Datblygu a gweithredu system rheoli llwythi i gadarnhau cydymffurfio â gofynion trwydded gweithredwr trafnidiaeth gludo
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu a gweithredu system rheoli llwythi i gadarnhau cydymffurfio â gofynion trwydded gweithredwr trafnidiaeth gludo. Mae'n cynnwys cynnal adolygiad o systemau rheoli presennol y sefydliad er mwyn nodi meysydd i'w datblygu. Mae hefyd yn cynnwys cadarnhau bod y system rheoli llwythi yn cydymffurfio â gofynion trwydded y gweithredwr. Byddwch yn gyfrifol am weithio gyda chydweithwyr i sicrhau eu bod yn deall ac yn defnyddio'r systemau, yn cynnwys cydymffurfio â gofynion y drwydded.
* *
Mae'r safon hon ar gyfer y Gweithredwr, sef y deiliad a enwir ar y drwydded, a'r Rheolwr Trafnidiaeth mewnol neu allanol, sydd yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfio â thrwydded y gweithredwr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal archwiliad o systemau rheoli mewnol i nodi a rheoli risg o ran cydymffurfio â thrwydded y gweithredwr
- gwerthuso canlyniad yr archwiliad mewnol yn erbyn y gofynion o ran cydymffurfio â thrwydded y gweithredwr trafnidiaeth gludo
- diffinio a datblygu system rheoli llwythi fewnol i gadarnhau cydymffurfio â gofynion trwydded y gweithredwr trafnidiaeth gludo
- datblygu cynllun gweithredu ar gyfer y system rheoli llwythi
- cadarnhau bod y system rheoli llwythi a'r cynlluniau gweithredu wedi cael eu cytuno gan yr holl gydweithwyr cysylltiedig
- cyfathrebu'r system rheoli llwythi a'r cynlluniau gweithredu i gydweithwyr perthnasol ym maes gweithrediadau trafnidiaeth gludo
- cyfathrebu pwysigrwydd y system rheoli llwythi a'r cyfrifoldebau rheoliadol perthnasol i gydweithwyr perthnasol
- hyfforddi cydweithwyr perthnasol i ddefnyddio'r system rheoli llwythi
- cadarnhau bod y system rheoli llwythi wedi cael ei gweithredu gan y cydweithwyr cysylltiedig
- gweithio gyda chydweithwyr perthnasol i gael adobrth ar effeithiolrwydd y system rheoli llwythi a gweithredu'r newidiadau cytûn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- egwyddorion a phrosesau cynnal archwiliad systemau mewnol
- gofynion trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth gludo
- y dulliau gwerthuso a chofnodi sy'n berthnasol i systemau archwilio mewnol
- pwysigrwydd diffinio gofynion system rheoli llwythi i fodloni anghenion sefydliadol a rheoliadol perthnasol
- pwysigrwydd cynnwys cydweithwyr wrth ddatblygu systemau rheoli llwythi a chynlluniau gweithredu ar gyfer gweithrediadau trwydded
- sut i ddatblygu system rheoli llwythi i gadarnhau cydymffurfio â gofynion trwydded gweithredwr llwythi
- sut i ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer system rheoli llwythi
- pwysigrwydd cyfathrebu a hysbysu cydweithwyr ynghylch newidiadau a chadarnhau eu hymrwymiad i'r system rheoli llwythi er mwyn lleihau'r perygl o ddiffyg cydymffurfio
- buddion a phwysigrwydd cael system rheoli llwythi wedi ei sefydlu i gydymffurfio â gofynion trwydded y gweithredwr llwythi
- sut i nodi a rheoli diffyg cydymffurfio â thrwydded y gweithredwr trafnidiaeth gludo yn eich sefydliad
- egwyddorion gwelliant parhaus a'r buddion i'r unigolyn a'r sefydliad
- egwyddorion cynllunio, rheoli ansawdd a sicrhau ansawdd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Dylid sefydlu system rheoli llwythi i gynnwys:
- oriau gyrwyr
- gwiriadau trwydded gyrrwr
- rheoliadau amser gwaith
- gweithdrefnau tacograff
- cydymffurfio gan weithredwr (system archwilio)
- addasrwydd ar gyfer mynd ar y ffordd
- diffygion cerbyd ac unioni'r rhain
- cynnal a chadw cofnodion hyfforddiant
- cofnodion ariannol
- dogfennau cyfreithiol
- Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC) a sgôr OCRS
- addasrwydd y ganolfan weithredu
- cyfleusterau glanhau a systemau gwaith diogel.
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
System rheoli llwythi: dylai gynnwys amcanion, dangosyddion, mesuriad, cyfrifoldebau, casglu a lledaenu gwybodaeth, meincnodau, dadansoddi, adrodd, llawlyfr proses