Cyfrannu at ddatblygu a gweithredu cynllun y gweithlu
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at ddatblygu cynllun y gweithlu. Mae’n cwmpasu helpu i nodi opsiynau sy’n bodoli i gynyddu’r cyflenwad neu leihau’r galw, ynghyd â nodi unrhyw fylchau a chyfyngiadau posibl yn gysylltiedig â chynyddu’r cyflenwad neu leihau’r galw. Hefyd, mae’n cwmpasu helpu i weithredu cynllun y gweithlu fel ei fod yn llwyddiannus.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1. sut mae llwybr y gwasanaeth yn effeithio ar gynllun y gweithlu
P2. yr opsiynau a’r cyfyngiadau sy’n bodoli ar gyfer cynyddu’r cyflenwad staff neu leihau’r galw am staff
P3. yr adnoddau sy’n ofynnol i weithredu’r cynllun (e.e. ariannol, gwybodaeth ac ati)
P4. sut i fesur cynnydd cynllun y gweithlu a’i gadw’n gyfredol
P5. sut i gael at wybodaeth am ddemograffeg y farchnad lafur sy’n hygyrch i’ch sefydliad(au) a’u hardal ffisegol
P6. ffactorau allanol y dylid eu hystyried hefyd, fel cludiant, daearyddiaeth a seilwaith
P7. y newidiadau posibl yn y cymysgedd sgiliau o fewn eich maes cynllunio’r gweithlu
P8. pwy yw’r prif randdeiliaid a sut i gael a chynnal ymrwymiad ganddynt
P9. sut i gyfathrebu a hyrwyddo pwysigrwydd cynllunio’r gweithlu i gydweithwyr
P10. sut i alluogi cydweithwyr i gyfrannu at gynllunio’r gweithlu
P11. y wybodaeth y mae angen i chi gael ati i gynllunio’r gweithlu a sut i wneud hyn
P12. pwysigrwydd gwybodaeth ddibynadwy i seilio cynllunio’r gweithlu arni
P13. y rhesymau pam mae’n angenrheidiol cydnabod unrhyw wendidau yn y wybodaeth sydd ar gael
P14. anghenion eich sefydliad(au) o ran cynllunio’r gweithlu
P15. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol perthnasol sy’n effeithio ar gynllunio’r gweithlu (gan gynnwys cyflogaeth)
P16. y gofynion, y gyrwyr a’r goblygiadau polisi lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i gynllunio’r gweithlu
P17. y sefydliadau perthnasol sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau yn eich ardal ddaearyddol a sut mae’r rhain yn effeithio ar gynllunio’r gweithlu
P18. cyfrannu at nodi’r opsiynau sy’n bodoli ar gyfer cynyddu’r cyflenwad neu leihau’r galw
P19. cyfrannu at nodi unrhyw fylchau a chyfyngiadau posibl yn gysylltiedig â chynyddu’r cyflenwad neu leihau’r galw
P20. cyfrannu at ddatblygu cynllun y gweithlu ar sail yr opsiynau sydd ar gael a’r cyfyngiadau, mewn ymgynghoriad â chydweithwyr
P21. cyfrannu at alluogi cynllun y gweithlu i gael ei weithredu’n llwyddiannus, yn unol â’r amserlen ofynnol
P22. monitro a gwerthuso cynnydd cynllun y gweithlu tuag at y nodau a’r deilliannau dymunol
P23. rhoi gwybod i’r person priodol os oes rhwystrau rhag gweithredu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. sut mae cynllunio’r gweithlu’n integreiddio â chynllunio’r gwasanaeth a chynllunio busnes ac ariannol
K2. sut mae cynllunio’r gweithlu’n cysylltu â datblygu’r gweithlu ac addysg K3 diben cynllun y gweithlu, pam mae angen y cynllun a’r amserlenni
K4. sut i gael at yr offer, y canllawiau a’r modelau sy’n bodoli i’ch cynorthwyo â chynllunio’r gweithlu, a sut i’w defnyddio
K5. rolau a ffyrdd o weithio sy’n bodoli a rhai newydd sy’n dod i’r amlwg yn eich sefydliad(au)
K6. y grymoedd mewnol ac allanol ar gyfer newid a all effeithio ar eich maes gwaith
K7. yr effaith arfaethedig y gallai cynllun y gweithlu ei chael ar ddefnyddwyr gwasanaeth a deilliannau iechyd
K8. sut mae llwybr y gwasanaeth yn effeithio ar gynllun y gweithlu
K9. yr opsiynau a’r cyfyngiadau sy’n bodoli ar gyfer cynyddu’r cyflenwad staff neu leihau’r galw am staff
K10. yr adnoddau sy’n ofynnol i weithredu’r cynllun (e.e. ariannol, gwybodaeth ac ati)
K11. sut i fesur cynnydd cynllun y gweithlu a’i gadw’n gyfredol
K12. sut i gael at wybodaeth am ddemograffeg y farchnad lafur sy’n hygyrch i’ch sefydliad(au) a’u hardal ffisegol
K13. ffactorau allanol y dylid eu hystyried hefyd, fel cludiant, daearyddiaeth a seilwaith
K14. y newidiadau posibl yn y cymysgedd sgiliau o fewn eich maes cynllunio’r gweithlu
K15. pwy yw’r prif randdeiliaid a sut i gael a chynnal ymrwymiad ganddynt
K16. sut i gyfathrebu a hyrwyddo pwysigrwydd cynllunio’r gweithlu i gydweithwyr
K17. sut i alluogi cydweithwyr i gyfrannu at gynllunio’r gweithlu
K18. y wybodaeth y mae angen i chi gael ati i gynllunio’r gweithlu a sut i wneud hyn
K19. pwysigrwydd gwybodaeth ddibynadwy i seilio cynllunio’r gweithlu arni
K20. y rhesymau pam mae’n angenrheidiol cydnabod unrhyw wendidau yn y wybodaeth sydd ar gael
K21. anghenion eich sefydliad(au) o ran cynllunio’r gweithlu
K22. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol perthnasol sy’n effeithio ar gynllunio’r gweithlu (gan gynnwys cyflogaeth)
K23. y gofynion, y gyrwyr a’r goblygiadau polisi lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i gynllunio’r gweithlu
K24. y sefydliadau perthnasol sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau yn eich ardal ddaearyddol a sut mae’r rhain yn effeithio ar gynllunio’r gweithlu
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):
Craidd 4 Gwella gwasanaeth Lefel 3