Cynhyrchu gwerthiannau teithio a thwristiaeth cynyddol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chysylltu â chwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid i gynhyrchu cynnydd yn lefel gwerthiannau cynhyrchion a gwasanaethau teithio a thwristiaeth, a gwerthuso eich llwyddiant mewn cynyddu gwerthiannau.
Mae’r safon ar gyfer staff sy’n ymwneud â gwerthiannau uniongyrchol cynhyrchion a gwasanaethau teithio a thwristiaeth.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi wedi dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gynhyrchu gwerthiannau teithio a thwristiaeth cynyddol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi amcanion ymdrechion gwerthu a thargedau ar gyfer cynhyrchu gwerthiannau teithio a thwristiaeth cynyddol, a chytuno arnynt gyda’ch rheolwr
- Nodi ffyrdd i werthuso llwyddiant ymdrechion gwerthu a chytuno arnynt gyda’ch rheolwr
- Dewis cwsmeriaid posibl yn unol ag amcanion cytûn
- Nodi cynhyrchion a gwasanaethau sydd o ddiddordeb posibl i gwsmeriaid
- Cysylltu â chwsmeriaid a gwerthiannau posibl gan ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Hyrwyddo’r cynhyrchion a’r gwasanaethau yn seiliedig ar hanes prynu blaenorol ac anghenion posibl, cyfleoedd ar gyfer uwch-werthu a chyfnewid gwerthu
- Addasu technegau gwerthu i weddu i ymatebion cwsmeriaid
- Gwirio bod y wybodaeth a roddir i ddarpar gwsmeriaid yn ddilys ac yn gweddu i’w hanghenion
- Cofnodi a storio manylion cyswllt y cwsmer yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a deddfwriaeth bresennol ar ddiogelu data
- Cymharu’r amcanion cytûn a’r gwerthiannau gwirioneddol a gyflawnwyd i werthuso llwyddiant ymdrechion gwerthu, ac esbonio unrhyw amrywiadau
- Gwneud argymhellion ar gyfer ymdrechion gwerthu yn y dyfodol yn seiliedig ar y gwerthusiad, a’u cyfleu i’ch rheolwr yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i nodi targedau ac amcanion ymdrechion gwerthu
- Sut mae eich sefydliad yn gwneud y gorau o refeniw trwy gymhellion busnes a hyrwyddo gwerthiannau
- Lle a gwerth ymdrechion gwerthu lleol uniongyrchol o ran nodi anghenion cwsmeriaid a chynhyrchu gwerthiannau teithio a thwristiaeth cynyddol
- Y prif gynhyrchion a gwasanaethau teithio a thwristiaeth a gynigir gan gystadleuwyr eich sefydliad
- Y mathau o ddulliau a ddefnyddir ar gyfer ymchwilio cronfa ddata cwsmeriaid i nodi cwsmeriaid posibl
- Ystod, nodweddion a phrisiau’r holl gynhyrchion a gwasanaethau teithio a thwristiaeth sydd ar gael
- Pwysigrwydd deall anghenion cwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid, eu dymuniadau a’u hoffterau ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau teithio a thwristiaeth
- Yr amodau economaidd a chymdeithasol presennol sy’n effeithio ar brynu cynnyrch teithio a thwristiaeth
- Sut gallai dylanwad amodau presennol effeithio ar ymatebion cwsmeriaid i ymdrechion gwerthu o ran teithio a thwristiaeth
- Manteision a chyfyngiadau’r gwahanol ddulliau o gysylltu â chwsmeriaid i gynhyrchu gwerthiannau cynyddol o ran teithio a thwristiaeth
- Sut i gyflwyno gwybodaeth i gwsmeriaid a defnyddio technegau gwerthu i gynhyrchu diddordeb mewn cynhyrchion a gwasanaethau teithio a thwristiaeth, gan gynnwys sefydlu perthynas
- Pwysigrwydd cael amcan o ymatebion cwsmeriaid, a’u cofnodi, yn ystod rhyngweithio o ran gwerthiannau
- Sut i addasu eich dull gwerthu i fodloni ymatebion gwahanol gwsmeriaid
- Sut i adnabod cyfleoedd i uwch-werthu a chyfnewid gwerthu i gynhyrchu gwerthiannau teithio a thwristiaeth cynyddol
- Pwysigrwydd darparu gwybodaeth gywir a pherthnasol yn unig i gwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid
- Eich gweithdrefnau sefydliadol a gofynion deddfwriaeth bresennol diogelu data ar gyfer cofnodi a storio manylion i gysylltu â chwsmeriaid
- Y gwahanol ffyrdd o werthuso llwyddiant ymdrechion gwerthu
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwneud a chyfleu argymhellion ar gyfer ymdrechion gwerthu yn y dyfodol
Cwmpas/ystod
Cwsmeriaid posibl:
a) ymholiadau diweddar gan gwsmeriaid nad ydynt yn cael eu troi’n werthiannau
b) teithwyr sydd wedi dychwelyd yn ddiweddar
c) cwsmeriaid mynych
ch) awgrymiadau gan gydweithwyr
d) adolygiadau ar y cyfryngau cymdeithasol
dd) gwefannau adolygiadau gan gwsmeriaid
Cynhyrchion a gwasanaethau:
e) cynhyrchion craidd
f) cynhyrchion a gwasanaethau ychwanegol
Dulliau:
ff) ffôn
g) post
ng) e-bost
h) neges destun
i) cyfryngau cymdeithasol
l) sgwrs ar-lein
Manylion am gysylltu â chwsmeriaid:
ll) gwybodaeth am gwsmeriaid
m) camau pellach
n) gwerthiannau
o) atgyfeiriadau
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Ymchwiliwch i sylfaen bresennol y cwsmeriaid i nodi cwsmeriaid posibl ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau dethol
- Dylech chi feithrin a chynnal perthnasoedd da gyda chwsmeriaid newydd a chwsmeriaid presennol
- Dylech chi addasu’r ymagwedd a’r iaith a ddefnyddir gyda chwsmeriaid wrth ymateb i'w hymatebion
- Nodwch gyfleoedd ar gyfer gwerthu yn ystod sgwrs
- Nodwch “arwyddion prynu” gan gwsmeriaid i sbarduno cau’r gwerthiant
- Gwerthuswch ddata, lluniwch gasgliadau a gwnewch argymhellion ar gyfer ymdrechion gwerthu yn y dyfodol