Cynhyrchu sawsiau poeth sylfaenol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynhyrchu, coginio / adfywio a gorffen sawsiau poeth sylfaenol. Mae’n delio â sut byddech chi’n paratoi’r saws yn ddiogel, dulliau coginio / adfywio priodol a sgiliau gorffen a chyflwyno.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i gynhyrchu sawsiau poeth sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
- Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
- Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
- Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
- Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
- Gynhyrchu sawsiau poeth sylfaenol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Sicrhau bod yr ardal baratoi yn lân, heb ddifrod ac yn barod i’w defnyddio yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Sicrhau bod y cyfarpar (gan gynnwys cynwysyddion gwastraff) yn lân, yn briodol i’r dasg, heb ddifrod, wedi’i leoli yn y man cywir ac ymlaen yn barod i’w ddefnyddio
- Gwirio bod yr holl gynhwysion yn bodloni gofynion y saig, diogelwch bwyd a’ch gweithle
- Paratoi a choginio / adfywio’r sawsiau i fodloni gofynion y saig
- Gwirio bod lliw, ansawdd, tewychedd a blas y saws gorffenedig yn gywir
- Gwirio bod y saws yn cael ei goginio / adfywio a’i ddal ar y tymheredd cywir
- Cyflwyno a gorffen y saws i fodloni gofynion y cwsmer a’ch gweithle
- Storio unrhyw sawsiau wedi’u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â gweithdrefnau’r gweithle a gofynion diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen sawsiau poeth sylfaenol
- Sut i wirio bod y cynhwysion yn bodloni gofynion eich gweithle a’u bod yn addas i’w defnyddio, a bod eu nifer a’u hansawdd yn gywir
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r cynhwysion, ac i bwy
- Sut i gyflawni’r dulliau paratoi, coginio / adfywio a gorffen perthnasol ar gyfer pob saws a pha sawsiau sy’n addas ar gyfer pob dull coginio
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen sawsiau poeth sylfaenol
- Y defnydd cywir o alcohol mewn sawsiau a pham y caiff ei ddefnyddio
- Sut i gyflwyno sawsiau poeth sylfaenol mewn ffordd sy’n bodloni gofynion cwsmeriaid a’ch gweithle
- Y gofynion storio cywir ar gyfer sawsiau poeth sylfaenol na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen sawsiau poeth sylfaenol a sut i ddelio â nhw
Cwmpas/ystod
1. Dulliau paratoi, coginio a gorffen
1.1 pwyso / mesur
1.2 torri
1.3 mudferwi
1.4 berwi
1.5 adfywio (e.e. mewn popty microdon)
1.6 sgimio
1.7 rhoi trwy liain / hidlo
1.8 blendio
1.9 chwisgo
1.10 ychwanegu hufen
2. Sawsiau
2.1 saws roux (gwyn / brown / velouté)
2.2 saws purée
2.3 saws wy (hollandaise / béarnaise)
2.4 jus cig