Rhagweld ac asesu risg argyfyngau

URN: SFJCCAB1
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwydnwch ac Argyfyngau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â rhagweld ac asesu’r risgiau y mae unigolion, cymunedau a sefydliadau yn eu hwynebu. Mae’n cynnwys gweithio’n gydweithredol er mwyn deall y risgiau hyn a sicrhau bod asesiadau risg yn cael eu cyfleu’n effeithiol er mwyn hysbysu gweithgareddau gwydnwch. Mae’n galluogi gweithwyr proffesiynol i gymhwyso dulliau asesu risg priodol, rheoli eu cyfyngiadau, a bod yn atebol am ansawdd a chywirdeb y wybodaeth maen nhw’n ei darparu. Mae’r safon hon yn sicrhau bod asesiadau risg yn cael eu defnyddio i lywio gwneud penderfyniadau a gwella parodrwydd, ymateb a chynllunio adfer.

Mae’r safon hon, sydd wedi’i hanelu at y rhai sy’n gyfrifol am nodi, rhagweld, asesu a chyfleu risgiau, yn cefnogi’r bobl hynny mewn cyd-destunau gwydnwch ac argyfyngau i wneud penderfyniadau gwybodus sy’n seiliedig ar dystiolaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  • gwerthuso ac archwilio ymagweddau rhagweld, asesu a monitro risgiau gan ddefnyddio prosesau llywodraethu
  • diffinio diben, graddfa a chwmpas asesu risg
  • nodi a chydweithredu â phartneriaid a rhanddeiliaid wrth asesu a monitro risg, gan ddiweddaru strategaethau partneriaeth, ymgysylltu ac atebolrwydd fel bo angen
  • gwerthuso deddfwriaeth, dyletswyddau, codau ymarfer sector a chanllawiau perthnasol i nodi cyfrifoldebau, blaenoriaethau ac ymagweddau
  • casglu a gwerthuso gwybodaeth bresennol sy’n gysylltiedig â risg, gan nodi bylchau a chyfyngiadau
  • gwerthuso’r cyd-destun risg rydych chi’n gweithio ynddo
  • sicrhau bod gwybodaeth risg yn cael ei chymhwyso mewn ffordd sy’n addas i’r cyd-destun, y raddfa a’r sector y mae’n cael ei defnyddio ynddo
  • cymhwyso dulliau priodol o asesu a rhagweld risg
  • datblygu senarios a phroffiliau manwl, gyda thystiolaeth ac ar raddfa i’w defnyddio ledled camau’r cylch gwydnwch
  • cofnodi’r dulliau, y rhagdybiaethau a’r ansicrwydd mewn rhagweld, blaenoriaethu, asesiadau a monitro risgiau
  • cynllunio, gweithredu a dilysu systemau monitro risgiau sy’n bodloni anghenion y sefydliad, partneriaid a rhanddeiliaid
  • defnyddio dulliau adrodd, cyflwyno a chyfathrebu addas i alluogi dealltwriaeth o wybodaeth risg a gweithredu ar wybodaeth risg
  • gweithio o fewn mecanweithiau gwerthuso ac atebolrwydd i sicrhau bod gwybodaeth risg yn cael ei chymhwyso’n effeithiol wrth wneud penderfyniadau, yn natblygiad polisi ac mewn ymarfer gweithredol
  • gwerthuso a chymhwyso gwybodaeth fonitro i ddiweddaru asesiadau risg a pharodrwydd i ymateb, gan addasu yn ôl natur ddynamig risgiau
  • sefydlu a chymhwyso prosesau i fonitro, adolygu a gwella prosesau rhagweld ac asesu risgiau yn
  • ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus a rhannu arfer da ac arloesol yn seiliedig ar dystiolaeth yn y maes galwedigaethol hwn

