Nodi gofynion ar gyfer storio nwyddau
URN: SFLSCM102
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â nodi gofynion ar gyfer storio nwyddau. Mae’n cynnwys cael gwybodaeth, cadarnhau argaeledd adnoddau a darparu manylebau ar gyfer lleoliadau storio. Mae hefyd yn cynnwys asesu’r holl ffactorau perthnasol, hysbysu cydweithwyr a chadarnhau bod manylebau’n cydymffurfio â gofynion.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael y wybodaeth berthnasol ar y nwyddau sy’n cael eu storio
- cadarnhau argaeledd adnoddau sydd eu hangen ar gyfer storio nwyddau
- darparu manylebau ar gyfer lleoliadau a chyfleusterau storio sydd eu hangen ar gyfer storio nwyddau
- nodi ac asesu’r ffactorau a’r risgiau perthnasol a allai effeithio ar storio nwyddau
- hysbysu’r holl gydweithwyr perthnasol am y manylebau storio
- cadarnhau bod yr holl gydweithwyr perthnasol yn cael eu hyfforddi ar ofynion y nwyddau sydd yn cael eu storio
- cadarnhau bod yr holl systemau a ddefnyddir gan y sefydliad i storio a monitro nwyddau yn eu lle
- cydymffurfio â’r holl ofynion perthnasol ar gyfer y manylebau storio
- cydymffurfio â’r holl weithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol sy’n ofynnol ar gyfer y dulliau dosbarthu dethol
- hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd o fewn y sefydliad, a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth ddewis dulliau dosbarthu ar gyfer nwyddau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
- ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad ar brosesau cadwyn gyflenwi
- y dulliau a’r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer nodi’r gofynion ar gyfer storio nwyddau
- y mathau o adnoddau sy’n ofynnol ar gyfer storio nwyddau gwahanol
- y ffactorau a’r risgiau sy’n effeithio ar storio nwyddau a sut i nodi ac asesu’r rhain
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer storio nwyddau
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion logisteg
- y mathau o ddulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad
- y mathau o systemau a ddefnyddir gan y sefydliad i storio a monitro nwyddau
- pwysigrwydd cadarnhau bod yr holl gydweithwyr perthnasol wedi eu hyfforddi ar ofynion y nwyddau sydd yn cael eu storio
- y gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol yn ymwneud â dosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
- sut i nodi unrhyw fesurau diogeledd a bioddiogelwch sydd eu hangen gan y nwyddau sydd yn cael eu dosbarthu
- eich cyfrifoldeb chi a’r sefydliad dros ddiogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth ddosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi
Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Manylebau: set o ofynion i gael eu bodloni gan gynnyrch materol neu wasanaeth
Ffactorau: yn cynnwys rhai amgylcheddol, daearyddol, strwythurol
Lleoliadau a chyfleusterau storio: dros dro neu barhaol, amgylchynol, wedi oeri, sych, awyr agored, dan do, wedi ei awyru, mynediad gwahanol a chyfyngedig. Gallai’r manylebau fod o’r math o farchnad, y lleoliad, y math o nwyddau neu ofynion y cwsmer.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLSCM102
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
storio; nwyddau; cadwyn gyflenwi