi’i nodi os bydd adwaith anffafriol
- diben, defnydd a chyfyngiadau triniaethau pigiad fitamin/mwynau mewn perthynas â:
· 12.1 hanes meddygol y gorffennol a chyfredol
· 12.2 hanes triniaethau cosmetig blaenorol nad ydynt yn llawfeddygol a/neu hanes triniaethau deintyddol
· 12.3 ffactorau perthnasol sy’n ymwneud â ffordd o fyw
· 12.4 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol wedi’u gwrtharwyddo
· 12.5 pha mor addas yw’r unigolyn yn gorfforol ac yn seicolegol ar gyfer triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol
· 12.6 disgwyliadau’r unigolyn
· 12.7 rheoli ymateb gorimiwnaidd
· 12.8 rheoli goradweithiau - y gofynion rheoleiddiol a deddfwriaethol ar gyfer dyfeisiadau meddygol
- y gofynion rheoleiddiol a deddfwriaethol ar gyfer cael gafael ar, cofnodi a rhoi pigiad fitamin/mwynau i gynnwys:
· 14.1 enw’r cynnyrch
· 14.2 rhif swp
· 14.3 dyddiad dod i ben
· 14.4 taflenni data’r deunyddiau
· 14.5 cadw
· 14.6 gwaredu
· 14.7 archwiliad ac atebolrwydd
· 14.8 man y pigiad - y mathau o reolaeth poen a’r risgiau cysylltiedig
- y gofynion deddfwriaethol a’r cyfyngiadau o ran cael gafael ar anesthetigion lleol trwyddedig, eu cadw a’u defnyddio
- y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth pigiad fitamin/mwynau
- pam ei bod yn bwysig trafod a sefydlu amcanion, pryderon, disgwyliadau’r unigolyn a’r canlyniadau y mae’n ei ddymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol
- y strwythurau taliadau a’r dewisiadau ar gyfer triniaeth
- y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer y driniaeth pigiad fitamin/mwynau
- pam ei bod yn bwysig caniatau amser i’r unigolyn adfyfyrio cyn cadarnhau a chytuno i dderbyn y driniaeth ddewisiol gosmetig nad yw’n llawfeddygol
- pwysigrwydd sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer y driniaeth pigiad fitamin/mwynau a’r strategaeth rheoli poen
- y mathau o gynnyrch glanwaith ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth pigiad fitamin/mwynau
- pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y driniaeth
- pwysigrwydd cadw at y cynllun argyfwng os bydd adwaith anffafriol
- y gofynion deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol ynglŷn â chymryd a chadw delweddau gweledol o fan triniaeth yr unigolyn
- canlyniadau disgwyliedig triniaeth pigiad fitamin/mwynau
- diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae’n hysbysu triniaethau yn y dyfodol
- sut i goladu, dadansoddi, crynhoi a chofnodi adborth gwerthusol mewn modd clir a chryno
- pwysigrwydd cofnodi canlyniad y driniaeth pigiad fitamin/mwynau a’r gwerthusiad ohoni
- y cyfarwyddiadau a’r cyngor cyn ac ar ôl y driniaeth pigiad fitamin/mwynau
Cwmpas/ystod
Gwrth arwyddion
1. hyperaemia
2. anafiadau
3. cleisio
4. chwydd gwyn
Dulliau chwistrellu
1. mewngyhyrol
2. isgroenol
3. llwybr-Z
Anatomeg a ffisioleg
1. strwythur a swyddogaeth systemau’r corff a’u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd
2. patholegau’r croen a systemaidd
3. patholegau digwyddiad anffafriol difrifol
4. gwybodaeth sylfaenol o ffarmacoleg a gwyddorau
5. effeithiau meddyginiaethau ar y croen
6. astudiaeth o broses heneiddio’r croen a’r meinweoedd sylfaenol/effeithiau adamsugniad yr esgyrn a dealltwriaeth o anatomeg cymhleth y corff a chyflenwad gwythienol a rhydwelïol y gwaed
Adweithiau anffafriol
1. haint
2. difrod i’r nerf
3. cyfog
4. adwaith alergaidd
5. goradweithiau
6. gorddos o fitaminiau
7. camdreuliad
8. Llewygu
9. Pendro
10. gorsensitifrwydd
Strategaethau osgoi risg
1. cynllun argyfwng
2. asesiad(au)risg
3. hanes meddygol caffaeledig
4. cynllun(iau) triniaeth
5. mannau triniaeth cyfyngedig
6. cyfarwyddiadau a chyngor cyn ac ar ôl triniaeth
7. osgoi defnyddio heb drwydded
8. brechiadau
9. cymhwyster cymorth cyntaf yn y gwaith a cefnogaeth bywyd sylfaenol neu ei gyffelyb
