Cyfrannu at ddatblygu ryseitiau a bwydlenni
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â datblygu neu gyflwyno eitemau newydd
ar fwydlen.
Mae datblygu’r fwydlen yn elfen bwysig o lawer o fusnesau. Mae diweddaru’r fwydlen i gynnig eitemau newydd a diddorol yn cynnig amrywiaeth ac yn cadw sylw cwsmeriaid.
Yn aml, mae gan bobl ofynion gwahanol iawn ar gyfer eu bwyd ac mae’r amrywiaeth hon yn cynnig rhai cyfleoedd arbennig. Felly, wrth ddatblygu bwydlen, mae’n bwysig defnyddio cymaint o wahanol ffynonellau gwybodaeth â phosibl. Er enghraifft, mae cyfuniadau bwyd, gofynion dietegol a blasau yn dri pheth yn unig i’w hystyried. Ychwanegwch at hyn y cyfle i gael y costio yn gywir, dod o hyd i gyflenwyr addas a datblygu ryseitiau sy’n gynaliadwy dros gyfnod.
Wrth gwrs, mae’n bwysig rhoi gwybod i gydweithwyr am yr hyn sydd ar eich meddwl a’ch cynlluniau ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol, a sicrhau bod gan y bobl a fydd yn cyflwyno’ch ryseitiau newydd y sgiliau a’r wybodaeth gywir i wneud hynny.
Mae’r safon hon yn dechrau ar gam cyntaf datblygu bwydlen – yr ymchwil – ac mae’n parhau drwodd i gam terfynol casglu adborth gan gydweithwyr a chwsmeriaid i helpu gwerthuso cynaliadwyedd pob eitem newydd ar y fwydlen.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gyfrannu at ddatblygu ryseitiau a bwydlenni
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cyfrif am gyfuniadau bwyd, blasau a gofynion dietegol wrth gyflwyno awgrymiadau am ryseitiau a bwydlen newydd
- Cyfrifo cymarebau cynhwysion, amserau coginio a thymereddau ar gyfer cynhyrchu’r rysáit mewn amrywiol feintiau
- Nodi cyflenwyr neu ffynonellau cyflenwi addas
- Nodi dulliau o gyflwyno, dal a dosbarthu’r cynnyrch
- Costio awgrymiadau am ryseitiau a chyfrif am adnoddau sydd ar gael
- Cofrestru a throsglwyddo gwybodaeth berthnasol am addasrwydd yr eitem newydd ar y fwydlen yn unol â systemau sefydliadol yn eich gweithle
- Cynnig awgrymiadau am osodiad a chyflwyniad y fwydlen
- Cyflwyno awgrymiadau am ryseitiau yn unol ag arddull a pholisi eich sefydliad, yr adnoddau sydd ar gael a disgwyliadau a safonau eich cwsmeriaid
- Sicrhau bod gan staff y wybodaeth, y sgiliau a’r adnoddau sy’n ofynnol i gefnogi cyflwyno’r eitem newydd ar y fwydlen, yn unol â’r tasgau unigol maent yn eu cyflawni
- Casglu ac ystyried adborth gan staff a chwsmeriaid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Beth yw arddull a pholisi presennol eich sefydliad yn gysylltiedig â ryseitiau a bwydlenni a sut gall y lleoliad ac arddulliau gweithredu effeithio ar eitemau arfaethedig y fwydlen
- Beth yw cysyniad diet cytbwys a pham mae’n bwysig i iechyd da
- Canllawiau presennol y llywodraeth ar gyfer bwyta’n iach a sut i gadw i fyny â’r wybodaeth hon
- Y mathau o gynhwysion, eu cyfuniadau a’u cyfrannau sy’n llunio saig iach a sut i’w dewis
- Buddion maethol lleihau cynnwys braster, siwgr a halen seigiau
- Buddion maethol bwydydd startsh, ffrwythau, llysiau a ffacbys
- Blasau iachach y gellir eu defnyddio yn lle halen a siwgr
- Yr effaith y gall dewis cyflenwyr ei chael ar ansawdd bwyd a sut i nodi ac asesu addasrwydd cyflenwyr neu ffynonellau cyflenwi
- Pwy i ymgynghori â nhw i gael adborth ar ryseitiau arfaethedig a phwy i roi cofnodion o ryseitiau arfaethedig iddynt
- Sut i gyflawni a gwerthuso ryseitiau sydd ar brawf a chofnodi gwybodaeth yn gysylltiedig â ryseitiau arfaethedig
- Pa safonau ansawdd sy’n ofynnol ar gyfer pob eitem o rysáit rydych chi’n ystyried ei chynnwys, gan gynnwys sut i asesu ansawdd cynhwysion posibl
- Sut gall y cyfarpar sydd ar gael effeithio ar gynhyrchu eitemau bwyd
- Y ffactorau y mae angen eu hystyried wrth nodi dulliau cyflwyno, dal a dosbarthu
- Sut i gostio ryseitiau arfaethedig a chyfrifo elw gros
- Pa amserau arwain y mae eich sefydliad yn gofyn amdanynt ar gyfer paratoi a gweithredu eitemau newydd ar y fwydlen a sut i amcangyfrif y rhain
- Pam dylai sgiliau staff gael eu hasesu cyn cynnig ryseitiau newydd ac eitemau newydd ar y fwydlen, a pha hyfforddiant allai fod ei angen i helpu i weithredu’r eitemau newydd ar y fwydlen
- Sut i friffio eich staff ar yr eitemau newydd ar y fwydlen a chynlluniau gweithredu, a chael adborth gan eich staff ar broblemau gweithredol a all godi
- Sut i ddyrannu adnoddau i’ch staff i’w galluogi i weithredu eitemau newydd ar y fwydlen
- Pam dylai mesurau gael eu monitro’n agos wrth gyflwyno eitemau newydd
- Pam mae’n bwysig cael adborth gan gwsmeriaid ar eitemau newydd a ffyrdd o wneud hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Rhoddir yr ymddygiadau canlynol yn ganllaw er mwyn bod yn sail i berfformiad effeithiol goruchwylydd ym maes lletygarwch
- Rydych chi’n datblygu ac yn monitro cynnyrch sy’n gynaliadwy dros y tymor canolig a’r tymor hir
- Rydych chi’n nodi ac yn gweithio gyda phobl a sefydliadau a all ddarparu cymorth ar gyfer eich gwaith
- Rydych chi’n gwneud y defnydd gorau o ffynonellau gwybodaeth presennol
- Rydych chi’n gwirio dilysrwydd a dibynadwyedd gwybodaeth
- Rydych chi’n adnabod y cyfleoedd sy’n cael eu cynnig gan amrywiaeth pobl
- Rydych chi’n cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo dealltwriaeth
- Rydych chi’n rhoi gwybod i bobl am gynlluniau a datblygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae’r safon hon yn safon penodol i sector ac mae ganddi gysylltiadau penodol â’r safonau canlynol yng nghyfres safonau Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch:
• HSL1-7
• HSL28
• HSL30
• HSL31