Hel prydau at ei gilydd i’w dosbarthu trwy felt cludo
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi’r belt cludo a chyfarpar gweini a hel eitemau bwyd/diod at ei gilydd. Hefyd, mae’n delio â chyflwyno’r bwyd ar hambyrddau a chynnal lefelau stoc yn ystod y broses.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i hel prydau at ei gilydd i’w dosbarthu trwy felt cludo; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Hel prydau at ei gilydd i’w dosbarthu trwy felt cludo
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio bod y belt cludo yn lân, heb ddifrod ac yn barod i’w ddefnyddio
- Sicrhau bod cyfarpar gweini yn lân, heb ddifrod ac wedi’i leoli’n gywir yn barod i’w ddefnyddio
- Hel digon o stoc at ei gilydd i redeg y belt a’i storio yn unol â gofynion diogelwch bwyd perthnasol
- Dewis y fwydlen gywir i’w harddangos, yn barod i’w defnyddio
- Rhoi’r nifer a’r math o gyfarpar gweini bwyd, cytleri a phupur a halen/sawsiau ar yr hambyrddau
- Sicrhau bod yr hambyrddau’n bodloni manyleb y fwydlen yn llawn
- Cyflwyno bwyd yn gywir ar y platiau/cynwysyddion bwyd
- Cynnal lefelau stoc a chyfarpar gweini wrth i’r belt redeg
- Gwrthod unrhyw hambyrddau nad ydynt yn bodloni manyleb y fwydlen, a rhoi gwybod amdanynt i’r person cywir
- Gosod yr hambwrdd ar y troli cywir i’w gludo
- Cludo troliau bwyd yn ddiogel i’r man priodol i’w dosbarthu
- Storio unrhyw eitemau stoc dros ben yn gywir ac yn ddiogel
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan ar gyfer paratoi’r belt cludo yn barod i’w ddefnyddio a pham mae’r rhain yn bwysig
- Pam mae’n rhaid trin a gwaredu gwastraff yn gywir
- Sut i gyflawni gwiriadau rheoli tymheredd bwyd a pham mae’r gwiriadau hyn yn bwysig
- Sut i lanhau’r belt cludo yn barod i’w ddefnyddio
- Pam dylid cynnal stoc gyson o eitemau gweini bwyd
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd pan fyddwch chi’n paratoi’r belt cludo a sut i ddelio â’r rhain
- Arferion gweithio diogel a hylan ar gyfer hel setiau hambyrddau at ei gilydd ar y belt cludo a pham mae’r rhain yn bwysig
- Sut i roi gwybod am namau ar y cyfarpar
- Sut i weithredu peiriant y belt cludo
- Beth yw’r gofynion cynhyrchu (nifer y prydau a’r mathau o bryd) ar gyfer y sesiwn
- Sut i ddehongli manylebau ar gyfer y drefn ar hambyrddau, bwydlenni ac amrywiadau prydau arbennig
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd pan fyddwch chi’n hel prydau at ei gilydd a’u cyflwyno, a sut i ddelio â’r rhain
Cwmpas/ystod
1 Cyfarpar gweini
1.1 bain marie
1.2 troliau
1.3 teclynnau gweini
1.4 hambyrddau
1.5 llestri
1.6 cytleri
1.7 napcynnau
2 Stoc
2.1 eitemau bwyd
2.2 eitemau diod
2.3 halen a phupur/sawsiau
2.4 cyfwydydd
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cytleri
Tafladwy a rhai sy’n cael eu hailddefnyddio
Llestri
Tafladwy a rhai sy’n cael eu hailddefnyddio
Napcynau
Tafladwy a rhai sy’n cael eu hailddefnyddio
Cyfwydydd
Er enghraifft, eitemau bara