10. arferion gwaith iechyd a diogelwch cyffredinol
11. atal a rheoli haint
12. amgylchedd waith
13. cydweithrediad gyda phobl broffesiynol ym maes gofal iechyd/rhagodwr annibynnol wedi’i reoleiddio/pobl broffesiynol briodol
14. protocol deddfwriaethol rhagnodi
15. rheolaeth meddyginiaethau
16. cydsyniad gwybodus
17. rheolaeth data
18. archwiliad ac atebolrwydd
19. dealltwriaeth o’r ffarmacoleg
20. rheolaeth gwastraff
21. asesiad o addasrwydd corfforol ac emosiynol yr unigolyn
Protocol triniaeth pigiad fitamin a mwynau
1. amgylchedd waith
2. iechyd a diogelwch
3. cynllun rheoli risg
4. atal a rheoli haint
5. person proffesiynol ym maes gofal iechyd wedi ei nodi/rhagnodwr annibynnol wedi’i reoleiddio
6. cynllun argyfwng
7. cynllun triniaeth
8. cydsyniad gwybodus
9. pobl broffesiynol briodol
10. rheolaeth data
11. archwiliad ac atebolrwydd
12. cyfarwyddiadau a chyngor
13. rheolaeth gwastraff
14. ymarfer adfyfyriol ac wedi’i seilio ar dystiolaeth
Cyfarwyddiadau
1. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn, person proffesiynol ym maes gofal iechyd a’r ymarferydd esthetig
2. cynllun argyfwng
3. disgwyliadau ôl-driniaethol ac amserlenni cysylltiedig
4. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
5. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
6. triniaethau yn y dyfodol
7. gweithdrefn cwynion neu brotocol pryderon
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Adweithiau anffafriol
Gelwir adweithiau anffafriol hefyd yn ddigwyddiadau anffafriol neu risgiau cysylltiedig.
Adwaith anffafriol yw adwaith gorfforol neu ffisiolegol annisgwyl i driniaeth sy’n cael ei chyflawni.
Gwrth weithred
Gwrth weithred yw adwaith dros dro ddisgwyliedig o driniaeth.
Cynllun argyfwng
Cyfrifoldeb yr ymarferydd esthetig yw’r cynllun argyfwng sy’n cynnwys y defnydd o gyfarpar argyfwng a gallu cael gafael ar hwnnw. Bydd person proffesiynol ym maes gofal iechyd sydd wedi’i nodi yn gweithredu fel y rhagnodwr annibynnol wedi’i reoleiddio os oes angen meddyginiaeth y gellir ond ei roddi ar brescripsiwn os bydd adwaith anffafriol. Mae gan y rhagnodwr annibynnol sy’n cael ei reoleiddio ddyletswydd o ofal tuag at ei gleifion ac i ddilyn y canllawiau rheoleiddiol a osodir allan gan eu Corff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiedig.
Marciau cyn y driniaeth
Dylid gwneud marciau cyn triniaeth drwy ddefnyddio pen ysgrifennu lawfeddygol ddiheintiedig a ddefnyddir unwaith. Defnyddir marciau cyn driniaethol er mwyn creu canllawiau ar gyfer nodi safleoedd ar gyfer chwistrelliadau fel sydd wedi ei nodi yn y cynllun triniaeth gosmetig and yw’n llawfeddygol.
Man Triniaeth
Y man mynegol i’w drin, gellir hefyd cyfeirio ato fel man y driniaeth neu ei enw anatomegol
Rhagofalon cyffredinol a rhagofalon safonol
Mae rhagofalon cyffredinol yn berthnasol os yw’r ymarferydd yn dod i gysylltiad â gwaed a/neu rywfaint o hylif corfforol. Cyfrifoldeb yr ymarferydd yw rhoi mesurau atal a rheoli haint ar waith er mwyn atal dod i gysylltiad â phathogenau a drosglwyddir drwy waed neu Ddeunyddiau Eraill all fod yn Heintus (OPIM).
Rhagofalon safonol yw’r lefel sylfaenol o reoli haint ddylai gael ei ddefnyddio bob amser o fewn yr amgylchedd waith, megis glendid dwylo, cyfarpar amddiffyn personol, atal anafiadau gan nodwyddau neu declynnau miniog, asesiad risg, glendid anadlol ac ymddygiad safonol ynghylch pesychu, glanhau amgylcheddol a chael gwared o wastraff.
Delweddau gweledol
Delweddau gweledol yw tystiolaeth sydd wedi’i chynhyrchu drwy ffotograffau neu fideo.
Dolenni I NOS Eraill
SKANSC1, SKANSC2, SKANSC3, SKANSC4, SKANSC5, SKANSC6, SKANSC7, SKANSC8, SKANSC9, SKANSC10, SKANSC11, SKANSC12, SKANSC13, SKANSC15, SKANSC16, SKANSC17, SKANSC18, SKANSC20, SKANSC21, SKANSC22, SKANSC23