Nodi a gwerthuso grymoedd ar gyfer newid a all effeithio ar y gweithlu

URN: SFHWP2
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynllunio’r Gweithlu
Datblygwyd gan: Skills for Health
Wedi'i gymeradwyo: 2006

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â nodi a gwerthuso’r grymoedd ar gyfer newid yn y gweithlu. Mae’n cynnwys nodi’r grymoedd ar gyfer newid a sut maen nhw’n effeithio ar gynllunio strategol y sefydliad(au) ynghyd ag anghenion sefydliadol. Hefyd, mae’n cynnwys ystyried y ffyrdd y gellir dylanwadu ar y grymoedd eu hunain ar gyfer newid neu newid y grymoedd ar gyfer newid. Gall grymoedd ar gyfer newid fod o fewn cwmpas rheoli (liferi) neu’r tu hwnt i gwmpas rheoli (gyrwyr). Bydd angen i chi flaenoriaethu’r grymoedd ar gyfer newid sy’n debygol o fynnu’r sylw mwyaf fel rhan o broses cynllunio’r gweithlu. 

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1. sut mae’r broses o fewn eich sefydliad(au) ar gyfer recriwtio, dewis, cadw, addysgu a datblygu staff yn effeithio ar gynllunio’r gweithlu 

P2. sut i gael at wybodaeth am ddemograffeg eich sefydliad(au), er enghraifft: grwpiau staff, oedran, cymwyseddau, ethnigrwydd, rhywedd, anabledd, hyd gwasanaeth, a phatrymau gwaith a gyrfa 

P3. sut i gael at wybodaeth am ddemograffeg y boblogaeth leol a’r effaith ar y galw 

P4. sut i gael at wybodaeth am ddemograffeg y farchnad lafur sy’n hygyrch i’ch sefydliad(au) a’u hardal ffisegol 

P5. sut i ddehongli a defnyddio gwybodaeth am ddemograffeg 

P6. ffactorau allanol y dylid eu hystyried hefyd, fel cludiant, daearyddiaeth a seilwaith

P7. pwy yw’r prif randdeiliaid a sut i gael a chynnal ymrwymiad ganddynt 

P8. sut i gyfathrebu a hyrwyddo pwysigrwydd cynllunio’r gweithlu i randdeiliaid 

P9. sut i alluogi rhanddeiliaid i gyfrannu at gynllunio’r gweithlu 

P10. y wybodaeth y mae angen i chi gael ati i gynllunio’r gweithlu a sut i wneud hyn 

P11. pwysigrwydd gwybodaeth ddibynadwy i seilio cynllunio’r gweithlu arni 

P12. sut i wirio bod gwybodaeth yn ddigon cadarn ar gyfer cynllunio’r gweithlu a goblygiadau unrhyw gyfyngiadau 

P13. y rhesymau pam mae’n angenrheidiol cydnabod unrhyw wendidau yn y wybodaeth sydd ar gael  

P14. systemau gwybodaeth y gweithlu sy’n cael eu defnyddio yn eich sefydliad(au) a’u cyfyngiadau posibl 

P15. ffyrdd o ategu systemau gwybodaeth i fodloni anghenion cynllunio

P16. anghenion eich sefydliad(au) o ran cynllunio’r gweithlu 

P17. y nodau sefydliadol ar y lefelau macro a micro  

P18. y cyd-destun gwleidyddol ar gyfer cynllunio’r gweithlu 

P19. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol perthnasol sy’n effeithio ar gynllunio’r gweithlu (gan gynnwys cyflogaeth)

P20. y gofynion, y gyrwyr a’r goblygiadau polisi lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i gynllunio’r gweithlu

P21. y sefydliadau perthnasol sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau yn eich ardal ddaearyddol a sut mae’r rhain yn effeithio ar gynllunio’r gweithlu 

P22. y cyd-destun rhyngwladol ar gyfer cynllunio’r gweithlu 

P23. nodi’r grymoedd ar gyfer newid a sut maen nhw’n debygol o effeithio ar y gweithlu 

P24. ystyried y ffyrdd y mae’r grymoedd ar gyfer newid yn effeithio ar gyfeiriad strategol y sefydliad(au) a’r anghenion sefydliadol 

P25. ystyried y ffyrdd y gellir dylanwadu ar y grymoedd eu hunain ar gyfer newid neu newid y grymoedd ar gyfer newid 

P26. blaenoriaethu’r grymoedd ar gyfer newid fel rhan o broses cynllunio’r gweithlu 

P27. cofnodi a disgrifio’r grymoedd ar gyfer newid yn glir ac yn gywir 

P28. diweddaru gwybodaeth am rymoedd ar gyfer newid ar yr adegau priodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1. sut mae cynllunio’r gweithlu’n integreiddio â chynllunio’r gwasanaeth a chynllunio busnes ac ariannol 

