Dadansoddi a gwerthuso gwybodaeth am gaffael nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
URN: SFLSCM95
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â dadansoddi a gwerthuso gwybodaeth am gaffael nwyddau yn y gadwyn gyflenwi. Mae’n cynnwys cael, cydgrynhoi a pharatoi’r wybodaeth, nodi ffactorau hanfodol a deall y galw am nwyddau. Mae hefyd yn cynnwys nodi problemau gyda chaffael a rhoi canlyniad y gwerthusiad i gydweithwyr.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant, neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- egluro diben y dadansoddiad a’r gwerthusiad
- cael y wybodaeth berthnasol ar gaffael nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
- cydgrynhoi a pharatoi’r wybodaeth ar gyfer dadansoddi
- dadansoddi’r wybodaeth am gaffael nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
- defnyddio dulliau a thechnegau dadansoddi sy’n berthnasol i’r wybodaeth
- gwerthuso’r wybodaeth am gaffael nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
- nodi ffactorau hanfodol sy’n effeithio ar gaffael nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
- nodi’r galw am nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
- nodi unrhyw faterion gyda’r gadwyn gyflenwi sydd yn gofyn am weithredu ar unwaith
- rhoi canlyniadau’r gwerthusiad i gydweithwyr mewn ffordd sydd yn helpu i wella perfformiad y gadwyn gyflenwi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
- ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad ar brosesau cadwyn gyflenwi
- y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a sefydliadol perthnasol ar gyfer caffael nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
- y dulliau a’r technegau dadansoddi sy’n berthnasol i’r wybodaeth
- y dulliau sydd ar gael ar gyfer gwerthuso gwybodaeth am gaffael nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion caffael
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion mesur a meincnodi perfformiad a ddefnyddir gan eich sefydliad i ddadansoddi a gwerthuso caffael nwyddau
- y damcaniaethau, modelau ac arferion rheoli ansawdd
- y dulliau a’r gweithdrefnau dadansoddi ariannol a ddefnyddir gan eich sefydliad i gynorthwyo gyda’r gwaith o ddadansoddi a gwerthuso caffael nwyddau
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi risg
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi
Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, trafnidiaeth a rheoli gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLSCM95
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
dadansoddi; gwerthuso; gwybodaeth; caffael; cyflenwadau; cadwyn gyflenwi