Cynhyrchu seigiau wy sylfaenol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sut rydych chi’n cynhyrchu, yn coginio ac yn gorffen seigiau wy sylfaenol. Mae’n delio â sut byddech chi’n paratoi’r saig yn ddiogel, dulliau coginio priodol a sgiliau gorffen a chyflwyno.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i gynhyrchu seigiau wy sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gynhyrchu seigiau wy sylfaenol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Sicrhau bod yr ardal baratoi yn lân, heb ddifrod ac yn barod i’w defnyddio yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Sicrhau bod y cyfarpar (gan gynnwys cynwysyddion gwastraff) yn lân, yn briodol i’r dasg, heb ddifrod, wedi’i leoli yn y man cywir ac ymlaen yn barod i’w ddefnyddio
- Gwirio bod yr wyau a’r holl gynhwysion eraill yn bodloni gofynion y saig, diogelwch bwyd a’r gweithle
- Paratoi a choginio’r wyau a’r cynhwysion eraill i fodloni gofynion y saig
- Sicrhau bod lliw, ansawdd a blas y saig wy yn gywir
- Sicrhau bod y saig wy’n cael ei choginio a’i dal ar y tymheredd cywir
- Cyflwyno a gorffen y saig wy i fodloni gofynion y cwsmer a’ch gweithle
- Storio unrhyw seigiau wy wedi’u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi, coginio a gorffen seigiau wy sylfaenol
- Sut i wirio bod wyau a chynhwysion eraill yn bodloni gofynion eich gweithle, eu bod yn addas i’w defnyddio a bod eu nifer a’u hansawdd gofynnol yn gywir
- Pam dylech chi rhoi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r wy neu’r cynhwysion eraill, ac i bwy
- Sut i gyflawni’r dulliau paratoi, coginio a gorffen perthnasol ar gyfer pob saig
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio a gorffen seigiau wy sylfaenol
- Sut i gyflwyno seigiau wy sylfaenol mewn ffordd sy’n bodloni gofynion cwsmeriaid a’ch gweithle
- Y gofynion storio cywir ar gyfer cynhyrchion wy sylfaenol na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi, coginio a gorffen cynhyrchion wy sylfaenol a sut i ddelio â nhw
Cwmpas/ystod
1. Wyau
- wyau ffres
- wyau wedi’u pasteureiddio
2. Dulliau paratoi a choginio
- berwi
- chwisgo
- ffrio / ar gridyll
- potsio
- pobi
- sgramblo
- bain marie
3. Dulliau gorffen
- garneisio
- ychwanegu cyfwyd
- cyflwyno