Dosbarthu meddyginiaethau homeopathig ar gyfer unigolyn
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dosbarthu meddyginiaethau homeopathig ar gyfer unigolyn. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1. sicrhau bod yr ardal waith ac unrhyw offer a deunyddiau angenrheidiol yn ddiogel, yn lân ac yn addas i'w defnyddio
P2. dosbarthu meddyginiaethau mewn modd sy'n lleihau risg halogi ac yn hyrwyddo diogelu’r feddyginiaeth
P3. dosbarthu pob meddyginiaeth mewn ffurf a chynhwysydd addas i'r unigolyn ei chymryd fel y rhagnodir
P4. rhoi cyfarwyddiadau a gwybodaeth glir, gywir a pherthnasol gyda'r feddyginiaeth
P5. pacio cynwysyddion sydd i'w postio mewn deunydd pacio priodol, amddiffynnol a'u hanfon cyn pen yr amser y cytunwyd arno
P6. cadw cofnodion cywir, darllenadwy a chyflawn o'r meddyginiaethau a ddosbarthwyd a'r cyngor a roddwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. sut i wneud yr ardal waith yn ddiogel, yn lân ac yn addas i'w
defnyddio
K2. sut i storio a phecynnu meddyginiaeth yn ddiogel ac yn unol â gofynion cyfreithiol
K3. sut i ddosbarthu meddyginiaeth yn ddiogel ac yn unol â gofynion cyfreithiol
K4. ffactorau sy'n gallu halogi neu anactifadu meddyginiaethau
K5. sut i leihau risg halogi
K6. dulliau ar gyfer hyrwyddo diogelu’r feddyginiaeth
K7. gwahanol ddeunyddiau y gellir eu defnyddio i gynnwys meddyginiaethau
K8. y technegau meddyginiaethu priodol
K9. y wybodaeth a'r cyfarwyddiadau i'w darparu gyda'r feddyginiaeth
K10. gweithdrefnau ar gyfer postio meddyginiaethau yn eu cynwysyddion addas
K11. y gofynion ar gyfer cadw cofnodion mewn cysylltiad â dosbarthu meddyginiaethau homeopathig
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae gan y safon hon gysylltiadau dangosol â'r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau'r GIG (Hydref 2004)
Dimensiwn: HWB10 Cynhyrchion i ddiwallu anghenion iechyd a lles
Swyddogaethau Perthnasol
Egwyddorion Arfer Da
CNH1 Archwilio a chanfod anghenion y cleient o ran gofal iechyd cyflenwol a naturiol
CNH2 Datblygu a chytuno ar gynlluniau ar gyfer gofal iechyd cyflenwol a naturiol gyda chleientiaid