Cynhyrchu cyrsiau cyntaf oer a saladau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynhyrchu cyrsiau cyntaf oer a saladau sylfaenol. Mae’n delio â sut byddech chi’n paratoi’r seigiau yn ddiogel, a sgiliau gorffen, blasuso a chyflwyno.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i gynhyrchu cyrsiau cyntaf oer a saladau; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gynhyrchu cyrsiau cyntaf oer a saladau
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Sicrhau bod yr ardal baratoi yn lân, heb ddifrod ac yn barod i’w defnyddio yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Sicrhau bod y cyfarpar (gan gynnwys cynwysyddion gwastraff) yn lân, yn briodol i’r dasg, heb ddifrod, wedi’i leoli yn y man cywir ac ymlaen yn barod i’w ddefnyddio
- Gwirio bod yr holl gynhwysion yn bodloni gofynion y saig, diogelwch bwyd a’ch gweithle
- Paratoi a chyfuno’r cynhwysion i fodloni gofynion y saig
- Gwirio bod lliw, ansawdd, tewychedd a blas y saig orffenedig yn gywir
- Cyflwyno a gorffen y saig i fodloni gofynion y cwsmer a’ch gweithle
- Storio unrhyw gynhwysion na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â gofynion y gweithle a gofynion diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi cyrsiau cyntaf oer a saladau
- Sut i wirio bod y cynhwysion yn bodloni gofynion eich gweithle a’u bod yn addas i’w defnyddio, a bod eu nifer a’u hansawdd yn gywir
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r cynhwysion, ac i bwy
- Sut i gyflawni’r dulliau paratoi a gorffen perthnasol ar gyfer pob saig a pha gyfwydydd neu ddresinau sy’n addas ar gyfer pob saig
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi a gorffen cyrsiau cyntaf oer a saladau
- Sut i gyflwyno cyrsiau cyntaf oer a saladau mewn ffordd sy’n bodloni gofynion cwsmeriaid a’ch gweithle
- Y gofynion storio cywir ar gyfer cynhwysion na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi a gorffen cyrsiau cyntaf oer a saladau
Cwmpas/ystod
1. Cynhyrchion bwyd
1.1 cigoedd a chynhyrchion cigoedd wedi’u coginio / wedi’u cochi
1.2 pysgod a physgod cregyn a chynhyrchion pysgod
1.3 caws a chynnyrch llaeth
1.4 dresinau / sawsiau / dipiau oer
1.5 salad / llysiau / ffrwythau
1.6 cynhyrchion bara
1.7 cynhyrchion crwst
2. Dulliau paratoi a gorffen
2.1 golchi
2.2 sleisio
2.3 dadmer
2.4 rhannu’n ddognau
2.5 cyfuno cynhwysion
2.6 garneisio
2.7 ychwanegu cyfwyd
2.8 cyflwyno
2.9 blasuso