Darparu Natur-iachâd i gleientiaid
Trosolwg
System gofal iechyd cyfannol ac athroniaeth yw natur-iachâd, sy'n cydnabod pŵer iachau byd natur sydd i’w gael ym mhob peth byw. Yn system iachau, ei nod yw hyrwyddo ac adfer iechyd trwy ddefnyddio gwahanol ddulliau triniaeth naturiol a all gynnwys: maeth natur-iachaol, cyngor ffordd o fyw, technegau dadwenwyno, hydrotherapi, therapi corfforol, cymorth seicogymdeithasol natur-iachaol a thechnegau priodol eraill. Mae natur-iachâd yn dehongli symptomau cyflwyno fel ymateb unigryw’r unigolyn i ffactorau straen corfforol, emosiynol, amgylcheddol neu genetig. Rôl yr ymarferydd yw nodi'r achosion sylfaenol hyn a chefnogi pŵer iachau natur o fewn yr unigolyn. Mae natur-iachâd hefyd yn ffordd o fyw a bydd y natur-iachäwr yn helpu i rymuso unigolion trwy eu haddysgu am ffordd o fyw, diet ac ymarfer corff. Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio gydag unigolion i ddarparu gofal iechyd natur-iachaol. Disgrifia’r cymhwysedd lleiaf sy'n benodol i natur-iachâd.
Bydd gan lawer o natur-iachawyr amrywiaeth lawer ehangach o gymwyseddau ac arbenigeddau na'r rhai a ddisgrifir yma. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth a’r polisïau diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1. sut mae canlyniadau asesiad ac ymgynghoriad natur-iachâd yn llywio cynllun triniaeth
P2. sut i gefnogi'r cleient i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth o fewn ystod eang o ddulliau natur-iachaol
P3. sut i adnabod symptomau baner goch sy'n gofyn am atgyfeiriad brys neu heb frys i ofal confensiynol
P4. sut i gynghori cleientiaid ynghylch beth i'w ddisgwyl ar ôl triniaeth, anghysuron posibl a'r rhesymau dros y rhain
P5. sut i gefnogi'r cleient yn ystod newid a chydnabod cynnydd mewn iechyd P6 sut i benderfynu ar gamau priodol ar ôl adolygiad
P7. y dull natur-iachaol o ystyried bwyd a diet yn brif fodd i gynnal ac adfer iechyd da
P8. y safbwynt natur-iachaol ar ddefnyddio ychwanegion bwyd
P9. y safbwynt natur-iachaol ar ddadwenwyno
P10. y gwahanol dechnegau dadwenwyno
P11. sut i nodi sefyllfaoedd unigol lle byddai technegau dadwenwyno yn briodol neu lle cynghorir yn eu herbyn
P12. defnyddio a chymhwyso therapïau corfforol fel therapïau cyffwrdd, gwaith corff ac ymarfer corff mewn cyd-destun natur-iachaol
P13. y mecanweithiau ffisiolegol sy'n sail i egwyddorion therapïau corfforol
P14. effeithiau, arwyddion a gwrtharwyddion therapïau corfforol
P15. y mecanweithiau ffisiolegol sy'n sail i egwyddorion hydrotherapi
P16. defnyddio a chymhwyso hydrotherapi allanol a/neu fewnol
P17. effeithiau, arwyddion a gwrtharwyddion ystod eang o technegau hydrotherapiwtig
P18. rôl emosiynau mewn prosesau iechyd a chlefyd
P19. y gwahanol dechnegau ymgynghori a dulliau naturiol ar gyfer mynd i'r afael â materion emosiynol
P20. pwysigrwydd y gofynion ffordd o fyw sylfaenol ar gyfer iechyd
P21 effaith y canlynol ar iechyd a chlefyd: yr amgylchedd, cymeriad, ymddygiad ac agwedd
