Casglu a dadansoddi adborth cwsmeriaid

URN: PPLTT23
Sectorau Busnes (Cyfresi): Teithio a Thwristiaeth
Datblygwyd gan: People 1st
Wedi'i gymeradwyo: 2021

Trosolwg

Mae adborth cwsmeriaid yn hanfodol i lwyddiant busnes. Ym mhob diwydiant gwasanaethau, mae angen i sefydliadau wybod sut mae eu cwsmeriaid yn teimlo am y gwasanaeth y maent wedi’i dderbyn. Yn y diwydiannau teithio a thwristiaeth, mae enw da yn seiliedig ar ymddiriedaeth ac yn cael ei ledaenu gan gwsmeriaid, felly mae mesurau i sicrhau eich bod yn gwybod beth mae cwsmeriaid yn ei feddwl yn hanfodol i helpu datrys unrhyw broblemau y gellir eu cywiro, a defnyddir adborth cadarnhaol i ymestyn enw da’r sefydliad.

Mae’r safon ar gyfer unrhyw staff sydd mewn cysylltiad uniongyrchol neu anuniongyrchol gyda chwsmeriaid. Mae hefyd yn berthnasol i reolwyr sydd efallai â chyfrifoldeb penodol am ddatblygu gwasanaethau, adnoddau dynol neu oruchwylio aelodau staff eraill sy’n darparu gwasanaethau.

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich gwybodaeth am y canlynol, a’ch gallu i:
• Gasglu a dadansoddi adborth cwsmeriaid


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Casglu gwybodaeth am adborth cwsmeriaid
  2. Nodi gwybodaeth am adborth i’w dadansoddi
  3. Cynnal cydweithrediad cwsmeriaid trwy gydol y broses gasglu
  4. Defnyddio proses gasglu nad yw’n niweidio enw da’r sefydliad
  5. Cofnodi adborth yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  6. Cynnal cyfrinachedd gwybodaeth ac adborth cwsmeriaid
  7. Storio adborth yn unol â gofynion y sefydliad
  8. Dewis adborth i’w ddadansoddi sy’n gweddu i ddiben y gwerthusiad
  9. Dethol a chyfosod adborth i’w ddadansoddi
  10. Cyflwyno canlyniadau’r dadansoddiad yn brydlon ac yn unol â meini prawf gwerthuso
  11. Nodi a llenwi bylchau a chywiro diffygion yn y data i’w ddadansoddi, lle bo modd
  12. Gofyn am fwy o gymorth i wella cywirdeb y dadansoddi, yn ôl yr angen

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Y gwahanol ffyrdd i gael adborth gan gwsmeriaid
  2. Sut i nodi data allweddol a fydd yn diwallu anghenion y gwerthusiad
  3. Egwyddorion ymchwil cwsmeriaid
  4. Egwyddorion samplu cwsmeriaid i gael adborth
  5. Y mathau o gyfleoedd i droi at gwsmeriaid i gael adborth
  6. Y mathau o ddata adborth y gellir ei gael gan gwsmeriaid a dilysrwydd y math a ddewiswyd o ran diwallu anghenion gwerthuso
  7. Sut i ddewis y cyfleoedd adborth mwyaf defnyddiol a chynllunio casglu data
  8. Y ffactorau sy’n effeithio ar gasglu a dadansoddi data adborth cwsmeriaid
  9. Y cyfyngiadau amser, y gost a’r staffio sy’n effeithio ar gael adborth cwsmeriaid, a’i ddadansoddi

Cwmpas/ystod

Gwybodaeth am adborth:
a) meintiol
b) ansoddol

Proses gasglu:
a) wyneb yn wyneb
b) ffôn
c) negeseuon testun
ch) ap symudol
d) e-bost
dd) ar-lein

Cofnodir:
a) â llaw
b) yn electronig


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Dylech chi sefydlu a chynnal perthynas gynhyrchiol â chwsmeriaid sy’n rhoi adborth.

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLTT23

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaethau Teithio a Thwristiaeth, Uwch Gynghorydd Teithio, Uwch Gynghorydd Teithio Hamdden

Cod SOC

6212

Geiriau Allweddol

casglu, dadansoddi, cwsmer, adborth, meintiol, ansoddol, gwerthuso