Cyfrannu at hyrwyddo gwasanaethau a chynnyrch lletygarwch

URN: PPL1HSL6
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch Goruchwylio ac Arwain
Datblygwyd gan: People 1st
Wedi'i gymeradwyo: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â hyrwyddo gwasanaethau a chynnyrch. Cafodd ei llunio ar gyfer goruchwylwyr a rheolwyr sy’n agos at y cwsmeriaid ac sydd mewn sefyllfa dda i gynnig syniadau newydd am weithgareddau hyrwyddo. Mae’r safon hon ar gyfer arweinwyr tîm, rheolwyr llinell gyntaf neu oruchwylwyr lletygarwch.

Mae denu sylw cwsmeriaid targed yn allweddol i unrhyw fusnes. Bydd eich cystadleuwyr yn gwneud eu gorau glas i hybu’u cynnyrch eu hunain, felly mae’n hanfodol eich bod chi’n gwneud yr un peth ac yn chwilio’n gyson am ffyrdd newydd ac arloesol o roi gwybod i gwsmeriaid fod eich sefydliad yn bodoli a beth allwch ei gynnig.

Gallech hyrwyddo eich cynnig trwy bosteri a thaflenni. Gallech gynnig gostyngiadau hyrwyddo arbennig neu ddigwyddiadau untro arbennig, fel sesiynau blasu. Mae llu o gyfleoedd ar gael; pa rai fydd fwyaf addas i’ch anghenion chi?

Pa rai bynnag a ddewiswch, gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi nid yn unig y buddion posibl (fel y cynnydd tebygol mewn gwerthiannau) ond unrhyw fuddion ehangach hefyd, ynghyd â gwirio am bryderon moesegol. Gwnewch yn siŵr bod y gweithgareddau’n gyson â’ch targedau, amcanion a gwerthoedd eich sefydliad, arferion cyfrifoldeb cymdeithasol a gofynion cyfreithiol. Yna, trafodwch y syniadau hyn gyda chydweithwyr i’w profi ac i sicrhau cefnogaeth pobl ar gyfer eich syniadau.

Gall hyrwyddo cynnyrch a gwasanaeth fod yn ffordd gyffrous o brofi syniadau ac, os bydd yn llwyddiannus, daw â gwobrau fel cynnydd mewn gwerthiannau a buddion eraill.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gyfrannu at hyrwyddo gwasanaethau a chynnyrch lletygarwch


