Datblygu a chynnal perthnasoedd â chwsmeriaid o bell
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â datblygu a chynnal perthnasoedd cadarnhaol gyda chwsmeriaid mewn diwydiant sy’n canolbwyntio’n ddwys ar bobl hyd yn oed pan na fyddant gyda nhw wyneb yn wyneb.
Mae hyn yn cynnwys defnyddio amrywiaeth o sianelau cyfathrebu i ymgysylltu â chwsmeriaid fel y ffôn, e-bost, fideo a phrotocol llais dros y rhyngrwyd (VOIP), neges destun, sgwrs fyw, y rhyngrwyd a ffurfiau o gysylltu ar bapur.
Mae’r safon ar gyfer staff teithio a thwristiaeth sy’n cysylltu â chwsmeriaid o bell trwy ffurfiau o bell. Mae safon ar wahân ar gyfer staff teithio a thwristiaeth sy’n cysylltu â chwsmeriaid wyneb yn wyneb.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi wedi dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Ddatblygu a chynnal perthnasoedd â chwsmeriaid o bell
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio bod sianel cyfathrebu o bell yn weithredol, lle mae angen
- Cyfarch a siarad â’r cwsmeriaid o bell, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Os yw cydweithiwr yn monitro eich rhyngweithio â’r cwsmer o bell neu os yw’r rhyngweithio’n cael ei recordio, rhowch wybod i’r cwsmeriaid a’u cael i gytuno, lle mae angen, yn unol â gofynion eich sefydliad
- Sefydlu gofynion y cwsmeriaid o bell, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Cyfathrebu â chwsmeriaid o bell mewn ffordd sy’n datblygu ac yn cynnal perthnasoedd cadarnhaol â nhw ac yn hyrwyddo gwerthoedd gwasanaethau cwsmeriaid eich sefydliad
- Addasu eich ymagwedd at eich cwsmeriaid o bell yn unol â’u hanghenion, ac yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydnabod y pwyntiau a godwyd, yr ymatebion a wnaed a’ch dealltwriaeth o ofynion cwsmeriaid o bell trwy gydol y rhyngweithio
- Pan fydd angen, rheoli newid rhwng sianelau cyfathrebu i wneud y broses mor ddi-dor ag y bo modd i gwsmeriaid
- Cadarnhau’r gwahanol ffyrdd o ddiwallu anghenion cwsmeriaid o bell a gweithredu yn unol â hynny
- Esbonio unrhyw oedi wrth ymateb i anghenion cwsmeriaid o bell
- Cynnal llif deialog i roi gwybod i gwsmeriaid am y camau perthnasol sy’n cael eu cymryd wrth i’r rhyngweithio symud ymlaen
- Defnyddio’r adnoddau o bell yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Darparu gwybodaeth i gwsmeriaid yn unol â’u hanghenion ac mewn ffordd sy’n eu helpu i ddeall
- Pan fydd angen, atgyfeirio’r cwsmeriaid o bell at gydweithwyr, gan esbonio’r rhesymau dros yr atgyfeirio, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Cyflawni unrhyw ymrwymiadau sy’n cael eu gwneud i gwsmeriaid o bell o fewn y raddfa amser a nodwyd
- Cynnal cyfrinachedd yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaeth berthnasol
- Diweddaru a chynnal cofnodion cwsmeriaid yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a deddfwriaeth bresennol diogelu data
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyfarch a siarad â’r cwsmeriaid, a’r cwsmeriaid sy’n dychwelyd o bell
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer rhoi gwybod i gwsmeriaid lle mae cydweithwyr yn monitro eich rhyngweithio, neu os yw’ch rhyngweithio’n cael ei recordio
