Defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu â chwsmeriaid mewn teithio a thwristiaeth

URN: PPLTT61
Sectorau Busnes (Cyfresi): Teithio a Thwristiaeth
Datblygwyd gan: People 1st
Wedi'i gymeradwyo: 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â bod yn barod i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu â chwsmeriaid mewn teithio a thwristiaeth trwy blatfformau cyfryngau cymdeithasol a thrwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i fodloni cwsmeriaid trwy fodloni eu disgwyliadau.

Gall enw da eich brand neu’ch sefydliad gael ei effeithio’n uniongyrchol gan ryngweithio ar gyfryngau cymdeithasol, ac yn arbennig, y ffordd rydych yn delio ag ymatebion negyddol a materion sy’n datblygu’n rhai cyhoeddus.

Mae’r safon hon ar gyfer staff sy’n defnyddio platfformau cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu â chwsmeriaid mewn teithio a thwristiaeth.

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi wedi dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu â chwsmeriaid mewn teithio a thwristiaeth


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Sganio cyfnewidiadau ar gyfryngau cymdeithasol i nodi diddordebau’r cwsmeriaid perthnasol a mesur barn y cyhoedd ar y cynhyrchion, y gwasanaethau a’r cyrchfannau teithio a thwristiaeth a gynigir gan eich sefydliad
  2. Ymateb i ymholiadau neu geisiadau uniongyrchol am wybodaeth yn gysylltiedig â theithio a thwristiaeth trwy gyfathrebu ar gyfryngau cymdeithasol gan ddilyn gweithdrefnau ac amseroedd ymateb sefydliadol
  3. Esbonio’r gwasanaethau neu’r cynhyrchion a gynigir gan eich sefydliad i gwsmeriaid trwy blatfformau cyfryngau cymdeithasol
  4. Cyflwyno delwedd broffesiynol yn unol â’r brand a gweithdrefnau eich sefydliad wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu â chwsmeriaid
  5. Dehongli anghenion cwsmeriaid oddi wrth dôn ac ymagwedd eu postiadau ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol
  6. Ymateb i gyfathrebu cwsmeriaid ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd sy’n dangos eich bod yn deall eu hanghenion
  7. Dilyn confensiynau eich sefydliad a’r platfform cyfryngau cymdeithasol a ddewiswyd wrth gyfathrebu â chwsmeriaid

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid mewn teithio a thwristiaeth trwy blatfformau cyfryngau cymdeithasol
  2. Y gwahanol fathau o blatfformau cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddir gan eich sefydliad a’ch cwsmeriaid
  3. Y gwahanol ffyrdd o gyfleu gwybodaeth am wasanaethau cwsmeriaid teithio a thwristiaeth trwy blatfformau cyfryngau cymdeithasol
  4. Sut i chwilio mewn ffynonellau cyfryngau cymdeithasol am bostiadau gan gwsmeriaid teithio a thwristiaeth
  5. Sut gall sylwadau ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol a graddiadau ar-lein effeithio ar y brand ac enw da eich sefydliad
  6. Sut i nodi diddordebau, ceisiadau ac anghenion cwsmeriaid o ran teithio a thwristiaeth o’u postiadau ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol
  7. Pwysigrwydd dehongli anghenion teithio a thwristiaeth cwsmeriaid oddi wrth dôn ac ymagwedd eu postiadau ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol
  8. Sut i ymateb i sylwadau cadarnhaol, diduedd a negyddol yn gysylltiedig â theithio a thwristiaeth gan gwsmeriaid ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol
  9. Confensiynau eich sefydliad a’r platfformau cyfryngau cymdeithasol y mae eich cwsmeriaid yn dewis eu defnyddio
  10. Sut i ddefnyddio gosodiadau diogelwch i reoli mynediad at gyfnewidiadau gyda chwsmeriaid mewn teithio a thwristiaeth
  11. Sut i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol mewn teithio a thwristiaeth, gan gynnal enw da’r brand a’ch sefydliad bob amser

Cwmpas/ystod

Gallai’r brand fod yn gysylltiedig â’r canlynol:
a) Eich sefydliad
b) Cynhyrchion a gwasanaethau eich sefydliad
c) Cynhyrchion a gwasanaethau eich cyflenwyr


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLTT61

Galwedigaethau Perthnasol

Hamdden; teithio a thwristiaeth, Galwedigaethau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Hamdden, Teithio a thwristiaeth, Cynghorydd Teithio, Cynorthwyydd Twristiaeth, Gweinyddwr Bwciadau neu Archebion, Swyddog Gwybodaeth Twristiaeth

Cod SOC

6212

Geiriau Allweddol

casglu, cynnal, twristiaeth, gwybodaeth, data