Paratoi dofednod ar gyfer seigiau sylfaenol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi dofednod ar gyfer seigiau sylfaenol.
Mae’r safon hon yn ymwneud ag amrywiaeth o ddulliau paratoi sy’n gysylltiedig â’r gwahanol fathau o ddofednod, sef adar cyfan neu ddognau.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi dofednod ar gyfer seigiau sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi dofednod ar gyfer seigiau sylfaenol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y math o ddofednod a faint sydd eu hangen i’w paratoi
- Gwirio bod y dofednod yn bodloni gofynion ansawdd a gofynion eraill
- Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir sy’n ofynnol i baratoi’r dofednod
- Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi’r dofednod
- Paratoi’r dofednod i fodloni gofynion y saig
- Storio unrhyw ddofednod a baratowyd na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gwahanol fathau o ddofednod a ddefnyddir yn gyffredin a sut i’w hadnabod
- Darnau a dognau cyffredin o ddofednod
- Sut i wirio bod y dofednod yn bodloni gofynion
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn dofednod ffres
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r dofednod neu gynhwysion eraill, ac i bwy
- Yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi gofynnol
- Sut i gyflawni’r dulliau paratoi yn gywir
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir wrth baratoi’r dofednod
- Sut i storio dofednod a baratowyd yn gywir
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi dofednod
Cwmpas/ystod
1. Dofednod
10.1 adar cyfan
10.2 dognau o gig dofednod
2. Dulliau paratoi
2.1 glanhau
2.2 gwirio a pharatoi’r ceudod
2.3 sesno / marinadu
2.4 trimio
2.5 torri (yn ddognau / deisio / ar gyfer sauté)
2.6 stwffio / llenwi
2.7 caenu
2.8 clymu a rhwymo
2.9 mwydo mewn dŵr halen
2.10 bwrw’n fflat