Monitro a chynnal ansawdd gweithrediadau teithio a thwristiaeth
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sicrhau ansawdd gweithrediadau a systemau o ddydd i ddydd, a monitro a chynnal safon cynhyrchion a gwasanaethau teithio a thwristiaeth a gyflenwir i’ch cwsmeriaid gan eich sefydliad a chyflenwyr trydydd parti. Mae hyn hefyd yn cynnwys nodi a chywiro diffygion gweithredol a lleihau effaith cynhyrchion a gwasanaethau is na’r safon ar gwsmeriaid.
Mae’r safon yn cael ei hargymell ar gyfer unrhyw un sy’n gyfrifol am fonitro a chynnal ansawdd gweithrediadau teithio a thwristiaeth o ddydd i ddydd.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich gwybodaeth am y canlynol, a’ch gallu i:
• Fonitro a chynnal ansawdd gweithrediadau teithio a thwristiaeth
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi’r safonau a ddefnyddir i fesur ansawdd gweithrediadau a systemau teithio a thwristiaeth yn eich maes cyfrifoldeb, a chytuno arnynt gyda’ch rheolwr
- Monitro gweithrediadau a systemau teithio a thwristiaeth yn erbyn safonau mesur cytûn yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Cadarnhau bod cydweithwyr yn deall y safonau perfformiad sy’n ddisgwyliedig ohonynt a’r systemau sydd ar waith i’w mesur a’u cynnal
- Nodi ac ymateb i unrhyw ddiffygion gweithredol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Ymchwilio i amrywiadau a nodwyd o’r fanyleb wrth gyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau teithio a thwristiaeth, gan gynnwys y rheiny a ddarperir gan gyflenwyr trydydd parti, a rhoi gwybod i’ch rheolwr beth yw’r rhesymau amdanynt
- Gweithredu i leihau i’r eithaf yr effeithiau ar gwsmeriaid lle mae cynhyrchion a gwasanaethau teithio a thwristiaeth islaw’r fanyleb yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Cynnal cydweithrediad cyflenwyr trydydd parti a’r ddelwedd gadarnhaol o’ch sefydliad wrth ymateb i faterion yn gysylltiedig ag ansawdd teithio a thwristiaeth
- Gwneud awgrymiadau ar gyfer gwella ansawdd gweithrediadau a systemau i gynnal safon cynhyrchion a gwasanaethau teithio a thwristiaeth a ddarperir gan eich sefydliad a chyflenwyr trydydd parti
- Cwblhau a storio’r dogfennau sicrhau ansawdd gofynnol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a gofynion cyfreithiol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Pwysigrwydd monitro ansawdd gweithrediadau a systemau teithio a thwristiaeth a chymryd y camau adferol gofynnol
- Y mathau o safonau mesur a ddefnyddir ar gyfer sicrhau ansawdd gweithrediadau a systemau teithio a thwristiaeth ar y safle, a pherfformiad cyflenwyr trydydd parti
- Y polisïau a’r gweithdrefnau sefydliadol sy’n cwmpasu gweithrediadau a systemau eich sefydliad, a darparu cynhyrchion a gwasanaethau teithio a thwristiaeth i gwsmeriaid
- Y systemau rheoli ansawdd a monitro a ddefnyddir yn eich sefydliad a sut i’w cymhwyso
- Eich rôl a’ch cyfrifoldebau am sicrhau ansawdd gweithrediadau a systemau teithio a thwristiaeth a’r cynhyrchion a’r gwasanaethau a gyflenwir gan eich sefydliad a chyflenwyr trydydd parti, ac i bwy y dylech chi roi gwybod am unrhyw faterion yn gysylltiedig ag ansawdd sydd y tu allan i’ch terfynau awdurdod
- Y safonau o ran perfformiad personol, gwasanaeth ac ymddygiad a ddisgwylir gan eich sefydliad
- Rhwymedigaethau contractiol y cyflenwyr trydydd parti yn y maes/meysydd yr ydych yn gyfrifol amdano/amdanynt
- Y mathau o faterion yn gysylltiedig ag ansawdd cynhyrchion a gwasanaethau teithio a thwristiaeth sy’n effeithio’n aml ar gwsmeriaid
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymateb i fethiannau ansawdd gweithredol a materion yn gysylltiedig ag ansawdd cyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau teithio a thwristiaeth
- Pwy yw’r deiliaid allweddol, eu cyfrifoldebau a sut i gysylltu â nhw
- Pam mae’n bwysig nodi achosion o fethiannau a materion yn gysylltiedig ag ansawdd, a chymryd camau i’w datrys a’u hatal rhag digwydd eto
- Sut i wneud awgrymiadau ar gyfer gwella ansawdd gweithrediadau a systemau teithio a thwristiaeth mewn ffordd adeiladol
- Pwysigrwydd cynnal ac ymestyn cydweithrediad cwsmeriaid a chyflenwyr a’r ddelwedd gadarnhaol o’ch sefydliad wrth ymateb i faterion yn gysylltiedig ag ansawdd teithio a thwristiaeth
- Gweithdrefnau eich sefydliad a gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer cwblhau a storio dogfennau sicrhau ansawdd
Cwmpas/ystod
Gweithrediadau:
a) Er budd cwsmeriaid
b) I ddiwallu anghenion y sefydliad