Darparu Therapi Maeth i gleientiaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu Therapi Maeth i gleientiaid. Mae Ymarferwyr Therapi Maeth yn gweithio mewn meddygaeth ataliol, optimeiddio iechyd corfforol ac iechyd meddwl, a thrin clefydau cronig, sy’n aml ag achosion lluosog cymhleth. Mae Therapi Maeth yn cwmpasu therapi dietegol wedi'i bersonoli a rhagnodi maethroddwyr, a chyngor ar ffordd o fyw o fewn fframwaith meddygaeth swyddogaethol. Nid yw cwmpas ymarfer Therapi Maeth yn cynnwys bwydo artiffisial (drwy'r gwythiennau neu’r ymysgaroedd) na rheoli’n ddietegol gyflyrau acíwt sy'n peryglu bywyd, e.e. methiant y coluddyn neu’r arennau, a thrawma anafiadau. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon
hon sicrhau bod yr ymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1. cynnal asesiad maeth ac iechyd cyffredinol, a chynllunio'r therapi
P2. sicrhau bod yr amgylchedd yn diwallu anghenion y cleient
P3. sicrhau bod unrhyw offer a deunyddiau yn barod i'w defnyddio
P4. rhoi cyngor clir a chywir i'r cleient mewn perthynas â therapi maeth
P5. dewis, gweithredu a dehongli asesiadau a phrofion priodol ar gyfer y cleient ac i lywio'r broses o wneud penderfyniadau
P6. sicrhau bod cyfathrebu yn gywir ac yn cefnogi anghenion y cleient, wrth atgyfeirio i ddarparwyr gofal iechyd eraill neu gydweithio â nhw
P7. gweithredu therapi maeth yn ddiogel ac yn unol â chodau ymarfer proffesiynol, gofynion cyfreithiol a sefydliadol
P8. gwneud addasiadau priodol i'r therapi maeth i ddiwallu unrhyw anghenion newidiol
P9. cadw llygad ar les y cleient trwy gydol a rhoi sicrwydd lle bo angen
P10. addysgu'r cleient i weithredu therapi maeth, ac unrhyw ôl-ofal a hunanofal perthnasol
P11. gwerthuso'n feirniadol ganlyniadau'r rhaglen therapi maeth i lywio cynlluniau a chamau gweithredu yn y dyfodol
P12. gwerthuso'n feirniadol feysydd ar gyfer hunanddatblygiad yng nghyd-destun cynllunio datblygiad proffesiynol parhaus
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. datblygiad hanesyddol y therapi a'r proffesiwn
K2. y cysyniadau sy'n sail i fioleg/meddygaeth systemau swyddogaethol, a dulliau sy'n canolbwyntio ar y claf
K3. y cysyniad bod Therapi Maeth yn ddull sy'n cael ei yrru gan broses
K4. y cysyniadau sy'n sail i CAM, a meddygaeth integreiddiol a chonfensiynol
K5. rolau y mae ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac ymchwil draddodiadol yn eu chwarae wrth lywio penderfyniadau clinigol
K6. sut i ddefnyddio holiaduron a dyddiaduron i wneud y gorau o gasglu gwybodaeth
K7. dulliau ar gyfer cael a chofnodi mesuriadau anthropometrig
K8. dulliau ar gyfer cynnal a chofnodi arsylwadau o statws iechyd
K9. sut i ddewis, pan fo'n briodol, brofion biocemegol, maethol a swyddogaethol
K10. sut i ddefnyddio deunyddiau, adnoddau a gwybodaeth ategol i gynyddu cydymffurfiaeth
K11. sut i gyfathrebu â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i ddarparu dull integredig sy'n canolbwyntio ar y cleient
K12. sut i ddefnyddio stori'r cleient yn offeryn allweddol ar gyfer integreiddio diagnosis, arwyddion a symptomau, a thystiolaeth o anghydbwysedd clinigol mewn dull cynhwysfawr i wella mewnbynnau amgylcheddol a swyddogaeth ffisiolegol y claf
K13. sut i gymhwyso dull bioleg/meddygaeth systemau swyddogaethol, sy'n canolbwyntio ar y claf
K14. sut i ddefnyddio prognosis i resymoli strategaethau ar gyfer blaenoriaethu, a chynllunio amserlen
K15. sut i nodi sefyllfaoedd lle gallai fod yn briodol oedi wrth weithredu'r cyfan neu ran o gynllun triniaeth
K16. ffyrdd y gall diogelwch unigol gael ei beryglu gan driniaeth amhriodol a sut i leihau risgiau o'r fath
K17. sut i ddehongli a gwerthuso data o arsylwadau a phrofion labordy
K18. sut i ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth amrywiol i ddarparu cynllun wedi'i bersonoli
K19. sut i gyfosod gwybodaeth newydd ac addasu'r cynllun triniaeth dros
ymgynghoriadau olynol
K20. materion wrth ddehongli canllawiau'r llywodraeth a chanfyddiadau ymchwil epidemiolegol ac ymchwil arall i lunio ymyriadau unigol
K21. modelau myfyrio a sut mae'r rhain yn cael eu cymhwyso i ymarfer
K22. strategaethau ar gyfer rheoli anghysondeb posibl rhwng canlyniadau triniaeth disgwyliedig a gwirioneddol ichi’ch hun a'r cleient
