Cynghori cwsmeriaid ar oblygiadau gwybodaeth sy’n effeithio ar eu trefniadau teithio
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynghori cwsmeriaid ar oblygiadau gwybodaeth sy’n effeithio ar eu trefniadau teithio. Mae hyn yn cynnwys monitro gwybodaeth a ddarperir yn fewnol gan eich sefydliad o ffynonellau allanol fel Asiantaethau’r Llywodraeth ac ABTA, gwirio goblygiadau’r wybodaeth sy’n dod i law, a nodi’r cwsmeriaid hynny y mae eu trefniadau teithio yn debygol o gael eu heffeithio gan hyn. Mae hyn hefyd yn cynnwys cyfleu’r wybodaeth berthnasol i gwsmeriaid mewn ffordd sy’n eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am eu trefniadau teithio.
Mae’r safon hon ar gyfer ymgynghorwyr teithio ac asiantaethau teithio ar gyfer teithio hamdden a busnes / corfforaethol.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi wedi dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gynghori cwsmeriaid ar oblygiadau gwybodaeth sy’n effeithio ar eu trefniadau teithio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Monitro’r wybodaeth fewnol sy’n dod i law yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Gwirio eich dealltwriaeth o effaith bosibl gwybodaeth ar drefniadau teithio cwsmeriaid gyda’r unigolyn sy’n darparu’r wybodaeth fewnol
- Nodi a blaenoriaethu camau gweithredu yn unol ag effaith bosibl y wybodaeth ar gwsmeriaid
- Cysylltu â’ch cwsmeriaid yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a’r graddfeydd amser gofynnol
- Cyfleu’r wybodaeth a’r cyngor i gwsmeriaid mewn ffordd y gallant ddeall ac a fydd yn eu cynorthwyo wrth wneud penderfyniadau
- Cadarnhau bod y cwsmeriaid wedi deall y wybodaeth a’r cyngor a roddwyd a’r goblygiadau i’w trefniadau teithio, gan gynnwys unrhyw risgiau cysylltiedig
- Os oes angen, nodi trefniadau teithio amgen yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Rhoi camau gweithredu ar waith i gefnogi trefniadau teithio amgen cwsmeriaid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer monitro gwybodaeth fewnol
- Pwysigrwydd gwirio eich dealltwriaeth o oblygiadau’r wybodaeth am drefniadau teithio cwsmeriaid gyda’r unigolyn sy’n darparu’r wybodaeth fewnol
- Sut i nodi a blaenoriaethu cwsmeriaid sy’n cael eu heffeithio gan y wybodaeth sy’n dod i law
- Gweithdrefnau a graddfeydd amser eich sefydliad ar gyfer cysylltu â chwsmeriaid sydd wedi eu heffeithio, a phwysigrwydd eu dilyn
- Y camau y dylid eu cymryd os nad yw cwsmeriaid yn ymateb i gynigion i gysylltu â nhw
- Sut i gyfleu gwybodaeth i gwsmeriaid mewn ffordd y byddant yn deall a chefnogi’r penderfyniadau a wnânt
- Sut i gyfathrebu mewn ffordd sy’n berthnasol i effaith y wybodaeth a roddwyd
- Sut i gadarnhau bod cwsmeriaid wedi deall effaith y wybodaeth a roddwyd iddynt am eu trefniadau teithio, gan gynnwys risgiau cysylltiedig
- Sut i nodi trefniadau teithio amgen ar gyfer cwsmeriaid a’u trefnu, yn ôl yr angen
Cwmpas/ystod
Mae risgiau yn cynnwys:
- Iechyd, e.e. achosion o wenwyn bwyd, feirysau, clefydau pandemig
- Diogelwch, e.e. corfforol, lles, trychinebau naturiol
- Diogeledd, e.e. cyfradd troseddau, ymosodiad gan derfysgwyr
- Ariannol, e.e. cwmni hedfan yn mynd allan o fusnes
- Diwylliannol, e.e. amrywiaeth, arferion lleol
- Gofynion mynediad, e.e. gofynion fisa, dogfennau teithio, pasbort
- Gwleidyddol, e.e. llywodraeth ansefydlog, mynediad / rheoli ffiniau