Sefydlu diddordeb cwsmeriaid mewn opsiynau cynaliadwy o ran teithio a thwristiaeth

URN: PPLTT60
Sectorau Busnes (Cyfresi): Teithio a Thwristiaeth
Datblygwyd gan: People 1st
Wedi'i gymeradwyo: 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â hyrwyddo ymwybyddiaeth cwsmeriaid o opsiynau cynaliadwy o ran teithio a thwristiaeth, fel llety eco-gyfeillgar, ffurfiau cludiant amgen sy’n lleihau allyriadau carbon, twristiaeth gymunedol ac eco-dwristiaeth. Mae hyn yn cynnwys gallu canfod p’un a oes gan gwsmeriaid ddiddordeb mewn opsiynau cynaliadwy o ran teithio a thwristiaeth, trafod eu hanghenion, eu dymuniadau a’u hoffterau, a chymhwyso eich gwybodaeth i allu esbonio nodweddion allweddol a manteision yr opsiynau cynaliadwy sydd ar gael gan eich sefydliad, neu drwyddo, ac yn olaf, cadarnhau diddordeb cwsmeriaid mewn opsiynau cynaliadwy o ran teithio a thwristiaeth ar sail y wybodaeth rydych chi wedi’i darparu.

Nid yw’r safon hon yn cynnwys gwerthu’r opsiynau cynaliadwy o ran teithio a thwristiaeth, na phrosesu unrhyw fwciadau cysylltiedig.

Mae’r safon hon ar gyfer ymgynghorwyr teithio ac asiantaethau teithio ar gyfer teithio hamdden a busnes / corfforaethol.

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi wedi dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Sefydlu diddordeb cwsmeriaid mewn opsiynau cynaliadwy o ran teithio a thwristiaeth


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Gofyn cwestiynau i sefydlu diddordeb cwsmeriaid mewn opsiynau cynaliadwy o ran teithio a thwristiaeth
  2. Cadarnhau a oes gan eich cwsmer ddiddordeb mewn archwilio opsiynau cynaliadwy o ran teithio a thwristiaeth
  3. Darparu opsiynau cynaliadwy o ran teithio a thwristiaeth sy’n adlewyrchu diddordebau posibl y cwsmeriaid ac esbonio’u nodweddion a’u manteision
  4. Cadarnhau gyda’r cwsmeriaid p’un a ydynt yn dymuno datblygu’r opsiynau cynaliadwy o ran teithio a thwristiaeth

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Ystyr cynaliadwyedd yn y diwydiant teithio a thwristiaeth a’r termau cyffredin a ddefnyddir mewn cysylltiad â’r math hwnnw o deithio a thwristiaeth
  2. Y mathau o opsiynau cynaliadwy o ran teithio a thwristiaeth, a’r amrywiaeth ohonynt
  3. Sut gall busnesau teithio a thwristiaeth gyfrannu’n gadarnhaol at gynaliadwyedd, e.e. lleihau neu wrthbwyso eu hôl-troed carbon
  4. Y gwobrau a’r mentrau sy’n cefnogi / hyrwyddo / cydnabod cynaliadwyedd mewn teithio a thwristiaeth
  5. Y mathau o dystysgrifau cynaliadwyedd mewn teithio a thwristiaeth, a’u hystyr
  6. Gwerth a manteision opsiynau cynaliadwy o ran teithio a thwristiaeth i bobl sy’n mynd ar wyliau, teithwyr busnes, economi’r Deyrnas Unedig a’r economi fyd-eang, yr amgylchedd a chyrchfannau a chymunedau
  7. Y rhesymau allweddol pam mae cwsmeriaid yn dymuno prynu / profi cynhyrchion a gwasanaethau cynaliadwy o ran teithio a thwristiaeth
  8. Y ffynonellau gwybodaeth sy’n gysylltiedig â chynhyrchion a gwasanaethau cynaliadwy a sut i gael mynediad atynt, eu defnyddio a’u dehongli
  9. Nodweddion a manteision ystod y cynhyrchion a’r gwasanaethau cynaliadwy a gynigir gan eich sefydliad, neu drwyddo
  10. Nodweddion a phwyntiau gwerthu gwahanol opsiynau cynaliadwy o ran teithio a thwristiaeth
  11. Polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad yn gysylltiedig â hyrwyddo a gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau cynaliadwy, a phwysigrwydd eu dilyn
  12. Sut i ddefnyddio technegau holi a sgiliau gwrando i nodi anghenion cwsmeriaid ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau cynaliadwy o ran teithio a thwristiaeth
  13. Sut i sefydlu perthynas wrth ddarparu opsiynau cynaliadwy o ran teithio a thwristiaeth ac esbonio’u nodweddion allweddol a’u manteision i gwsmeriaid
  14. Pwysigrwydd darparu gwybodaeth gywir a chyfoes am gynhyrchion cynaliadwy o ran teithio a thwristiaeth, a chanlyniadau posibl camddehongliadau yn ystod trafodaethau â chwsmeriaid
  15. Pryd a sut i uchafu cyfleoedd i ymestyn profiad y cwsmer

Cwmpas/ystod

Opsiynau cynaliadwy o ran teithio a thwristiaeth:
a) Cludiant
b) Llety
c) Atyniadau
ch) Diwylliant a Threftadaeth
d) Cymuned
dd) Bywyd Gwyllt a Natur


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

PPLTT01 Gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau yn gysylltiedig â theithio
PPLTT02 Prosesu bwciadau gwasanaethau teithio


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLTT60

Galwedigaethau Perthnasol

Hamdden; teithio a thwristiaeth, Galwedigaethau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Hamdden, Teithio a thwristiaeth, Cynghorydd Teithio, Cynorthwyydd Twristiaeth, Gweinyddwr Bwciadau neu Archebion, Swyddog Gwybodaeth Twristiaeth

Cod SOC

6212

Geiriau Allweddol

casglu, cynnal, twristiaeth, gwybodaeth, data