Gwirio a diogelu’r tancer a’r llwyth

URN: SFL213
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gyrru Cerbydau Nwyddau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2023

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â gwirio a diogelu’r tancer a’r llwyth ar adegau yn ystod taith.

Mae’n cynnwys y gwiriadau ffisegol y mae angen i yrwyr eu gwneud a’r gweithdrefnau perthnasol a’r dogfennau cysylltiedig y mae angen iddynt eu cwblhau yn ystod y daith. Mae’n gofyn i yrwyr fod yn ymwybodol o ffactorau a allai effeithio ar ddiogelwch y tancer a’r llwyth sy’n cael ei gario, a’r camau y gallant eu cymryd i leihau’r risg.

Mae’r safon hon yn berthnasol ar gyfer gyrwyr tanceri a’r rheiny sy’n gyfrifol am danceri o fewn sefydliadau logisteg.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cael gwybodaeth am y gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â diogelu’r tancer a’r llwyth sy’n cael ei gario
  2. cael gwybodaeth am y math o lwyth sy’n cael ei gario
  3. dilyn yr holl reoliadau a’r ddeddfwriaeth yn ymwneud â’r math o lwyth sy’n cael ei gario
  4. gwirio diogeledd a chyflwr y llwyth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  5. adrodd am unrhyw newid yng nghyflwr y llwyth sy’n cael ei gario, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  6. gwirio diogeledd y tancer, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  7. nodi unrhyw faterion gyda’r tancer a chymryd y camau gofynnol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  8. adrodd am unrhyw ladrad neu niwed i’r tancer neu’r llwyth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  9. dilyn gweithdrefnau sefydliadol i ddiogelu diogeledd y tancer, eich hun, teithwyr a’r llwyth mewn lleoliadau gwahanol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​ble i gael gwybodaeth am weithdrefnau sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredu perthnasol ar gyfer y tancer a’r llwyth sy’n cael ei gario
  2. y camau sy’n ofynnol os oes unrhyw faterion yn cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer gwirio’r tancer a’r llwyth
  3. ble i ddod o hyd i wybodaeth am y llwyth penodol sy’n cael ei gario a’i nodweddion
  4. pryd dylid cynnal gwiriadau a sut i nodi niwed neu ddirywiad yng nghyflwr y llwyth sy’n cael ei gario
  5. y gweithdrefnau adrodd os oes newid yn y cyflwr neu unrhyw faterion eraill gyda’r llwyth
  6. pryd dylid cynnal gwiriadau a’r gweithdrefnau adrodd os oes unrhyw faterion gyda’r tancer
  7. y gweithdrefnau adrodd ar gyfer lladrad neu niwed i’r tancer neu’r llwyth
  8. y dulliau o ddiogelu’r tancer a’r mathau gwahanol o lwyth
  9. y mathau o risg sydd yn gysylltiedig â diogelu’r tancer, chi eich hun, teithwyr a’r llwyth mewn lleoliadau gwahanol
  10. y gweithdrefnau sefydliadol i’w dilyn ar gyfer diogelu’r tancer a’r llwyth rhag risgiau gwahanol a’r materion sydd yn gallu digwydd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

  • ​Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: Rheolau’r Ffordd Fawr, rheoliadau trafnidiaeth, rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, oriau gyrwyr, trwyddedau, gofynion Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC), gofynion yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau (DVSA), Cynllun Cydnabod Gweithredwyr Fflyd (FORS), cyfyngiadau alcohol a chyffuriau, arwyddion, yn ymwneud â gollyngiadau, tarthau, llwytho a dadlwytho, gofynion sefydliadol
  • Llwyth: powdrau, deunyddiau gronynnol, mwynau, hylifau, nwyon, bwyd, cynnyrch nad yw’n fwyd, peryglus, gwastraff
  • Lleoliadau: parcio dros nos, parcio yn ystod y dydd, ail-lenwi â thanwydd, gyrru, llwytho, dadlwytho, croesfannau ffin, gorsafoedd gwasanaeth
  • Risgiau: lladrad, herwgipio, niwed maleisus, dirywiad y llwyth, diogeledd pobl, masnachu mewn pobl, terfysgaeth
  • Tancer: y tancer yr ydych yn ei yrru fel arfer, cynwysyddion tancer a chyfarpar ategol

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFL213

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Gweithwyr Cyswllt Trafnidiaeth

Cod SOC

8214

Geiriau Allweddol

diogelu; tancer; hylifau; powdrau; nwyon; llwyth