Goruchwylio gweithrediadau cynhyrchu bwyd
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â goruchwylio cynhyrchu bwyd i sicrhau bod y cwsmer yn cael eu harcheb o fewn amser rhesymol ac yn unol â safonau ansawdd, ac mae’n debygol o gael ei defnyddio gan oruchwylydd sy’n gyfrifol am y gweithgareddau yn y maes gwaith yn ddyddiol, o dan gyfarwyddyd y rheolwr perthnasol.
Mewn sawl ffordd, mae cael y manylion yn gywir yn rhan hanfodol o wasanaeth cynhyrchu bwyd effeithlon. Mae angen i chi hoelio eich sylw personol ar wneud yn siŵr bod y camau cynhyrchu bwyd gwahanol yn dilyn deddfwriaeth a pholisïau sefydliadol perthnasol a’ch bod yn nodi ac yn darparu ar gyfer unrhyw beryglon posibl. Hefyd, mae angen i chi wneud yn siŵr bod eich staff yn deall eu rolau yn y broses a bod ganddynt y sgiliau a’r wybodaeth i’w cyflawni.
Mae’r safon yn ymwneud â’r meysydd allweddol sy’n bwysig i oruchwylio gwasanaeth cynhyrchu bwyd effeithiol.
Mae ymagwedd gyfannol at ddiogelwch bwyd yn agwedd hanfodol ar y briodwedd hon ac eir i’r afael â hyn yn fanwl yn Uned HSL30.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Oruchwylio gweithrediadau cynhyrchu bwyd
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cyflawni gwiriadau rheolaidd i sicrhau bod eich staff yn dilyn gweithdrefnau cynhyrchu bwyd wedi’u cynllunio, a’u cofnodi
- Sicrhau bod y camau cynhyrchu bwyd yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau’r diwydiant, codau proffesiynol a pholisïau sefydliadol perthnasol
- Sicrhau bod staff yn gwybod beth a ddisgwylir ohonynt a bod ganddynt y sgiliau, yr adnoddau a’r wybodaeth sy’n ofynnol i gynhyrchu bwyd yn unol â’r safon ofynnol; annog staff i ofyn cwestiynau os oes gwybodaeth nad ydynt yn ei deall
- Nodi risgiau posibl a rhoi gweithdrefnau ar waith i fodloni pwyntiau rheoli, gan ddilyn deddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
- Arwain trwy esiampl a briffio staff i chwilio am broblemau gyda’r pwyntiau rheoli a rhoi gwybod amdanynt
- Monitro ansawdd gwaith a chynnydd yn erbyn cynlluniau a chymryd camau effeithiol i reoli problemau a all darfu ar weithrediadau cynhyrchu bwyd pan fyddant yn digwydd, gan ddarganfod ffyrdd ymarferol o oresgyn rhwystrau
- Rheoli costau trwy sicrhau bod staff yn dilyn manylebau a gweithdrefnau cynhyrchu bwyd
- Monitro ac adolygu gweithdrefnau cynhyrchu bwyd i sicrhau bod targedau’n cael eu cyflawni ac awgrymu ffyrdd o wella effeithlonrwydd
- Casglu adborth a allai helpu i nodi unrhyw broblemau gyda gweithdrefnau
- Rhoi adborth i staff i’w helpu i wella’u perfformiad, lle bo’n briodol
- Defnyddio dulliau effeithiol i gasglu, storio ac adalw gwybodaeth, cwblhau’r cofnodion gofynnol yn gywir ac adrodd ar berfformiad i gefnogi cynhyrchu bwyd yn unol â’ch gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Deddfwriaeth berthnasol a rheoliadau a chodau ymarfer eraill sy’n benodol i’r diwydiant
- Gwahanol rolau a chyfrifoldebau pobl yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdanynt ac mewn rhannau eraill o’r sefydliad sy’n berthnasol i gynhyrchu bwyd
- Beth yw’r amserlenni cynhyrchu bwyd
- Sut i drefnu eich tîm a rheoli eu hamser fel bod gweithrediadau cynhyrchu bwyd yn effeithlon
- Pa sgiliau sy’n ofynnol i roi gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cynhyrchu bwyd ar waith a sut mae’r rhain yn cymharu â’r sgiliau sydd ar gael i chi
- Sut i amcangyfrif yr adnoddau y mae eu hangen arnoch ar gyfer gweithrediadau cynhyrchu bwyd a phwy i droi atynt i gael cymeradwyaeth ar gyfer adnoddau ychwanegol
- Sut i symbylu staff i gyflawni’r safonau ansawdd gofynnol
- Prif egwyddorion rheoli dognau a pham mae rheoli dognau yn hanfodol mewn gweithrediadau cynhyrchu bwyd
- Sut i leihau gwastraff a gwneud y defnydd gorau o adnoddau sydd ar gael
- Pryd mae’n briodol defnyddio cyfarwyddiadau neu arddangosiadau llafar neu ysgrifenedig, a lluniau/diagramau
- Pam mae cyfrinachedd yn bwysig a sut i sicrhau bod gwybodaeth gyfrinachol yn ddiogel
- Y fformat derbyniol ar gyfer cyflwyno a storio gwybodaeth yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano
- Pam mae ansawdd yn bwysig i lwyddiant y weithred cynhyrchu bwyd a sut i asesu ansawdd eich gwaith eich hun a gwaith pobl eraill
- Sut i fonitro gweithgareddau a pherfformiad yn erbyn safonau a thargedau sefydliadol, beth i’w wneud pan na fydd perfformiad yn cyfateb i safonau a thargedau a sut a phryd i ddarparu gwybodaeth i reolwyr
- Sut i roi adborth i’ch staff i’w helpu i wella’u perfformiad
Cwmpas/ystod
Mae dulliau effeithiol ar gyfer casglu, storio ac adalw gwybodaeth yn cynnwys dulliau cost effeithiol, amser effeithiol a moesegol.
Mae gwybodaeth yn cynnwys gwybodaeth gan gwsmeriaid a staff.
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Rhoddir yr ymddygiadau canlynol yn ganllaw er mwyn bod yn sail i berfformiad effeithiol goruchwylydd ym maes lletygarwch
- Rydych chi’n amddiffyn eich gwaith eich hun a gwaith pobl eraill rhag effeithiau negyddol
- Rydych chi’n ymfalchïo mewn gwaith cywir, o ansawdd uchel
- Rydych chi’n hoelio sylw personol ar fanylion penodol sy’n hollbwysig i gyflawni canlyniadau llwyddiannus
- Rydych chi’n nodi goblygiadau neu ganlyniadau sefyllfa
- Rydych chi’n effro i beryglon posibl
- Rydych chi’n cytuno’n glir ar yr hyn sydd i’w ddisgwyl gan bobl eraill ac yn eu dwyn i gyfrif
- Rydych chi’n cadw gwybodaeth gyfrinachol yn ddiogel
- Rydych chi’n annog pobl eraill i rannu gwybodaeth yn effeithlon, o fewn cyfyngiadau cyfrinachedd
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Argymhellir yn gryf fod HSL30, sy’n ymdrin â hylendid a diogelwch bwyd wrth baratoi a gweini bwyd a diod, yn cael ei astudio ar y cyd â’r safon hon.
Mae’r safon hon yn safon penodol i sector ac mae ganddi gysylltiadau penodol â’r safonau canlynol yng nghyfres safonau Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch:
- HSL1-5
- HSL9
- HSL12
- HSL16
- HSL19
- HSL25
- HSL28