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Nodi gweithgareddau posibl i hyrwyddo’r gwasanaethau a’r cynnyrch yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano
  2. Nodi gweithgareddau hyrwyddo a’r gwelliannau tebygol i werthiannau y gallai’r gweithgareddau eu creu
  3. Ymgynghori â chydweithwyr perthnasol ar eich syniadau am weithgareddau hyrwyddo
  4. Sicrhau bod y gweithgareddau hyn yn gyson â’ch targedau, amcanion a gwerthoedd eich sefydliad, arferion cyfrifoldeb cymdeithasol a gofynion cyfreithiol
  5. Casglu a threfnu gwybodaeth berthnasol i gefnogi eich syniadau am weithgareddau hyrwyddo, gan gyfrif am yr adnoddau fydd ar gael
  6. Helpu i ddatblygu a gweithredu cynlluniau yn effeithiol
  7. Briffio cydweithwyr perthnasol, fel y bo’n briodol, ar weithgareddau wedi’u cynllunio
  8. Monitro gweithgareddau i wneud yn siwr eich bod yn cyrraedd cwsmeriaid targedig a bod gweithgareddau hyrwyddo’n cael eu cynnal yn unol â chynlluniau a safonau cytunedig
  9. Casglu gwybodaeth am y gweithgareddau hyrwyddo a gwerthuso’u heffeithiolrwydd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Cyfreithiau perthnasol y mae angen i chi gyfrif amdanynt wrth ddatblygu a gweithredu gweithgareddau hyrwyddo a beth all ddigwydd os bydd eich hyrwyddiad yn torri’r cyfreithiau hyn
  2. Arferion cyfrifoldeb cymdeithasol, egwyddorion ‘Arfer Gorau’ ac ystyriaethau moesegol y mae angen eu hystyried wrth hyrwyddo gwasanaethau a chynnyrch lletygarwch
  3. Beth i’w gynnwys a sut i ysgrifennu telerau ac amodau sy’n gysylltiedig â hyrwyddiadau
  4. Marchnadoedd targed a thargedau gwerthu eich sefydliad sy’n berthnasol i’r maes rydych chi’n gyfrifol amdano
  5. Prif gystadleuwyr eich sefydliad, sy’n berthnasol i’r maes rydych chi’n gyfrifol amdano
  6. Cynlluniau hyrwyddo eraill eich sefydliad sy’n berthnasol i’ch gwaith
  7. Pa adnoddau sydd ar gael ar gyfer gweithgareddau hyrwyddo, ble i gael adnoddau ychwanegol posibl a phwy y mae angen i chi ymgynghori â nhw yn eich sefydliad i gael adnoddau ychwanegol
  8. Sut i gostio gweithgarwch hyrwyddo i sicrhau bod proffidioldeb yn cael ei gynnal a’i wella
  9. Sut i gyflwyno eich syniadau hyrwyddo yn effeithiol i bobl eraill yn eich sefydliad a pha wybodaeth y mae ei hangen arnoch i gefnogi gweithgareddau hyrwyddo a awgrymir
  10. Natur y cynnyrch sy’n cael ei hyrwyddo ac unrhyw ddeunyddiau eraill sy’n ymddangos yn yr hyrwyddiad
  11. Unrhyw ganlyniadau andwyol posibl y gallai’r hyrwyddiad, y cynnyrch a deunyddiau eraill eu cael, a sut i osgoi’r rhain
  12. Beth yw gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer rhoi gweithgareddau hyrwyddo ar waith
  13. Pa gydweithwyr y mae angen i chi eu briffio yn gysylltiedig â gwahanol fathau o gynlluniau hyrwyddo a’r gwahanol fathau o wybodaeth y dylid eu rhoi iddynt
  14. Pryd a sut dylai logos, nodau masnach a brandio cynnyrch a sefydliadol gael eu defnyddio i gefnogi gweithgareddau hyrwyddo
  15. Y mathau o bethau a all darfu ar eich gweithgareddau hyrwyddo a sut i ddelio â’r rhain
  16. Sut i fesur effeithiolrwydd gweithgareddau hyrwyddo
  17. I bwy dylech chi wneud argymhellion ar gyfer gwella gweithgareddau hyrwyddo

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Rhoddir yr ymddygiadau canlynol yn ganllaw er mwyn bod yn sail i berfformiad effeithiol goruchwylydd ym maes lletygarwch

  1. Rydych chi’n chwilio am gyfleoedd hyrwyddo newydd ac yn gweithredu arnynt
  2. Rydych chi’n nodi gwerth a buddion dull gweithredu arfaethedig i bobl yn glir
  3. Rydych chi’n defnyddio amrywiaeth o strategaethau a thactegau dilys i ddylanwadu ar bobl
  4. Rydych chi’n datblygu systemau i gasglu a rheoli gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol
  5. Rydych chi’n nodi ac yn codi unrhyw bryderon moesegol a nodwyd
  6. Rydych chi’n atgyfnerthu’r cysylltiadau rhwng amcanion penodol, meysydd gwaith a nodau strategol

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

Mae’r uned hon yn uned penodol i sector ac mae ganddi gysylltiadau penodol â’r unedau canlynol yng nghyfres safonau Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch:
• HSL1-5
• HSL8
• HSL11
• HSL12
• HSL16
• HSL19
• HSL21
• HSL22
• HSL23
• HSL27


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLHSL6

Galwedigaethau Perthnasol

Goruchwylydd, Arweinwyr tîm

Cod SOC

5436

Geiriau Allweddol

hyrwyddo, gwasanaethau lletygarwch, cynnyrch