Gwneud dadansoddiad trylwyr o’r croen gan ddefnyddio technolegau

URN: SKANSC14
Sectorau Busnes (Cyfresi): Therapi Harddwch, Therapi Sba, Estheteg Harddwch, Triniaethau Cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol
Datblygwyd gan: SkillsActive
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKANSC1: Rhoi arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol ar waith a’u cynnal yn ystod triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol, SKANSC2: Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol. Mae’r safon yma ar gyfer ymarferwyr esthetig er mwyn adnabod mathau o groen, cyflyrau’r croen ac anafiadau i’r croen gan ddefnyddio technolegau. Mae ymarferwyr esthetig i fod i ddadansoddi, gwerthuso, penderfynu ar a rheoli cyflyrau’r croen. Rhaid i ymarferwyr esthetig weithio o fewn rhychwant eu maes ymarfer a chyfyngiadau eu hawdurdod a chyfeirio unigolion at bobl broffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd pan fo angen. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma feddu ar y wybodaeth sylfaen i ddeall anatomeg, ffisioleg a patholegau y cyflyrau croen maent yn neu harchwilio. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ôl-driniaeth ac adfyfyriad ar gyfer gwelliant parhaus. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon yma sicrhau bod eu harferion yn adlewyrchu’r wybodaeth, polisïau, gweithdrefnau a’r canllawiau diweddaraf ynglŷn ag arfer orau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dilyn gofynion cyfreithiol a safonau perthnasol, canllawiau yswiriant, a phrotocolau cyfundrenol pan fyddwch yn gwneud dadansoddiad o’r croen
  2. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch a glanwaith cyn, yn ystod ac ar ôl dadansoddi’r croen
  3. cyflawni ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr er mwyn hysbysu’r dadansoddiad o’r croen
  4. trafod a chynnig y rhesymeg y tu ôl i’r dadansoddiad o’r croen sy’n cael ei gynnig a’r protocolau ar gyfer eu cyflawni
  5. sicrhau dealltwriaeth yr unigolyn a derbyn cydsyniad gwybodus ar gyfer y driniaeth archwiliol a gynigir
  6. nodi a dethol y cyfarpar technegol sydd i’w ddefnyddio ar gyfer dadansoddi’r croen er mwyn penderfynu, adolygu a monitro cyflwr y croen sy’n cael ei gyflwyno gan ddilyn protocolau cyfundrefnol
  7. cofnodi delweddau gweledol a’u cadw’n ddiogel er mwyn gallu cyfeirio atynt yn y dyfodol at ddibenion monitro yn unol â gofynion deddfwriaethol, rheoleiddiol a digollediad
  8. gwerthuso’r math o groen a chyflyrau'r croen mewn perthynas â chyflyrau o’r croen y gwyddir amdanynt
  9. cyfosod, dadansoddi a gwerthuso’r wybodaeth a gaslgwyd o’r ymgynghoriad am y croen, y dadansoddiad o’r croen a’r dystiolaeth sylfaen sydd ar gael mewn perthynas â chyflwr y croen sy’n cael ei gyflwyno er mwyn hysbysu’r cynllun triniaeth
  10. trafod, ffurfio a chytuno gyda’r unigolyn ar y canlyniad yn seiliedig ar gasgliad y dadansoddiad o’r croen i gynnwys:
    · 10.1. buddiannau gorau’r unigolyn
    · 10.2. cyfrifoldebau moesegol gweithio o fewn rhychwant eich ymarfer
    · 10.3. addasu dulliau o gyfathrebu er mwyn cwrdd ag anghenion yr unigolyn
    · 10.4. gwrtharwyddion chydafiacheddau posibl
  11. cyfeirio at bobl broffesiyniol eraill pan fo canlyniad y dadansoddiad o’r croen yn dangos yr angen am hynny
  12. cofnodi’r wybodaeth a gasglwyd a chanlyniadau’r dadansoddiad o’r croen er mwyn cwrdd â gofynion cyfreithiol a phrotocolau cyfundrefnol
  13. adolygu ac adfyfyrio ar eich perfformiad er mwyn hysbysu datblygiad proffesiynol parhaus