K23. y berthynas sydd gan y cleient â bwyd, grwpiau bwyd a modelau dietegol
K24. sut mae gwahanol ddiwylliannau yn disgrifio effeithiau bwyd ar iechyd
K25. sut i gynnal dadansoddiadau meintiol ac ansoddol o gymeriant bwyd
K26. sut i gydbwyso ansawdd, maint, amrywiaeth ac effaith therapiwtig i gyflawni nodau a drafodwyd, unioni diffyg, modiwleiddio/optimeiddio statws swyddogaethol neu ar gyfer lleddfu
K27. defnyddiau bwydydd trosiannol, amgen a swyddogaethol, ryseitiau a chynlluniau bwydlen i gynyddu cydymffurfiaeth
K28. sut i lunio cyngor dietegol sy’n foesegol ac amgylcheddol sensitif
K29. sut i adnabod rhyngweithiadau bwyd - cyffuriau a maethroddwyr posibl
K30. risgiau - manteision bwydydd neu fodelau dietegol, yn rhai hanesyddol a chyfredol, a ddefnyddir i fodiwleiddio rhagflaeniad, sbardunau a chyfryngwyr
K31. dull dieteteg gonfensiynol mewn atal a thriniaeth, gan gynnwys maeth drwy'r gwythiennau a'r ymysgaroedd, i hwyluso cydweithio a nodi ffiniau proffesiynol
K32. natur a maint y newidiadau i berfformiad neu symptomau a ddisgwylir
K33. sut i wahaniaethu rhwng effeithiau negyddol canfyddedig y gall unigolion
eu cael ac achosion eraill newid
K34. sut mae newidiadau yn cael eu hegluro gan egwyddorion therapi maeth
K35. sut i alluogi unigolion i adnabod cynnydd
K36. diben cefnogi'r unigolyn i ystyried goblygiadau unrhyw newidiadau a wneir i'r driniaeth
K37. defnyddio archwilio i fonitro pob agwedd ar raglen
K38. ffynonellau, dosbarthiad, strwythurau biocemegol a swyddogaethau cysylltiedig, rhyngweithiadau ac ystyriaethau therapiwtig macrofaethynnau, microfaethynnau, metabolion planhigion eilaidd a sylweddau eraill nad ydynt yn faethlon
K39. ffactorau sy'n effeithio ar ofynion unigolyn: bioargaeledd, amsugniad, cludiant, metaboledd ac ysgarthiad, senobioteg mewndarddol ac alldarddol, effaith geneteg a chlefydau
K40. integreiddio, cydlynu a rheoleiddio llwybrau metabolig gan hormonau a bio-foleciwlau, maetholion a maethroddwyr
K41. rhyngweithio maetholion, sylweddau nad ydynt yn faethlon a maethroddwyr â'r genom dynol gan gynnwys effeithiau epigenetig
K42. defnyddiau traddodiadol a newydd o faetholion a sylweddau nad ydynt yn faethlon
K43. sut y pennir gofynion a chymeriant a argymhellir trwy'r cyfnodau bywyd
K44. cyfansoddiad cemegol bwyd a'i effeithiau ar iechyd a chlefydau
K45. defnyddio tablau cyfansoddiad bwyd a chronfeydd data maethol
K46. effeithiau difwynwyr a halogyddion bwyd ar iechyd
K47. effeithiau cynhyrchu, prosesu a pharatoi ar ansawdd bwyd, iechyd a'r amgylchedd
K48. cynnwys bwydydd o ran maetholion a ffytofaetholion a'u heffeithiau ar
fioargaeledd
K49. yr amrywiaeth o adweithiau niweidiol i fwydydd a bwydydd swyddogaethol
K50. sut mae rheoliadau sy'n ymwneud â labelu a honiadau iechyd yn effeithio ar ymarfer
K51. gweithrediad a rhyngweithio tebyg i we rhwng meinweoedd ac organau ar y lefelau cellog a systemig
K52. yr anghydbwysedd clinigol craidd sy'n sail i wahanol gyflyrau clefyd
K53. yr arwyddion a'r symptomau clinigol a gynhyrchir gan ymateb y corff i straen, diffyg maeth, niwed neu anaf trwy ddod i gysylltiad â thocsinau mewndarddol ac alldarddol, alergenau, cyfryngau heintus, parasitiaid, ffactorau amgylcheddol eraill, rhagdueddiad genetig, ffactorau emosiynol a seicogymdeithasol
K54. terminoleg biofeddygol gyffredin a ddefnyddir mewn patholeg
K55. achoseg a phatholeg clefydau cyffredin a'u nodweddion clinigol
K56. effaith microbiota ar iechyd
K57. sut i ganfod sensitifrwydd, penodoldeb a dilysrwydd profion diagnostig
K58. dethol, defnyddio a gwerthuso profion biocemeg, patholeg,
microbioleg, gwybodaeth genetig, a’u hymarferoldeb mewn diagnosis a monitro
K59. diagnosis gwahaniaethol o gyflyrau a chlefydau cyffredin
K60. ffiniau i ymarfer gan gynnwys:
K60.1. pa gyflyrau y dylid eu hatgyfeirio (y rhestr baner goch)
K60.2. pa arwyddion a symptomau, a chanlyniadau profion, sy’n cyfiawnhau ymchwiliad pellach
K60.3. anhwylderau un genyn treiddiad uchel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB7 Ymyriadau a thriniaethau
Swyddogaethau Perthynol
Egwyddorion Arfer Da
CNH1 Archwilio a chanfod anghenion y cleient am ofal iechyd cyflenwol a naturiol
CNH2 Datblygu a chytuno ar gynlluniau ar gyfer gofal iechyd cyflenwol a naturiol gyda chleientiaid