Cynhyrchu cacennau, teisennau sbwnj a sgons sylfaenol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sut rydych chi’n cynhyrchu, yn coginio ac yn gorffen cacennau, teisennau sbwnj a sgons sylfaenol. Mae’n delio â sut byddech chi’n paratoi’r eitem yn ddiogel, dulliau coginio priodol, a sgiliau gorffen a chyflwyno, fel llenwi, eisio, rhannu’n ddognau ac ysgeintio.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i gynhyrchu cacennau, teisennau sbwnj a sgons sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gynhyrchu cacennau, teisennau sbwnj a sgons sylfaenol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Sicrhau bod yr ardal baratoi yn lân, heb ddifrod ac yn barod i’w defnyddio yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Sicrhau bod y cyfarpar (gan gynnwys cynwysyddion gwastraff) yn lân, yn briodol i’r dasg, heb ddifrod, wedi’i leoli yn y man cywir ac ymlaen yn barod i’w ddefnyddio
- Gwirio bod yr holl gynhwysion yn bodloni gofynion y saig, diogelwch bwyd a’ch gweithle
- Paratoi a choginio’r cynhwysion i fodloni gofynion y cynnyrch
- Gwirio bod lliw, ansawdd a blas y cynnyrch gorffenedig yn gywir
- Gwirio bod y cynnyrch yn cael ei goginio a’i ddal ar y tymheredd cywir
- Cyflwyno a gorffen y cynnyrch i fodloni gofynion y cwsmer a’ch gweithle
- Storio unrhyw gynhyrchion wedi’u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â gofynion y gweithle a gofynion diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi, coginio a gorffen cacennau, teisennau sbwnj a sgons sylfaenol
- Sut i wirio bod y cynhwysion yn bodloni gofynion eich gweithle a’u bod yn addas i’w defnyddio, a bod eu nifer a’u hansawdd yn gywir
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r cynhwysion, ac i bwy
- Sut i gyflawni’r dulliau paratoi, coginio a gorffen perthnasol ar gyfer pob cynnyrch
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio a gorffen cacennau, teisennau sbwnj a sgons sylfaenol
- Sut i gyflwyno cacennau, teisennau sbwnj a sgons sylfaenol mewn ffordd sy’n bodloni gofynion cwsmeriaid a’ch gweithle
- Y gofynion storio cywir ar gyfer cacennau, teisennau sbwnj a sgons sylfaenol na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi, coginio a gorffen cacennau, teisennau sbwnj a sgons sylfaenol a sut i ddelio â nhw
Cwmpas/ystod
1. Dulliau paratoi, coginio a gorffen
1.1 defnyddio cymysgeddau wedi’u paratoi
1.2 pwyso / mesur
1.3 hufennu / curo
1.4 cymysgu
1.5 chwisgo
1.6 plygu
1.7 rhwbio i mewn
1.8 iro
1.9 sgleinio
1.10 rhannu’n ddognau
1.11 peipio
1.12 siapio
1.13 pobi
1.14 llenwi
1.15 rholio
1.16 leinio
1.17 trimio / eisio
1.18 taenu / llyfnu
1.19 ysgeintio / gwasgaru