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  • cysyniad risg, termau cysylltiedig a sut maen nhw’n cael eu cymhwyso mewn sectorau gwahanol
  • deddfwriaeth, safonau, codau ymarfer, canllawiau a modelau ar gyfer rhagweld, asesu, monitro a chyfleu risgiau
  • sefydliadau eraill sy’n asesu ac yn rheoli risgiau
  • ffactorau sy’n dylanwadu ar ddifrifoldeb effeithiau ar randdeiliaid, yr amgylchedd, seilwaith a’r economi
  • canlyniadau uniongyrchol a hirdymor effeithiau argyfyngau a chamau gweithredu gwydnwch neu ymateb
  • risgiau posibl i sefydliadau, gan gynnwys canlyniadau ariannol a gweithredol, a chanlyniadau i enw da
  • perchnogion risg, rhanddeiliaid a’u cyfrifoldebau o ran asesu, monitro a chyfleu risgiau
  • strwythurau ar gyfer rheoli a chyfleu risgiau yn gydweithredol
  • dulliau rhagargoeli, rhagweld a ffynonellau gwybodaeth am risgiau newydd a risgiau sy’n dod i’r amlwg
  • ffynonellau, buddion a chyfyngiadau gwybodaeth risg sylfaenol ac eilaidd
  • gwerth cyfuno gwybodaeth dechnegol a gwybodaeth ddealledig er mwyn deall risgiau yn well
  • dulliau o asesu bregusrwydd a galluoedd unigolion, ac anghenion unigolion sydd heb eu bodloni
  • dulliau o asesu risgiau, gan gynnwys ymagweddau ansoddol, meintiol a model dynamig
  • rôl monitro risgiau ac ymagweddau at fonitro risgiau er parodrwydd, bod yn barod ac ymateb
  • mathau o ansicrwydd a sut i’w rheoli a’u cyfleu yn effeithiol
  • opsiynau ar gyfer lleihau a rheoli risgiau
  • cymhwyso gwyddorau cymdeithasol ac ymddygiadol wrth ddeall a dylanwadu ar ymddygiad yng nghyd-destunau risgiau ac argyfyngau
  • buddion a chyfyngiadau ymagweddau cyffredin at gyflwyno, mapio a delweddu risgiau ledled y cylch gwydnwch
  • cyfleoedd sydd ar gael i ddysgu a datblygu yn y maes galwedigaethol hwn
  • rôl arfer myfyriol wrth werthuso perfformiad, nodi meysydd i’w gwella ac mewn datblygiad proffesiynol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Risg:

Y tebygolrwydd y bydd canlyniad perygl, bygythiad neu ddigwyddiad aflonyddgar yn negyddol i bobl, systemau, asedau neu amcanion. Mae risgiau’n fwy pan fydd mwy o fregusrwydd.

Cyd-destun risg

Yr amgylchiadau, yr amodau neu’r ffactorau sy’n dylanwadu ar sut mae risgiau’n cael eu hachosi, eu nodi, eu hasesu a’u rheoli, gan gynnwys amodau amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. Mae’n cynnwys diffinio’r paramedrau allanol (rhanddeiliaid a ffactorau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol) a mewnol (llywodraethu, diwylliant a galluoedd) sy’n llunio amgyffredion o risg a gwneud penderfyniadau.

Y cylch gwydnwch

Proses barhaus o baratoi ar gyfer risgiau ac argyfyngau, ymateb iddynt, adfer yn eu sgil, ac addasu iddynt. Mae’r cylch, sydd wedi esblygu o’r Cylch Rheoli Argyfyngau yn Integredig (IEM), yn adlewyrchu newid y DU o argyfyngau sifil posibl i ymagwedd wydnwch ehangach, gan bwysleisio dysgu ac addasu er mwyn gyrru gwelliannau hirdymor.

Asesu risgiau

Asesiad Risg Dadansoddol: Y broses systematig o nodi, dadansoddi a gwerthuso risgiau gan ddefnyddio dulliau ac offer strwythuredig. Mae’r ymagwedd hon yn cael ei chynnal pan fydd digon o amser i gasglu a gwerthuso gwybodaeth, ac mae’n aml yn cynnwys technegau ansoddol a meintiol er mwyn sicrhau bod dealltwriaeth gynhwysfawr ar gyfer gwneud penderfyniadau.

Asesiad Risg Dynamig: Asesu peryglon ac effeithiau yn barhaus yn ystod ymateb i ddigwyddiad. Mae’r ymagwedd hon, sy’n reddfol i raddau helaeth, yn dibynnu ar wybodaeth am y cyd-destun risg a’r profiad ohono, gan addasu yn wyneb amodau sy’n newid mewn amser real i sicrhau diogelwch ac effeithiolrwydd camau gweithredu’r ymateb.

Rhagweld risg

Nodi ac asesu risgiau a thueddiadau sy’n dod i’r amlwg yn rhagweithiol, cyn iddynt ddod yn ffaith. Mae’n canolbwyntio ar ragargoeli, cynllunio senarios, a dadansoddiad rhagfynegol i wella gwydnwch.

Monitro risg (sy’n wahanol i ragweld)

Arsylwi a dilyn trywydd risgiau hysbys yn barhaus er mwyn canfod newidiadau mewn tebygolrwydd, effaith neu ddifrifoldeb. Mae’n darparu data amser real i hysbysu gwneud penderfyniadau, fel arfer at ddiben rhybudd, bod yn barod, a chamau gweithredu’r ymateb.

Bygythiadau sy’n dod i’r amlwg

Risgiau newydd eu nodi neu risgiau sy’n esblygu sydd â’r potensial i niweidio cymunedau, sefydliadau, seilwaith neu’r amgylchedd. Mae angen asesu bygythiadau sy’n dod i’r amlwg yn barhaus ac addasu strategaethau rheoli risg yn barhaus.

Bregusrwydd

Mae bregusrwydd yn cyfeirio at nodweddion (fel diffyg incwm) unigolion, cymunedau, asedau neu systemau sy’n effeithio ar ba mor agored ydynt i niwed, yn benodol, galluoedd i ragweld niwed, ymdopi ag ef, ei wrthsefyll ac adfer yn dilyn niwed. Mae’r nodweddion hyn yn cael eu llywio gan amodau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol, fel chwyddiant, colli swyddi a diweithdra.

