Datblygu a chynnal perthnasoedd â gweithrediadau twristiaeth cwsmeriaid wyneb yn wyneb
URN: PPLTT49
Sectorau Busnes (Cyfresi): Teithio a Thwristiaeth
Datblygwyd gan: People 1st
Wedi'i gymeradwyo:
2021
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â datblygu a chynnal perthnasoedd cadarnhaol â chwsmeriaid wyneb yn wyneb mewn diwydiant sy’n canolbwyntio’n ddwys ar bobl.
Mae’r safon hon ar gyfer staff teithio a thwristiaeth sy’n cysylltu â staff wyneb yn wyneb. Mae safon ar wahân ar gyfer staff teithio a thwristiaeth sy’n cysylltu â chwsmeriaid o bell.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi wedi dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Ddatblygu a chynnal perthnasoedd â chwsmeriaid wyneb yn wyneb
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cyfarch a siarad â’r cwsmeriaid wyneb yn wyneb, a’r cwsmeriaid sy’n dychwelyd, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Pan na fydd modd osgoi oedi o ran cyfarch y cwsmer wyneb yn wyneb, dylid eu cydnabod ac ymddiheuro iddynt, lle bo modd
- Sefydlu gofynion cwsmeriaid wyneb yn wyneb yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Cyfathrebu â chwsmeriaid wyneb yn wyneb mewn ffordd sy’n datblygu ac yn cynnal perthnasoedd â nhw ac yn hyrwyddo gwerthoedd gwasanaethau cwsmeriaid eich sefydliad
- Addasu eich ymagwedd at eich cwsmeriaid wyneb yn wyneb yn unol â’u hanghenion, ac yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydnabod y pwyntiau a godwyd, yr ymatebion a wnaed a’ch dealltwriaeth o ofynion cwsmeriaid wyneb yn wyneb trwy gydol y rhyngweithio
- Cadarnhau’r gwahanol ffyrdd o ddiwallu anghenion cwsmeriaid wyneb yn wyneb a gweithredu yn unol â hynny
- Esbonio unrhyw oedi wrth ymateb i anghenion cwsmeriaid wyneb yn wyneb
- Cynnal llif deialog i roi gwybod i gwsmeriaid am y camau perthnasol sy’n cael eu cymryd wrth i’r rhyngweithio symud ymlaen
- Darparu gwybodaeth i gwsmeriaid yn unol â’u hanghenion ac mewn ffordd sy’n eu helpu i ddeall
- Pan fydd angen, cyfeirio’r cwsmeriaid wyneb yn wyneb at gydweithwyr, gan esbonio’r rhesymau dros yr atgyfeirio, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Cyflawni unrhyw ymrwymiadau sy’n cael eu gwneud i gwsmeriaid wyneb yn wyneb o fewn y raddfa amser a nodwyd
- Cynnal cyfrinachedd yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaeth berthnasol
- Diweddaru a chynnal cofnodion cwsmeriaid yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a deddfwriaeth bresennol ar ddiogelu data
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyfarch a siarad â chwsmeriaid a chwsmeriaid sy’n dychwelyd wyneb yn wyneb
- Gwerthoedd a gweithdrefnau gwasanaethau cwsmeriaid eich sefydliad ar gyfer datblygu a chynnal perthnasoedd â chwsmeriaid wyneb yn wyneb
- Technegau cyfathrebu a sut i addasu’r rhain i anghenion gwahanol gwsmeriaid a sefyllfaoedd wyneb yn wyneb
- Pwysigrwydd cydnabod amrywiaeth o ran oedran, anabledd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, ethnigrwydd, ac ymddangosiad corfforol
- Sut i ymdrin â sgyrsiau yn cynnwys 'cyfieithydd' sy’n gweithredu ar ran rhywun ag anawsterau clywed a phwysigrwydd bod yn amyneddgar yn ystod sgyrsiau o’r fath
- Pwysigrwydd gwrando gweithredol a datblygu perthynas â’r cwsmer
- Pwysigrwydd cynnal llif o ryngweithio â chwsmeriaid a thechnegau ar gyfer sicrhau bod hyn yn digwydd tra byddwch chi’n ymchwilio i gamau i ddiwallu eu hanghenion
- Sut i hyrwyddo gwerthoedd gwasanaethau cwsmeriaid eich sefydliad wrth gyfathrebu â chwsmeriaid wyneb yn wyneb
- Pryd, sut ac at bwy i gyfeirio cwsmeriaid wyneb yn wyneb
- Pwysigrwydd bwrw ymlaen ag ymrwymiadau i ddiwallu anghenion cwsmeriaid
- Pwysigrwydd cynnal cyfrinachedd yn ystod rhyngweithio wyneb yn wyneb gyda chwsmeriaid
- Gweithdrefnau eich sefydliad a gofynion deddfwriaethol data presennol ar gyfer cynnal cofnodion cwsmeriaid
Cwmpas/ystod
Mae gofynion cwsmeriaid yn cynnwys:
a) Gwybodaeth
b) Bwcio
c) Cwyn
Cyfrinachedd:
a) gwybodaeth am sefydliadau
b) gwybodaeth am gwsmeriaid
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Dylech chi ddeall pobl a sefyllfaoedd ac ymateb iddynt yn briodol
- Dylech ennyn ymddiriedaeth a meithrin perthynas
- Sicrhewch y gwasanaeth cwsmeriaid gorau i amrywiaeth o fathau o gwsmeriaid
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
2
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPLTT49
Galwedigaethau Perthnasol
Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Ymgynghorydd Teithiau Hamdden, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Cynorthwyydd Twristiaeth, Cynrychiolydd Lleoedd Gwyliau Dramor, Swyddog Gwybodaeth Twristiaeth, Ymgynghorydd Teithio Busnes
Cod SOC
6212
Geiriau Allweddol
cynnal, wyneb yn wyneb, perthnasoedd, cwsmeriaid