P22. sut i gynghori ar reoli straen
P23. sut i gynghori ar fwyta'n iach
P24. cynnal asesiad natur-iachâd, gwerthuso'r dull i'w gymryd a chynllunio'r driniaeth
P25. sicrhau bod yr amgylchedd yn diwallu anghenion y cleient
P26. sicrhau bod unrhyw offer a deunyddiau yn barod i'w defnyddio
P27. gosod y cleient ar gyfer triniaeth natur-iachaol effeithiol ac yn y ffordd fwyaf cyfforddus bosibl
P28. gweithredu'r driniaeth natur-iachaol yn ddiogel, yn gywir ac yn unol â chodau ymarfer proffesiynol, gofynion cyfreithiol a sefydliadol
P29. gwneud addasiadau priodol i'r driniaeth natur-iachaol i ddiwallu unrhyw anghenion newidiol
P30. cadw llygad ar les y cleient drwyddi draw a rhoi sicrwydd lle bo angen
P31. rhoi cyngor clir a chywir mewn perthynas â'r driniaeth natur-iachaol, ac unrhyw ôl-ofal a hunanofal perthnasol
P32. gwerthuso canlyniadau ac effeithiolrwydd y driniaeth natur-iachaol i lywio cynlluniau a chamau gweithredu yn y dyfodol
P33. cwblhau a chadw cofnodion yn unol â chanllawiau proffesiynol a chyfreithiol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. datblygiad meddygaeth natur-iachaol ac arloeswyr natur-iachâd allweddol
K2. y nodweddion tebyg a'r gwahaniaethau rhwng meddygaeth gonfensiynol a meddygaeth natur-iachaol
K3. egwyddorion ac athroniaeth natur-iachâd o ran iechyd a chlefyd
K4. egwyddorion:
K4.1. pŵer iachaol natur
K4.2. nodi a mynd i'r afael â'r achosion yn gyntaf
K4.3. gwneud dim niwed
K4.4. y natur-iachäwr yn addysgwr
K4.5. trin y person cyfan
K4.6. atal
K5. anatomeg a ffisioleg sy'n hanfodol i ddeall sylfaen clefyd fel y'i deallir gan feddygaeth gonfensiynol ac sy'n berthnasol i ymarfer natur-iachaol
K6. swyddogaeth dŵr, macro- a micro-faetholion allweddol a'u prosesau metabolig a'u rhyngweithiadau
K7 safbwynt natur-iachaol rhyngweithiadau homeostatig, tebyg i we, prosesau ffisiolegol
K8. y gweithrediad a'r rhyngweithio rhwng y systemau corfforol canlynol ar y lefelau moleciwlaidd, cellog a systemig:
K8.1. ysgerbydol
K8.2. cyhyrog
K8.3. nerfol
K8.4. synhwyraidd
K8.5. endocrin
K8.6. anadlol
K8.7. treuliol
K8.8. wrinol
K8.9. ysgarthol
K8.10. atgenhedlu
K8.11. cylchrediad
K8.12. lymffatig ac imiwnedd
K8.13. pilynnol
K9. integreiddio'r systemau uchod a'u rôl mewn llwybrau dadwenwyno
K10. achoseg a nodweddion clinigol ystod eang o glefydau cyffredin ym mhob system gorfforol
K11. yr arwyddion a'r symptomau clinigol a gynhyrchir gan ymateb y corff i straen neu anaf drwy ddod i gysylltiad â thocsinau, cemegau, cyfryngau corfforol a heintus, ffactorau amgylcheddol eraill, rhagdueddiad genetig, ffactorau emosiynol a seicogymdeithasol
K12. effaith straen ar systemau corfforol
K13. y prosesau sy'n arwain at chwalu gweithrediad y corff a'r clefyd dilynol
K14. terminoleg gyffredin a ddefnyddir mewn patholeg
K15. gweithredoedd a sgil-effeithiau prif ddosbarthiadau cyffuriau confensiynol a sut i gael gafael ar wybodaeth am gyffuriau fferyllol
