Nodi diben a chwmpas cynllun y gweithlu ar sail anghenion gwasanaeth

URN: SFHWP1
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynllunio’r Gweithlu
Datblygwyd gan: Skills for Health
Wedi'i gymeradwyo: 2006

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â nodi diben a chwmpas cynllun y gweithlu ar sail anghenion gwasanaeth. Mae’n cwmpasu nodi’r rhanddeiliaid y mae angen rhoi gwybod iddynt a’u cynnwys yn y broses, ynghyd â chofnodi a disgrifio nodau dymunol cynllun y gweithlu. Gall y gwaith a ddisgrifir yn y safon hon gael ei chyflawni i wella cynlluniau presennol y gweithlu ynghyd â datblygu cynlluniau newydd. Nod cynllunio’r gweithlu yw ymgymryd â phroses systematig ac integredig i sicrhau bod sefydliadau ac economïau ehangach yn cynllunio’n strategol i gael digon o staff (clinigol ac anghlinigol), sydd â’r sgiliau priodol, i fodloni anghenion eu poblogaethau yn bresennol ac yn y dyfodol.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1. y diffiniadau sy’n cael eu defnyddio mewn cynllunio’r gweithlu, a chymhwyso diffiniadau i gynllunio’r gweithlu 

P2. sut i gael at wybodaeth am ddemograffeg eich sefydliad(au), er enghraifft: grwpiau staff, oedran, cymwyseddau, ethnigrwydd, rhywedd, anabledd, hyd gwasanaeth, a phatrymau gwaith a gyrfa 

P3. sut i gael at wybodaeth am ddemograffeg y boblogaeth leol a’r effaith ar y galw 

P4. sut i gael at wybodaeth am ddemograffeg y farchnad lafur sy’n hygyrch i’ch sefydliad(au) a’u hardal ffisegol 

P5. sut i ddehongli a defnyddio gwybodaeth am ddemograffeg 

P6. pwy yw’r prif randdeiliaid a sut i gael a chynnal ymrwymiad ganddynt 

P7. sut i gyfathrebu a hyrwyddo pwysigrwydd cynllunio’r gweithlu i randdeiliaid 

P8. sut i alluogi rhanddeiliaid i gyfrannu at gynllunio’r gweithlu 

P9. y wybodaeth y mae angen i chi gael ati i gynllunio’r gweithlu a sut i wneud hyn 

P10. pwysigrwydd gwybodaeth ddibynadwy i seilio cynllunio’r gweithlu arni 

P11. sut i wirio bod gwybodaeth yn ddigon cadarn ar gyfer cynllunio’r gweithlu a goblygiadau unrhyw gyfyngiadau 

P12. y rhesymau pam mae’n angenrheidiol cydnabod unrhyw wendidau yn y wybodaeth sydd ar gael 

P13. systemau gwybodaeth y gweithlu sy’n cael eu defnyddio yn eich sefydliad(au) a’u cyfyngiadau posibl  

P14. anghenion eich sefydliad(au) o ran cynllunio’r gweithlu 

P15. y nodau sefydliadol ar y lefelau macro a micro

P16 . y cyd-destun gwleidyddol ar gyfer cynllunio’r gweithlu 

P17. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol perthnasol sy’n effeithio ar gynllunio’r gweithlu (gan gynnwys cyflogaeth)

P18. y gofynion, y gyrwyr a’r goblygiadau polisi lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i gynllunio’r gweithlu 

P19. y sefydliadau perthnasol sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau yn eich ardal ddaearyddol a sut mae’r rhain yn effeithio ar gynllunio’r gweithlu 

P20.. y cyd-destun rhyngwladol ar gyfer cynllunio’r gweithlu 

P21. nodi a diffinio diben y cynllun ar sail anghenion y gwasanaeth 

P22. nodi’r rhanddeiliaid y mae angen rhoi gwybod iddynt a’u cynnwys yn y cynllunio


