Monitro a chyfleu gwybodaeth sy’n effeithio ar drefniadau teithio cwsmeriaid
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â monitro rhybuddion teithio a gwybodaeth gysylltiedig arall sydd â’r potensial i effeithio ar gwsmeriaid wth deithio ar gyfer busnes neu hamdden. Mae hyn yn cynnwys cael a dethol gwybodaeth berthnasol o ffynonellau fel Adrannau’r Llywodraeth, ABTA, y CAA ac ATOL, asesu’r risgiau a nodi’r effaith bosibl ar eich cwsmeriaid. Mae hyn hefyd yn cynnwys cyfleu’r wybodaeth berthnasol i gydweithwyr i’w galluogi i gymryd y camau priodol i roi gwybod i gwsmeriaid am oblygiadau eu trefniadau teithio.
Mae’r safon hon ar gyfer uwch ymgynghorwyr teithio ac asiantaethau, goruchwylwyr ac arweinwyr tîm ar gyfer teithio hamdden a busnes / corfforaethol.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi wedi dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Fonitro a chyfleu gwybodaeth sy’n effeithio ar drefniadau teithio cwsmeriaid
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi’r ffynonellau gwybodaeth sydd angen eu monitro
- Monitro’r ffynonellau gwybodaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
- Dilysu’r wybodaeth gyda’r unigolyn cyfrifol enwebedig o fewn eich sefydliad
- Dethol y wybodaeth sy’n berthnasol i drefniadau teithio eich cwsmeriaid
- Asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r wybodaeth rydych chi wedi’i derbyn a nodi’r goblygiadau ar gyfer trefniadau teithio cwsmeriaid
- Cyfleu’r wybodaeth i gydweithwyr perthnasol gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
- Gwirio bod cydweithwyr wedi deall y wybodaeth sy’n cael ei darparu a’r camau gofynnol i’w cymryd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y math o wybodaeth sydd â’r potensial i effeithio ar drefniadau teithio cwsmeriaid, a ble i ddod o hyd iddi
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer monitro gwybodaeth sydd â’r potensial i effeithio ar drefniadau teithio cwsmeriaid
- Pwysigrwydd dilysu’r wybodaeth gyda’r unigolyn cyfrifol o fewn eich sefydliad
- Sut i ddethol y wybodaeth sy’n berthnasol i drefniadau teithio eich cwsmeriaid
- Y mathau o risg a lefel y risg sy’n gysylltiedig â’r wybodaeth sy’n cael ei dethol, a sut i nodi goblygiadau’r wybodaeth ar drefniadau teithio cwsmeriaid
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyfleu gwybodaeth sy’n effeithio ar drefniadau teithio cwsmeriaid i gydweithwyr
- Pwysigrwydd gwirio dealltwriaeth cydweithwyr o’r wybodaeth a ddarparwyd a’r camau i’w cymryd o ganlyniad
- Goblygiadau posibl darparu gwybodaeth anghywir neu amhriodol sy’n effeithio ar drefniadau teithio cwsmeriaid i gydweithwyr
Cwmpas/ystod
Mae risgiau yn cynnwys:
a) Iechyd, e.e. achosion o wenwyn bwyd, feirysau, clefydau pandemig
b) Diogelwch, e.e. corfforol, lles, trychinebau naturiol
c) Diogeledd, e.e. cyfradd troseddau, ymosodiad gan derfysgwyr
ch) Ariannol, e.e. cwmni hedfan yn mynd allan o fusnes
d) Diwylliannol, e.e. amrywiaeth, arferion lleol
dd) Gofynion mynediad, e.e. gofynion fisa, dogfennau teithio, pasbort
e) Gwleidyddol, e.e. llywodraeth ansefydlog, mynediad / rheoli ffiniau
Gallai unigolyn cyfrifol fod yn un o’r canlynol oddi mewn i’ch sefydliad:
a) Eich goruchwylydd neu reolwr llinell
b) Cydweithiwr o fewn eich adran
c) Cydweithiwr o adran arall
ch) Uwch reolwr
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
ATOL – Trwyddedu Trefnwyr Teithiau Awyr
CAA – Yr Awdurdod Hedfan Sifil