Darparu arweinyddiaeth i’ch tîm

URN: PPL1HSL1
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch Goruchwylio ac Arwain
Datblygwyd gan: People 1st
Wedi'i gymeradwyo: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â darparu cyfeiriad i staff lletygarwch a’u symbylu a’u cynorthwyo i gyflawni amcanion y tîm a’u hamcanion gwaith personol. Mae’r safon hon ar gyfer staff lletygarwch sydd â chyfrifoldebau arwain tîm, rheolwr llinell gyntaf neu gyfrifoldebau goruchwylio.

Mae arweinwyr gwych yn dod â’r gorau allan o’u pobl. Nid canolbwyntio ar beth na all aelodau eu tîm ei wneud maen nhw, ond canolbwyntio ar beth gallan nhw ei wneud! Mae arweinwyr cryf yn rhoi cyfeiriad clir, gan greu ymdeimlad o ddiben cyffredin fel bod pawb yn deall eu hamcanion eu hunain ac amcanion y tîm. Fodd bynnag, nid dyna’r diwedd arni. Mae arweinwyr effeithiol yn neilltuo amser i gefnogi eu tîm. Maen nhw’n byw a bod gwerthoedd fel uniondeb, tegwch, parch a chymwynasgarwch.

Yn anad dim, efallai, mae’r arweinwyr gorau yn cymryd cyfrifoldeb personol am wneud i bethau ddigwydd, ond maen nhw’n cyflawni eu canlyniadau gorau trwy gefnogi, grymuso a datblygu eu timau.

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Ddarparu arweinyddiaeth i’ch tîm


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Cyfleu diben ac amcanion y tîm i bob aelod
  2. Cynnwys aelodau mewn cynllunio sut bydd y tîm yn cyflawni ei amcanion
  3. Sicrhau bod gan bob aelod o’r tîm amcanion gwaith personol a’u bod yn deall sut bydd cyflawni’r rhain yn cyfrannu at gyflawni amcanion y tîm
  4. Annog a chynorthwyo aelodau’r tîm i gyflawni eu hamcanion gwaith personol ac amcanion gwaith y tîm, a chydnabod pan fydd amcanion wedi’u cyflawni
  5. Trwy eich perfformiad, ennill ffydd a chefnogaeth y tîm ar gyfer eich arweinyddiaeth
  6. Llywio’r tîm yn llwyddiannus trwy anawsterau a heriau, a all gynnwys problemau gwrthdaro, amrywiaeth a chynhwysiant o fewn y tîm
  7. Annog a chydnabod creadigrwydd ac arloesedd o fewn y tîm
  8. Rhoi cymorth a chyngor i aelodau’r tîm pan fydd eu hangen arnynt, yn enwedig yn ystod cyfnodau o anawsterau a newid
  9. Symbylu aelodau’r tîm i gyflwyno’u syniadau eu hunain a gwrando ar beth sydd ganddynt i’w ddweud
  10. Annog aelodau’r tîm i arwain pan fydd ganddynt y wybodaeth a’r arbenigedd, a dangos parodrwydd i ddilyn yr arweiniad hwn

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Gwahanol ffyrdd o gyfathrebu’n effeithiol ag aelodau tîm
  2. Sut i osod amcanion sy’n rhai CAMPUS (Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol)
  3. Sut i gynllunio ar gyfer cyflawni amcanion tîm a phwysigrwydd cynnwys aelodau’r tîm yn y broses hon
  4. Pwysigrwydd amcanion gwaith personol a phwysigrwydd gallu dangos i aelodau’r tîm sut mae amcanion gwaith personol yn cyfrannu at gyflawni amcanion tîm
  5. Bodolaeth arddulliau arwain gwahanol
  6. Sut i ddewis ystod gyfyngedig o ddulliau gwahanol ar gyfer symbylu, cefnogi ac annog aelodau tîm a chydnabod eu cyflawniadau, a sut i ddefnyddio’r ystod gyfyngedig hyn o ddulliau gwahanol yn llwyddiannus
  7. Mathau o anawsterau a heriau a all godi, gan gynnwys problemau gwrthdaro, amrywiaeth a chynhwysiant o fewn y tîm a ffyrdd o’u hadnabod a’u goresgyn
  8. Pwysigrwydd annog eraill i arwain a ffyrdd o allu cyflawni hyn
  9. Buddion annog a chydnabod creadigrwydd ac arloesedd mewn tîm, a sut i wneud hynny
  10. Gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol perthnasol yn y diwydiant/sector
  11. Aelodau, diben, amcanion a chynlluniau eich tîm
  12. Amcanion gwaith personol aelodau eich tîm
  13. Y mathau o gymorth a chyngor y mae’n debygol y bydd ar aelodau tîm eu hangen a sut i ymateb i’r rhain
  14. Safonau perfformiad ar gyfer gwaith eich tîm

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Rhoddir yr ymddygiadau canlynol yn ganllaw er mwyn bod yn sail i berfformiad effeithiol goruchwylydd ym maes lletygarwch

  1. Rydych chi’n creu ymdeimlad o ddiben cyffredin
  2. Rydych chi’n cymryd cyfrifoldeb personol am wneud i bethau ddigwydd
  3. Rydych chi’n annog ac yn cefnogi eraill i wneud penderfyniadau’n annibynnol
  4. Rydych chi’n gweithredu o fewn cyfyngiadau eich awdurdod
  5. Rydych chi’n rhoi o’ch amser i gefnogi pobl eraill
  6. Rydych chi’n dangos uniondeb, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau
  7. Rydych chi’n ceisio deall anghenion a chymhellion pobl
  8. Rydych chi’n modelu ymddygiad sy’n dangos parch, cymwynasgarwch a chydweithrediad

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

Mae’r safon hon yn gysylltiedig â phob safon arall yng nghyfres safonau Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLHSL1

Galwedigaethau Perthnasol

Arweinydd Tîm, Goruchwylydd

Cod SOC

6240

Geiriau Allweddol

arweinyddiaeth, tîm