K2. sut mae cynllunio’r gweithlu’n cysylltu â datblygu’r gweithlu ac addysg 

K3. diben cynllun y gweithlu, gan gynnwys: pam mae angen y cynllun, pa benderfyniadau y mae’r cynllun yn eu cefnogi, beth mae’n ei gwmpasu, pwy sy’n gyfrifol amdano, a’r amserlenni 

K4. sut i gael at yr offer, y canllawiau a’r modelau sy’n bodoli i’ch cynorthwyo â chynllunio’r gweithlu, a sut i’w defnyddio 

K5. sut i ddatblygu modelau a chanllawiau i gefnogi cynllun y gweithlu 

K6. y diffiniadau sy’n cael eu defnyddio mewn cynllunio’r gweithlu, a chymhwyso diffiniadau i gynllunio’r gweithlu 

K7. rolau a ffyrdd o weithio sy’n bodoli a rhai newydd sy’n dod i’r amlwg yn eich sefydliad(au) 

K8. effaith rolau a ffyrdd newydd o weithio ar gynllunio’r gweithlu 

K9. y grymoedd mewnol ac allanol ar gyfer newid a all effeithio ar eich sefydliad(au) 

K10. sut i nodi grymoedd ar gyfer newid a blaenoriaethu eich ymateb 

K11. yr effaith arfaethedig y gallai cynllun y gweithlu ei chael ar ddefnyddwyr gwasanaeth a deilliannau iechyd 

K12. sut mae’r broses o fewn eich sefydliad(au) ar gyfer recriwtio, dewis, cadw, addysgu a datblygu staff yn effeithio ar gynllunio’r gweithlu

K13. sut i gael at wybodaeth am ddemograffeg eich sefydliad(au), er enghraifft: grwpiau staff, oedran, cymwyseddau, ethnigrwydd, rhywedd, anabledd, hyd gwasanaeth, a phatrymau gwaith a gyrfa 

K14. sut i gael at wybodaeth am ddemograffeg y boblogaeth leol a’r effaith ar y galw 

K15. sut i gael at wybodaeth am ddemograffeg y farchnad lafur sy’n hygyrch i’ch sefydliad(au) a’u hardal ffisegol 

K16. sut i ddehongli a defnyddio gwybodaeth am ddemograffeg 

K17. ffactorau allanol y dylid eu hystyried hefyd, fel cludiant, daearyddiaeth a seilwaith 

K18. pwy yw’r prif randdeiliaid a sut i gael a chynnal ymrwymiad ganddynt 

K19. sut i gyfathrebu a hyrwyddo pwysigrwydd cynllunio’r gweithlu i randdeiliaid

K20. sut i alluogi rhanddeiliaid i gyfrannu at gynllunio’r gweithlu 

K21. y wybodaeth y mae angen i chi gael ati i gynllunio’r gweithlu a sut i wneud hyn

K22. pwysigrwydd gwybodaeth ddibynadwy i seilio cynllunio’r gweithlu arni

K23. sut i wirio bod gwybodaeth yn ddigon cadarn ar gyfer cynllunio’r gweithlu a goblygiadau unrhyw gyfyngiadau 

K24. y rhesymau pam mae’n angenrheidiol cydnabod unrhyw wendidau yn y wybodaeth sydd ar gael 

K25. systemau gwybodaeth y gweithlu sy’n cael eu defnyddio yn eich sefydliad(au) a’u cyfyngiadau posibl

K26. ffyrdd o ategu systemau gwybodaeth i fodloni anghenion cynllunio

K27. anghenion eich sefydliad(au) o ran cynllunio’r gweithlu 

K28. y nodau sefydliadol ar y lefelau macro a micro 

K29. y cyd-destun gwleidyddol ar gyfer cynllunio’r gweithlu 

K30. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol perthnasol sy’n effeithio ar gynllunio’r gweithlu (gan gynnwys cyflogaeth) 

K31. y gofynion, y gyrwyr a’r goblygiadau polisi lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i gynllunio’r gweithlu 

K32. y sefydliadau perthnasol sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau yn eich ardal ddaearyddol a sut mae’r rhain yn effeithio ar gynllunio’r gweithlu

K33. y cyd-destun rhyngwladol ar gyfer cynllunio’r gweithlu


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn cysylltu â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):

Craidd 4 Gwella gwasanaeth Lefel 4


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2008

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

WP2

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig, Iechyd, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gyrwyr, newid, Iechyd, Liferi, Sefydliad, Rhanddeiliaid, Gweithlu