- Gwerthoedd a gweithdrefnau gwasanaethau cwsmeriaid eich sefydliad ar gyfer datblygu a chynnal perthnasoedd gyda chwsmeriaid o bell
- Technegau cyfathrebu a sut i addasu’r rhain i anghenion gwahanol gwsmeriaid, sianelau cyfathrebu a sefyllfaoedd o bell
- Pwysigrwydd cydnabod amrywiaeth o ran oedran, anabledd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd ac ethnigrwydd
- Sut i ymdrin â sgyrsiau yn cynnwys 'cyfieithydd' sy’n gweithredu ar ran rhywun ag anawsterau clywed a phwysigrwydd bod yn amyneddgar yn ystod sgyrsiau o’r fath
- Pryd i ddefnyddio cwestiynau agored, caeedig a threiddgar, yn dibynnu ar y wybodaeth y gofynnir amdani a gofynion gwahanol gwsmeriaid
- Y technegau ar gyfer cynnal rheolaeth o ryngweithio tra’n hyrwyddo perthynas gadarnhaol â chwsmeriaid
- Sut i ymdrin â sgyrsiau yn cynnwys 'cyfieithydd' sy’n gweithredu ar ran rhywun ag anawsterau clywed a phwysigrwydd bod yn amyneddgar yn ystod sgyrsiau o’r fath
- Pwysigrwydd “gwrando” effeithiol a datblygu perthynas â’r cwsmer
- Pwysigrwydd cynnal llif o ryngweithio â chwsmeriaid a thechnegau ar gyfer sicrhau bod hyn yn digwydd tra byddwch chi’n diweddaru sgriniau ac yn rheoli adnoddau eraill yn gysylltiedig â rhyngweithio o’r fath
- Sut i hyrwyddo gwerthoedd gwasanaethau cwsmeriaid eich sefydliad wrth gyfathrebu â chwsmeriaid o bell
- Pryd, sut ac at bwy i gyfeirio cwsmeriaid o bell
- Pwysigrwydd bwrw ymlaen ag ymrwymiadau i ddiwallu anghenion cwsmeriaid
- Pwysigrwydd cynnal cyfrinachedd yn ystod rhyngweithio o bell gyda chwsmeriaid
- Gweithdrefnau eich sefydliad a gofynion deddfwriaethol data presennol ar gyfer cynnal cofnodion cwsmeriaid
Cwmpas/ystod
Mae sianelau cyfathrebu o bell yn cynnwys:
a) Ffôn
b) E-bost
c) Neges destun
ch) Sgwrs ar-lein
d) Ar bapur
dd) Cyfryngau cymdeithasol
e) Fideo
f) Protocol Llais dros y Rhyngrwyd (VOIP)
Mae gofynion cwsmeriaid yn cynnwys:
a) Gwybodaeth
b) Bwcio
c) Cwyn
Mae adnoddau yn cynnwys:
a) Offer cyfathrebu
b) Sgriniau gwybodaeth
c) Deunyddiau
ch) Gwybodaeth
d) Amser
Cyfrinachedd:
a) trefnu gwybodaeth
b) gwybodaeth am gwsmeriaid
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Cyflwynwch eich hun yn gadarnhaol, yn gryno ac yn glir gan ddefnyddio geiriau sy’n cael eu derbyn gan eich sefydliad; sy’n adlewyrchu diddordeb yn anghenion y cwsmeriaid gan ddefnyddio tôn eich llais, goslef ac iaith
- Dylech chi ymdrin â’r sgwrs mewn modd proffesiynol ac ar gyflymdra i weddu i anghenion cwsmeriaid trwy gydol y sgwrs
- Dewch â sgyrsiau i ben yn effeithiol ac ar nodyn cadarnhaol, gan ddefnyddio geiriau sy’n cael eu derbyn gan eich sefydliad
- Dylech chi gyfathrebu’n glir ac yn gryno ac ar gyflymdra i weddu i gwsmeriaid, tra’n cynnal rheolaeth o’r sgwrs
- Defnyddiwch gwestiynau priodol i gael gwybodaeth berthnasol ac egluro gofynion cwsmeriaid
- Dewiswch eiriau sy’n cyd-fynd â lefel dealltwriaeth cwsmeriaid, ac osgoi defnyddio jargon
- Dylech chi gydnabod a chadarnhau yn rheolaidd trwy gydol y sgwrs, eich dealltwriaeth o’r hyn y mae cwsmeriaid yn ei ddweud
- Rhowch ymatebion sy’n dangos empathi
- Cymerwch gamau cadarnhaol i ddatblygu a chynnal awyrgylch cefnogol gyda chwsmeriaid
- Arhoswch yn bwyllog a chynnal lefel o reolaeth dros y sgwrs