Paratoi a chyflwyno bwyd i’w gyflwyno’n oer
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi a chyflwyno cynhyrchion oer fel saladau, cynhyrchion bara, pasteiod, pates a chigoedd wedi’u cyweirio. Hefyd, mae’n ymwneud â dal bwydydd o’r fath i gynnal diogelwch bwyd effeithiol.
Mae’r cynhyrchion bwyd dan sylw yn cynnwys:
• cynhyrchion bara, fel bara a rholiau
• saladau
• pasteiod wedi’u rhagbaratoi
• cigoedd wedi’u coginio
• pysgod
• terinau wedi’u rhagbaratoi
• patés wedi’u rhagbaratoi
• cigoedd wedi’u cyweirio
• pysgod cregyn
• vinaigrette a sawsiau oer sylfaenol
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi a chyflwyno bwyd i’w gyflwyno’n oer; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi a chyflwyno bwyd i’w gyflwyno’n oer
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y math o gynhyrchion bwyd a chynhwysion garnais a faint sydd eu hangen i’w paratoi
- Gwirio bod y cynhyrchion bwyd a chynhwysion garnais yn bodloni gofynion ansawdd a gofynion eraill
- Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i baratoi a chyflwyno’r bwyd i’w gyflwyno’n oer
- Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi a chyflwyno’r bwyd
- Paratoi’r cynhyrchion bwyd i fodloni gofynion y saig
- Sicrhau bod gan y cynhyrchion bwyd y blas, y lliw a’r ansawdd cywir, a bod eu maint yn gywir
- Garneisio a chyflwyno’r cynhyrchion bwyd i fodloni gofynion
- Storio unrhyw gynhyrchion bwyd a garnais a baratowyd na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i sicrhau bod y cynhyrchion bwyd a chynhwysion garnais yn bodloni gofynion
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt wrth gyflwyno bwydydd wedi’u coginio, eu cyweirio a’u paratoi
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r eitemau bwyd i’w cyflwyno’n oer, ac i bwy
- Yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi gofynnol
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir wrth baratoi bwyd i’w gyflwyno’n oer
- Sut i baratoi’r cynhyrchion bwyd a chynhwysion garnais i’w cyflwyno’n oer
- Sut i gynhyrchu vinaigrette, sawsiau oer a dresinau sylfaenol
- Sut i orffen a garneisio cynhyrchion bwyd i’w cyflwyno’n oer
- Sut i wirio ac addasu cynhyrchion bwyd i sicrhau bod ganddynt y lliw, y blas a’r ansawdd cywir, a bod eu maint yn gywir
- Pam mae amser a thymheredd yn bwysig wrth baratoi bwyd wedi’i goginio, ei gyweirio a’i baratoi i’w gyflwyno
- Pam dylai bwydydd wedi’u coginio, eu cyweirio a’u paratoi gael eu storio ar y tymheredd gofynnol cyn eu cyflwyno
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi a chyflwyno bwyd i’w gyflwyno’n oer
Cwmpas/ystod
1. Cynhyrchion bwyd
12.1 cynhyrchion bara
12.2 saladau
12.3 pasteiod wedi’u rhagbaratoi
12.4 cig coch/gwyn wedi’i goginio
12.5 pysgod
12.6 terinau wedi’u rhagbaratoi
12.7 patés wedi’u rhagbaratoi
12.8 cigoedd wedi’u cyweirio
12.9 pysgod cregyn
12.10 vinaigrette
12.11 sawsiau a dresinau oer
2. Cynhwysion garnais
2.1 ffrwythau
2.2 llysiau
2.3 perlysiau
3. Dulliau paratoi
3.1 sleisio
3.2 ychwanegu dresin
3.3 garneisio
3.4 rhannu’n ddognau
3.5 chwisgo
3.6 cyfuno cynhwysion