K16. rhyngweithiadau sy’n cael eu cydnabod rhwng bwyd, cyffuriau ac ychwanegion mewn cyd-destun natur-iachaol
K17. sut i gymryd hanes achos natur-iachaol a chynnal archwiliadau clinigol sy'n cwmpasu agweddau ffordd o fyw, corfforol, emosiynol, asesu maeth a biocemegol
K18. y mathau o brofion diagnostig a'u cymhwyso i gefnogi gwneud penderfyniadau
K19. sut i ffurfio asesiad a gwerthusiad natur-iachaol
K20. sut i roi egwyddorion ac athroniaeth natur-iachâd o ran iechyd a chlefyd ar waith
K21. sut mae canlyniadau asesiad ac ymgynghoriad natur-iachâd yn llywio cynllun triniaeth
K22. sut i gefnogi'r cleient i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth o fewn ystod eang o ddulliau natur-iachaol
K23. sut i adnabod symptomau baner goch sy'n gofyn am atgyfeiriad brys neu heb frys i ofal confensiynol
K24. sut i gynghori cleientiaid ynghylch beth i'w ddisgwyl ar ôl triniaeth, anghysuron posibl a'r rhesymau dros y rhain
K25. sut i gefnogi'r cleient yn ystod newid a chydnabod cynnydd mewn iechyd
K26. sut i benderfynu ar gamau priodol ar ôl adolygiad
K27. y dull natur-iachaol o ystyried bwyd a diet yn brif ffordd o gynnal ac adfer iechyd da
K28. y safbwynt natur-iachaol ar ddefnyddio ychwanegion bwyd
K29. y safbwynt natur-iachaol ar ddadwenwyno
K30. y gwahanol dechnegau dadwenwyno
K31. sut i nodi sefyllfaoedd unigol lle byddai technegau dadwenwyno yn briodol neu lle cynghorir yn eu herbyn
K32. defnyddio a chymhwyso therapïau corfforol fel therapïau cyffwrdd, gwaith corff ac ymarfer corff mewn cyd-destun natur-iachaol
K33. y mecanweithiau ffisiolegol sy'n sail i egwyddorion therapïau corfforol
K34. effeithiau, arwyddion a gwrtharwyddion therapïau corfforol
K35. y mecanweithiau ffisiolegol sy'n sail i egwyddorion
hydrotherapi
K36. defnyddio a chymhwyso hydrotherapi allanol a/neu fewnol
K37. effeithiau, arwyddion a gwrtharwyddion ystod eang o dechnegau hydrotherapiwtig
K38. rôl emosiynau mewn prosesau iechyd a chlefyd
K39. y gwahanol dechnegau ymgynghori a dulliau naturiol ar gyfer mynd i'r afael â materion emosiynol
K40. pwysigrwydd y gofynion ffordd o fyw sylfaenol ar gyfer iechy
K41. effaith y canlynol ar iechyd a chlefyd: yr amgylchedd,
cymeriad, ymddygiad ac agwedd
K42. sut i gynghori ar reoli straen
K43. sut i gynghori ar fwyta'n iach
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB7 Ymyriadau a thriniaethau
Swyddogaethau Perthnasol
Egwyddorion Arfer Da
CNH1 Archwilio a chanfod anghenion y cleient o ran gofal iechyd cyflenwol a naturiol
CNH2 Datblygu a chytuno ar gynlluniau ar gyfer gofal iechyd cyflenwol a naturiol gyda chleientiaid
Elfennau a Safonau Craidd y Cyngor Natur-iachâd Cyffredinol (GNC)
Mae Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ychwanegol a allai fod yn berthnasol i Natur-iachâd sy'n cwmpasu technegau therapiwtig unigol sy'n cysylltu â'r cymwyseddau a ddisgrifir yn y ddogfen hon. Gall y rhain fod yn ddefnyddiol ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus Natur-iachawyr a datblygu’r cwricwlwm yn y dyfodol.