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1. sut mae cynllunio’r gweithlu’n integreiddio â chynllunio’r gwasanaeth a chynllunio busnes ac ariannol 

K2. sut mae cynllunio’r gweithlu’n cysylltu â datblygu’r gweithlu ac addysg 

K3. diben cynllun y gweithlu, gan gynnwys: pam mae angen y cynllun,  pa benderfyniadau y mae’r cynllun yn eu cefnogi, beth mae’n ei gwmpasu, pwy sy’n gyfrifol amdano, a’r amserlenni 

K4. sut i gael at yr offer, y canllawiau a’r modelau sy’n bodoli i’ch cynorthwyo â chynllunio’r gweithlu, a sut i’w defnyddio 

K5. sut i ddatblygu modelau a chanllawiau i gefnogi cynllun y gweithlu

K6. rolau a ffyrdd o weithio sy’n bodoli a rhai newydd sy’n dod i’r amlwg yn eich sefydliad(au)

K7. effaith rolau a ffyrdd newydd o weithio ar gynllunio’r gweithlu 

K8. yr effaith arfaethedig y gallai cynllun y gweithlu ei chael ar ddefnyddwyr gwasanaeth a deilliannau iechyd 

K9. y diffiniadau sy’n cael eu defnyddio mewn cynllunio’r gweithlu, a chymhwyso diffiniadau i gynllunio’r gweithlu 

K10. sut i gael at wybodaeth am ddemograffeg eich sefydliad(au), er enghraifft: grwpiau staff, oedran, cymwyseddau, ethnigrwydd, rhywedd, anabledd, hyd gwasanaeth, a phatrymau gwaith a gyrfa 

K11. sut i gael at wybodaeth am ddemograffeg y boblogaeth leol a’r effaith ar y galw 

K12. sut i gael at wybodaeth am ddemograffeg y farchnad lafur sy’n hygyrch i’ch sefydliad(au) a’u hardal ffisegol 

K13. sut i ddehongli a defnyddio gwybodaeth am ddemograffeg 

K14. pwy yw’r prif randdeiliaid a sut i gael a chynnal ymrwymiad ganddynt 

K15. sut i gyfathrebu a hyrwyddo pwysigrwydd cynllunio’r gweithlu i randdeiliaid

K16. sut i alluogi rhanddeiliaid i gyfrannu at gynllunio’r gweithlu 

K17. y wybodaeth y mae angen i chi gael ati i gynllunio’r gweithlu a sut i wneud hyn 

K18. pwysigrwydd gwybodaeth ddibynadwy i seilio cynllunio’r gweithlu arni 

K19. sut i wirio bod gwybodaeth yn ddigon cadarn ar gyfer cynllunio’r gweithlu a goblygiadau unrhyw gyfyngiadau 

K20. y rhesymau pam mae’n angenrheidiol cydnabod unrhyw wendidau yn y wybodaeth sydd ar gael 

K21. systemau gwybodaeth y gweithlu sy’n cael eu defnyddio yn eich sefydliad(au) a’u cyfyngiadau posibl

K22. anghenion eich sefydliad(au) o ran cynllunio’r gweithlu 

K23. y nodau sefydliadol ar y lefelau macro a micro 

K24. y cyd-destun gwleidyddol ar gyfer cynllunio’r gweithlu 

K25. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol perthnasol sy’n effeithio ar gynllunio’r gweithlu (gan gynnwys cyflogaeth) 

K26. y gofynion, y gyrwyr a’r goblygiadau polisi lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i gynllunio’r gweithlu 

K27. y sefydliadau perthnasol sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau yn eich ardal ddaearyddol a sut mae’r rhain yn effeithio ar gynllunio’r gweithlu 

K28. y cyd-destun rhyngwladol ar gyfer cynllunio’r gweithlu


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn cysylltu â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):

Craidd 4 Gwella gwasanaeth Lefel 4


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2008

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

WP1

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig, Iechyd, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Iechyd, Sefydliad, Rhanddeiliaid, Gweithlu