Cynnal glendid cyfarpar mewn gweithrediadau logisteg

URN: SFLWS16
Sectorau Busnes (Cyfresi): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal glendid cyfarpar mewn gweithrediadau logisteg. Nid yw hyn yn golygu gwneud gwaith cynnal a chadw; bydd hyn yn gyfrifoldeb i beirianwyr cynnal neu gontractwyr allanol. Mae’n cynnwys defnyddio offer a deunyddiau i lanhau cyfarpar a’i adael mewn cyflwr diogel a glân.

Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth, neu anfon nwyddau ymlaen.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cadarnhau bod y cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer gweithrediadau logisteg yn cael ei wneud yn ddiogel cyn ei lanhau
  2. defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (PPE), offer a deunyddiau addas i gynnal glendid y cyfarpar mewn gweithrediadau logisteg
  3. dewis a defnyddio’r offer a’r deunyddiau glanhau cymeradwy, fel y nodir yng nghyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
  4. cyflawni’r arferion glanhau cywir yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd a gweithdrefnau sefydliadol
  5. gweithredu rhagofalon diogelwch i ddiogelu pobl yn yr ardaloedd gwaith rhag peryglon glanhau yn ystod gweithdrefnau glanhau
  6. lleihau anghyfleustra i bobl eraill yn yr ardaloedd gwaith wrth lanhau
  7. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  8. dychwelyd offer a deunyddiau glanhau heb eu defnyddio i’r ardal storio gywir
  9. cadarnhau bod y cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer gweithrediadau logisteg mewn cyflwr defnyddiol a diogel ar ôl ei lanhau
  10. nodi ac ymateb i broblemau gyda’r cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer gweithrediadau logisteg
  11. cadw cofnodion y gwaith a wnaed, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  12. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol ar gyfer glanhau cyfarpar 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i gadarnhau bod y cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer gweithrediadau logisteg yn ddiogel ar gyfer ei lanhau ac yn addas at y diben
  2. sut i gynnal glendid y cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer gweithrediadau logisteg
  3. y Cyfarpar Diogelu Personol (PPE), yr offer a’r deunyddiau y dylid eu defnyddio wrth lanhau cyfarpar mewn gweithrediadau logisteg a ble i ddod o hyd iddynt
  4. cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd perthnasol a gofynion sefydliadol sy’n berthnasol i’r offer a’r deunyddiau glanhau a ddefnyddir i gynnal cyfarpar mewn gweithrediadau logisteg
  5. yr arferion, offer a’r deunyddiau glanhau sydd yn angenrheidiol ar gyfer eitemau penodol o gyfarpar, fel y nodir gan gyfarwyddiadau’r cynhyrchydd a gweithrediadau sefydliadol
  6. y gweithdrefnau adnewyddu stoc ar gyfer deunyddiau glanhau 
  7. y mathau o broblemau a allai godi wrth lanhau cyfarpar a sut i ymateb i’r rhain
  8. rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr sydd yn gysylltiedig â glanhau cyfarpar
  9. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer gwaredu deunyddiau glanhau a gwastraff arall
  10. y systemau cofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a’r gofynion ar gyfer cadw cofnodion
  11. y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol a gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu yn ymwneud â glanhau cyfarpar mewn gweithrediadau logisteg


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Deunyddiau glanhau: peryglus, cyrydol, gwenwynig, ffrwydrol

Cyfarpar: offer, teclynnau, peiriannau, lifftiau, cludwyr, craeniau, systemau silffoedd a rheseli

Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): siacedi llachar, hetiau caled, diogelwch llygaid, menig, esgidiau uchel

Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid 

Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLWS16

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Trin a Storio Nwyddau, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol

Cod SOC

9252

Geiriau Allweddol

cynnal; glendid; cyfarpar