Monitro perfformiad busnes
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’ch cyfraniad at fonitro perfformiad y busnes. Caiff amcanion a thargedau busnes eu cymhwyso ym mhob diwydiant i sefydlu fframwaith y gellir mesur perfformiad y busnes a’i staff yn ei erbyn. Mae’n hanfodol bod yn ymwybodol o’r meysydd y mae angen ymdrech tuag at welliant ynddynt, er mwyn gallu defnyddio adnoddau yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Mae’r safon hon ar gyfer uwch ymgynghorwyr teithio, arweinwyr tîm a goruchwylwyr sydd â chyfrifoldeb am gyfrannu at fonitro ac adrodd am berfformiad busnes o ddydd i ddydd mewn busnesau teithio a thwristiaeth.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi wedi dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Fonitro perfformiad busnes
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi’r targedau busnes allweddol a’r dangosyddion perfformiad a ddefnyddir i fonitro perfformiad busnes yn eich maes cyfrifoldeb
- Cynnal y cofnodion busnes sy’n ofynnol i fonitro perfformiad busnes, gan gadarnhau eu bod yn gyfoes, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Nodi a dadansoddi gwybodaeth yn ymwneud â’r targedau a’r dangosyddion perfformiad a ddefnyddir i fonitro perfformiad busnes o fewn eich maes cyfrifoldeb
- Nodi, monitro ac ymchwilio i achosion amrywiadau sylweddol rhwng perfformiad busnes cynlluniedig a gwirioneddol
- Rhoi gwybod am berfformiad busnes i gydweithwyr / rheolwyr yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Gofyn am awgrymiadau gan gydweithwyr ar gyfer gwella perfformiad busnes
- Datblygu cynlluniau ar gyfer gwella perfformiad busnes yn unol â’ch gweithdrefnau sefydliadol ac adnoddau sydd ar gael
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y targedau busnes a’r dangosyddion perfformiad allweddol a sut mae’r rhain yn gysylltiedig â monitro perfformiad busnes yn eich maes cyfrifoldeb eich hun
- Sut i gadw cofnodion cywir a chyfoes sy’n ofynnol i fonitro perfformiad busnes
- Sut i nodi a dadansoddi data a ddefnyddir i fonitro perfformiad busnes
- Y ffactorau sy’n gallu effeithio ar berfformiad busnes
- Amodau presennol y farchnad yn y diwydiant a’u heffeithiau posibl ar berfformiad busnes
- Pwysigrwydd cynnwys staff mewn casglu a dadansoddi data a ddefnyddir i fonitro perfformiad busnes
- Pa mor aml y mae’n ofynnol i chi wirio perfformiad gwirioneddol y busnes i gael data dibynadwy
- Canlyniadau newidiadau mewn prosesau gweithredol
- Gweithredoedd eich cydweithwyr a’r effeithiau y gallent eu cael ar berfformiad busnes
- Y wybodaeth am berfformiad busnes y mae’n ofynnol i chi ei rhoi i gydweithwyr / rheolwyr
- Y fformatau cyflwyno gofynnol ar gyfer gwybodaeth am berfformiad busnes
- Y ffactorau posibl a allai achosi amrywiadau rhwng perfformiad targed a’r hyn a gyflawnwyd
- Y gwahanol ffyrdd o gyflwyno syniadau ar gyfer gwella perfformiad busnes
- Sut i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella perfformiad busnes yn unol â gweithdrefnau sefydliadol ac adnoddau sydd ar gael
Cwmpas/ystod
Mae targedau a dangosyddion perfformiad yn cynnwys y rheiny sy’n gysylltiedig â:
a) gwerthu
b) costau
c) gwasanaeth
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Dylech chi fonitro’n effeithlon i leihau tarfu i’r eithaf
- Dylech chi ddadansoddi data perfformiad yn ofalus
- Dylech chi gynnwys cydweithwyr mewn nodi achosion posibl amrywiadau sylweddol