Dadansoddi bregusrwydd

Dadansoddi bregusrwydd yw’r broses o asesu pa mor agored yw unigolion, cymunedau, asedau, systemau neu’r amgylchedd i niwed gan beryglon a bygythiadau sydd wedi’u nodi. Mae hyn yn cynnwys gwerthuso nodweddion bregusrwydd penodol (fel tlodi ac iechyd gwael) a deall y ffactorau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sylfaenol sy’n cyfrannu at y nodweddion bregusrwydd hyn.

Rhagargoeli risg

Mae rhagargoeli risg yn cynnwys nodi a gwerthuso risgiau a chyfleoedd posibl yn y dyfodol yn rhagweithiol trwy archwilio’n systematig dueddiadau, bygythiadau ac ansicrwydd sy’n dod i’r amlwg, er mwyn rhagweld senarios posibl a’u heffeithiau. Yn wahanol i asesu risg, sy’n canolbwyntio ar risgiau hysbys, mae rhagargoeli risg yn pwysleisio rhagweld newidiadau ac ansicrwydd yn y dyfodol er mwyn helpu cymdeithas i ymrafael â risgiau a manteisio ar gyfleoedd.

Perchnogaeth risg

Neilltuo cyfrifoldeb am reoli risgiau penodol o fewn sefydliad neu system. Mae perchnogaeth risg yn pennu atebolrwydd a gweithredu camau rheoli priodol.

Gweithredu’n gynnar

Bod yn barod neu gamau rhagweithiol sy’n cael eu cymryd yn union cyn argyfwng neu ddigwyddiad sy’n tarfu er mwyn lleihau amlygiad a niwed posibl. Gallai’r camau gweithredu hyn gynnwys cyhoeddi rhybuddion, codi rhwystrau amddiffynnol dros dro, gwacau mewn argyfwng, a dosbarthu adnoddau ymlaen llaw.

Rhybudd Cynnar

Systemau a phrosesau i ganfod, asesu a chyfleu peryglon a bygythiadau cyn iddynt achosi niwed. Mae rhybudd effeithiol yn gwneud y mwyaf o’r amser sydd ar gael i weithredu’n gynnar.

Anghenion heb eu bodloni

Bylchau mewn adnoddau, galluoedd neu systemau cymorth pobl sydd wedi’u heffeithio, sy’n deillio fel arfer o effeithiau’r argyfwng neu’r digwyddiad sy’n tarfu ac sy’n rhwystro ymateb ac adfer effeithiol. Mae nodi a mynd i’r afael yn gyflym â’r anghenion hyn sydd heb eu bodloni yn sicrhau nad yw’r niwed y mae’r argyfwng wedi’i achosi yn gwaethygu oherwydd diffyg cymorth am gyfnod hirfaith.

Tybiaethau Cynllunio

Disgwyliadau rhag-ddiffiniedig am amodau argyfwng, risgiau, yr adnoddau sydd ar gael, a galluoedd ymateb posibl, sy’n cael eu defnyddio i lywio cynllunio ar gyfer argyfwng. Rhaid i’r tybiaethau hyn gael eu seilio ar dystiolaeth a’u disgrifio’n fanwl mewn senarios cynllunio cysylltiedig.

Canlyniadau cyffredin

Mae’r rhain yn effeithiau a tharfu tebyg a all ddeillio o wahanol fathau o beryglon a bygythiadau. Er enghraifft, mae colli pŵer yn ganlyniad cyffredin digwyddiadau tywydd garw, ymosodiadau seiber, a damweiniau diwydiannol.

Parodrwydd ar gyfer Argyfwng

Mae’n cyfeirio at gyflwr cyffredinol lle mae’r holl alluoedd angenrheidiol ar gyfer argyfwng yn eu lle. Mae’n cynnwys codi ymwybyddiaeth o risgiau, datblygu cynlluniau a threfniadau er mwyn bod yn barod, ymateb ac adfer, hyfforddi’r bobl fydd ynghlwm, a phrofi, dilysu a sicrhau’r galluoedd hyn.

Cynllunio ar gyfer Argyfwng

Mae Cynllunio ar gyfer Argyfwng yn elfen o Barodrwydd ar gyfer Argyfwng. Mae’n cynnwys datblygu cynlluniau a gweithdrefnau penodol i fynd i’r afael ag argyfyngau posib. Mae hyn yn cynnwys nodi rolau a chyfrifoldebau, sefydlu protocolau cyfathrebu, ac amlinellu’r camau i’w cymryd yn ystod argyfwng.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJCCAB1

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Galwedigaethau Proffesiynol a Thechnegol Cysylltiedig, Ymatebwyr Cyntaf mewn Argyfwng, Gweithiwr Proffesiynol Gwydnwch ac Argyfyngau, Swyddog Tân

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cydweithredu; datblygu; cynnal; gwerthuso; cynlluniau ar gyfer argyfwng; argyfwng; argyfyngau; rheoli argyfwng