Cynnal defnydd effeithlon o adnoddau bwyd
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sut rydych chi’n gweithio’n effeithlon i sicrhau bod yr holl adnoddau bwyd yn cael eu defnyddio’n effeithlon a bod gwastraff yn cael ei gyfyngu.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i gynnal defnydd effeithlon o adnoddau bwyd; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gynnal defnydd effeithlon o adnoddau bwyd
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Sicrhau bod digon o adnoddau bwyd ar gael ar gyfer nifer disgwyliedig y cwsmeriaid
- Rhoi gwybod i’r person priodol am unrhyw brinderau posibl
- Gwirio bod yr eitemau bwyd sydd ar gael o’r math a’r ansawdd gofynnol, yn unol â gweithdrefnau eich gweithle a safonau diogelwch bwyd
- Sicrhau bod adnoddau bwyd i’w defnyddio ar unwaith ar gael yn hwylus i’r staff priodol
- Dilyn rheolau dognau yn unol â safonau eich gweithle
- Gweithio mewn ffordd effeithlon, sy’n lleihau risg traws-halogi
- Labelu eitemau bwyd na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn gywir ac yn ddarllenadwy, a’u storio yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
- Dilyn y weithdrefn cylchdroi stoc a rhoi gwybod i’r person priodol am unrhyw eitemau sy’n nesáu at ddiwedd eu hoes silff
- Cofnodi unrhyw wastraff bwyd gan ddefnyddio’r ddogfennaeth gywir
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth ddefnyddio adnoddau bwyd
- Pwysigrwydd gweithdrefnau cylchdroi stoc
- Pam mae’n rhaid selio, labelu a storio cynwysyddion bwyd yn gywir
- Pam mae’n rhaid rheoli dognau wrth gynhyrchu seigiau
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt wrth ddefnyddio eitemau bwyd
- Effaith ariannol gwastraff bwyd direolaeth
- Pwysigrwydd cynnal lefelau stoc effeithlon
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth gyflawni gweithrediadau bwyd a sut i ddelio â’r rhain
Cwmpas/ystod
1. Gwybodaeth i’w chael oddi wrth
1.1 gydweithwyr
1.2 cofnodion gwerthu
1.3 niferoedd disgwyliedig y cwsmeriaid
2. Camau rheoli dognau
2.1 defnyddio sgwpiau, mesurau a chloriannau
2.2 cyfrif eitemau
2.3 dilyn rysáit safonol a safon brand