Arddangos brand proffesiynol a gwerthoedd a safonau sefydliadol

URN: PPLTT57
Sectorau Busnes (Cyfresi): Teithio a Thwristiaeth
Datblygwyd gan: People 1st
Wedi'i gymeradwyo: 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud ag arddangos brand proffesiynol a gwerthoedd a safonau sefydliadol. Mae’n cynnwys cyflwyno eich hun a rhyngweithio â chwsmeriaid a chydweithwyr mewn ffordd sy’n cynrychioli ac yn hyrwyddo’r brand a gwerthoedd a safonau sefydliadol.

Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio mewn gwasanaethau teithio.

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich gwybodaeth am y canlynol, a’ch gallu i:
• Arddangos brand proffesiynol a gwerthoedd a safonau sefydliadol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Cyflwyno’ch hun yn broffesiynol, yn unol â’r brand a gwerthoedd a safonau sefydliadol
  2. Hyrwyddo’r brand a gwerthoedd a safonau sefydliadol tra’n cyflawni’ch rôl swydd
  3. Cadarnhau bod eich ymddygiad eich hun yn dangos y brand a gwerthoedd a safonau eich sefydliad
  4. Rhyngweithio â chwsmeriaid mewn ffordd sy’n diwallu eu hanghenion ac yn cyflwyno cynnig proffesiynol o ran gwasanaeth cwsmeriaid yn unol â’r brand a gwerthoedd a safonau sefydliadol
  5. Dilyn polisïau a gweithdrefnau gwasanaethau cwsmeriaid eich sefydliad
  6. Sefydlu a chynnal perthnasoedd gweithio proffesiynol â chydweithwyr
  7. Gofyn am gymorth a gwybodaeth pan fydd angen hyn arnoch chi
  8. Cael a defnyddio adborth gan gwsmeriaid a chydweithwyr i wella’ch perfformiad eich hun yn unol â’r brand a gwerthoedd a safonau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Y brand a gwerthoedd a safonau sefydliadol, a pham mae’n bwysig glynu atynt
  2. Sut i hyrwyddo’r brand a gwerthoedd a safonau sefydliadol tra byddwch yn cyflawni’ch rôl swydd
  3. Safonau eich sefydliad yn gysylltiedig ag ymddangosiad ac ymddygiad
  4. Y gwahanol fathau o dechnegau cyfathrebu a’u pwysigrwydd
  5. Sut i ryngweithio â chwsmeriaid mewn ffordd sy’n cyflwyno delwedd a gwasanaeth proffesiynol, a phwysigrwydd gwneud hynny
  6. Y mathau o ymddygiad sy’n dderbyniol i’ch rôl swydd a pham mae’n bwysig ymddwyn fel hyn
  7. Sut gall eich ymddygiad gael effaith gadarnhaol a negyddol ar brofiad y cwsmer, y brand ac enw da eich sefydliad
  8. Sut mae eich ymddygiad yn cael effaith gadarnhaol a negyddol ar gydweithwyr
  9. Y gwahanol ddulliau ar gyfer datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith proffesiynol â’ch cydweithwyr
  10. Y mathau o sefyllfaoedd y gallai fod angen i chi ddarparu cymorth a gwybodaeth i'ch cydweithwyr ynddynt, a phwysigrwydd gwneud hynny
  11. Pryd a sut i ofyn am gymorth ac / neu wybodaeth a phwysigrwydd gwneud hynny
  12. Sut i gael a defnyddio adborth ar eich perfformiad eich hun

Cwmpas/ystod

Efallai bod y brand yn ymwneud â’r canlynol:
a) Eich sefydliad
b) Cynhyrchion a gwasanaethau eich sefydliad
c) Cynhyrchion a gwasanaethau eich cyflenwyr


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLTT57

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Ymgynghorydd Teithiau Hamdden, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Cynorthwyydd Twristiaeth, Cynrychiolydd Lleoedd Gwyliau Dramor, Swyddog Gwybodaeth Twristiaeth, Tywysydd Teithiau Lleol, Ymgynghorydd Teithio Busnes

Cod SOC

6212

Geiriau Allweddol

proses, teithio, twristiaeth, gwasanaethau, taliadau