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Y gofynion cyfreithiol a safonau perthnasol eraill, canllawiau yswiriant a phrotocolau cyfundrefnol pan fyddwch yn gwneud dadansoddiad o’r croen
  2. sut i gadw at eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau am iechyd, diogelwch a lles yr unigolyn a chi eich hunan cyn, yn ystod ac ar ôl dadansoddi’r croen
  3. pwysigrwydd gweithio o fewn rhychwant eich ymarfer
  4. y rhesymeg y tu ôl i’r dadansoddiad o’r croen sy’n cael ei gynnig, canfyddiadau disgwyliedig mewn gwahanol fathau o groen a swyddogaeth ymarfer wedi’i seilio ar dystiolaeth
  5. y protocolau ar gyfer y defnydd cywir a diogel o dechnolegau dadandoddi croen
  6. sut i ddehongli canlyniadau o’r driniaeth dadansoddi croen
  7. sut i adolygu a monitro’r cyflwr croen sy’n cael ei gyflwyno, gan ddilyn protocolau cyfundrefnol
  8. pwysigrwydd sicrhau cydsyniad gwybodus a’r gofynion ar gyfer hynny
  9. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn a’u cadw’n unol â gofynion cyfreithiol, yswiriant a chyfundrefnol y gwasanaeth
  10. sut i werthuso nodweddion a difrifoldeb cyflyrau'r croen sy’n cael eu cyflwyno mewn perthynas â dosbarthiadau o’r croen y gwyddir amdanynt
  11. sut mae’r ymgynghoriad am y croen, yr asesiad cychwynol, y dystiolaeth sydd ar gael a chanlyniadau’r dadansoddiad o’r croen gyda’i gilydd yn hysbysu cynllun triniaeth wedi’i deilwrio
  12. sut i werthuso’r dystiolaeth sylfaen yn feirniadol
  13. yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma
  14. arwyddion a phatrymau normal ac anffafriol cyflyrau o’r croen ar draws pob mathau o groen
  15. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ac anafiadau o’r croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd
  16. y newidynnau bywydegol, symptomau cysylltiedig, y dangoswyr ffisiolegol a’r cydafiacheddau all gyfrannu tuag at bathoffisioleg y newidiadau i’r croen sydd wedi eu sylwi
  17. y marcwyr biogemegol all achosi newidiadau i’r croen
  18. sut i ddatblygu’r cynllun triniaeth a gytunwyd gyda’r unigolyn ar sail casgliad y dadansoddiad o’r croen, i gynnwys:
    18.1 yr effaith ar y prognosis
    18.2 y amrywiaeth o ddewisiadau sydd ar gael ar gyfer rheolaeth
  19. sut i gwblhau cofnodion cywir, diogel a chyfoes o’r wybodaeth a gasglwyd a chanlyniadau’r dadansoddiad o’r croen er mwyn cwrdd â gofynion cyfreithiol a phrotocolau cyfundrefnol, gan ystyried:
    19.1 hawliau’r unigolyn
    19.2 archwilio ac atebolrwydd
  20. pwysigrwydd cydweithredu â phobl broffesiynol fedrus er mwyn cefnogi arferion gwaith effeithiol a diogel
  21. pwysigrwydd ymhel â datblygiad proffesiynol parhaus a’i ddogfennu, polisïau gwybodaeth wedi’u diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau am arfer orau

Cwmpas/ystod

Dadansoddiad o’r croen
1.  Archwiliad gweledol o’r croen
2.  Archwiliad o’r croen â llaw
3.  Chwyddolau
4.  Golau Woods
5.  Sganiwr croen digidol
6.  Dermascop
7.  Synhwyrydd/sganiwr hydradiad
Dosbarthiad y croen
1.  Graddfa Fitzpatrick
2.  Difrod-ffoto Graddfa Glogau
3.  Graddfa Lancer
4.  Ffenotip a genoteip
5.  Graddfa gwëad croen Monk
6.  Graddfa Rubins
Cyflwr y croen
1.  hydwythedd llac
2.  gorliwio a thanliwio
3.  gorddwys
4.  llinorog
5.  bregus
6.  fasgwlaidd
7.  sensiteiddiedig
8.  sensitif
9.  wedi sychu
10. ffoto-sensitif
11. wedi’i niweidio gan olau
12. wedi dylu
Math o groen
1.    sych
2.    olewog
3.    cyfuniad
4.    cytbwys
Anatomeg a ffisioleg
1.  anatomeg a ffisioleg y croen
2.  cyd-ddibyniaeth systemau’r corff a’r organau, meinweoedd trefniant y celloedd a homeostasis,
3.  swyddogaeth rhwystro’r croen, rheoleiddiad ac effaith clwyf yn iachau
4.  gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig
5. ffactorau cynhenid ac anghynghenid sy’n effeithio ar gyflwr y croen
6. meini prawf ar gyfer graddio acne
Arwyddion a phatrymau
1.  Presenoldeb, maint a lleoliad erythema
2.  Problemau fasgiwlaidd o fewn y croen
3.  Arwyddion sy’n dynodi creithio a ffeibrosis
4.  Dadliwiad, gorliwiad neu danliwiad y croen
5.  Anafiadau cynradd neu eilaidd i’r croen
6.  Anafiadau diniwed ac amheus i’r croen
7.  Presenoldeb llidiwr fu mewn cysylltiad neu ymateb i alergi
8.  Presenoldeb haint neu bla
9.  Gor-secretiad neu dan-secretiad o sebwm a chwys


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Wedi ei seilio ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.
Cydsyniad Gwybodus
Caniatad wedi ei roi gan yr unigolyn i’r ymarferydd ddarparu gofal, triniaeth neu wasanaethau eraill, neu rywun sy’n gweithredu ar eu rhan, ar ôl derbyn yr holl wybodaeth y maent yn rhesymol ei angen i wneud y penderfyniad hwnnw
Cyfeirio
Cyfeirio yw gofyn i rywun arall ddarparu, gofal triniaeth neu wasnaethau eraill sydd y tu hwnt i rychwant ymarfer yr ymaferydd, neu oherwydd fod yr unigolyn wedi gofyn am ail farn lle bo hynny’n berthnasol.
Rhychwant ymarfer
Rhychwant ymarfer yw’r gweithdrefnau, gweithredoedd a’r prosesau y caniateir i ymarferydd ymhel â hwy yn unol â’u haddysg benodol, lefel arbenigedd a medrusrwydd
 Delweddau gweledol
Mae delweddau gweledol yn ymwneud â’r holl ddelweddau sy’n cael eu cofnodi gan gynnwys, fideo, ffotograffiaeth a delweddau digidol meicrosgopaidd o’r gwallt a/neu groen y pen. Rhaid wrth gydsyniad yr unigolyn i wneud hyn


Dolenni I NOS Eraill

SKANSC1, SKANSC2, SKANSC3, SKANSC4, SKANSC5, SKANSC6, SKANSC7, SKANSC8, SKANSC9, SKANSC10, SKANSC11, SKANSC12, SKANSC13, SKANSC15, SKANSC16, SKANSC17, SKANSC18, SKANSC19, SKANSC20, SKANSC21, SKANSC22, SKANSC23


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKANSC16

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch, Estheteg Harddwch, Ymarferydd Estheteg

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

Dadansoddiad o’r croen, technolegau