Prosesu gwybodaeth ar gyfer swyddogaeth y dderbynfa

URN: PPL1FOH1
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch – Cadw Tŷ a Derbynfa Blaen Tŷ
Datblygwyd gan: People 1st
Wedi'i gymeradwyo: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â derbyn galwadau ffôn busnes. Mae ar gyfer pobl sy’n delio â chwsmeriaid dros y ffôn ac wyneb yn wyneb. Mae’n ymwneud â dod o hyd i wybodaeth i bobl eraill, er enghraifft cwsmeriaid a chydweithwyr, a rhoi’r wybodaeth hon iddynt yn gyflym ac yn glir. Mae’r safon hon hefyd yn ymwneud â gwirio rhifau a gwneud cyfrifiadau sylfaenol sy’n cynnwys rhifau cyfan ac arian (i ddau le degol).

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Brosesu gwybodaeth ar gyfer swyddogaeth y dderbynfa


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Ateb y ffôn yn brydlon, gan ddefnyddio arddull eich sefydliad
  2. Cael gwybod pwy sy’n galw a phennu eu gofynion
  3. Ateb ymholiadau yn gywir, yn unol â lefel eich cyfrifoldeb chi
  4. Gwneud galwadau ffôn, ar eich rhan chi neu ar ran pobl eraill, gan ddefnyddio arddull a gweithdrefnau eich sefydliad
  5. Rhoi gwybodaeth berthnasol yn brydlon ac yn gywir
  6. Cyfeirio unrhyw ymholiadau sydd y tu hwnt i lefel eich cyfrifoldeb at yr aelod priodol o’r staff
  7. Darganfod pa wybodaeth sydd ei hangen
  8. Nodi ffynhonnell gywir y wybodaeth
  9. Cael at y wybodaeth a’i threfnu’n glir ac yn drefnus
  10. Rhoi’r wybodaeth i’r sawl sydd wedi gofyn amdani, o fewn terfynau amser cytunedig
  11. Rhoi gwybodaeth berthnasol yn unig, gan sicrhau eich bod yn cynnal cyfrinachedd bob amser
  12. Gofyn am help gan aelod priodol o’r staff pan nad ydych chi’n gallu dod o hyd i’r wybodaeth ofynnol
  13. Esbonio’n gwrtais wrth yr unigolyn sy’n gofyn am y wybodaeth os cawsoch broblemau wrth ddod o hyd i’r wybodaeth
  14. Wrth weithio gyda rhifau, gwirio i sicrhau eu bod nhw’n gywir
  15. Gwneud cyfrifiadau sylfaenol a’u gwirio
  16. Cyflwyno canlyniadau eich gwiriadau a’ch cyfrifiadau yn daclus ac yn glir
  17. Rhoi gwybod i’r aelod priodol o’r staff yn brydlon am unrhyw wallau neu bethau nad ydynt yn cyfateb

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Arddull eich sefydliad ar gyfer ateb a gwneud galwadau ffôn a pham mae’n bwysig defnyddio’r arddull hon
  2. Sut i sefydlu perthynas ac ewyllys da gyda phobl ar y ffôn
  3. Y gwahanol fathau o gyfarpar ffôn yn eich gweithle a sut i’w defnyddio
  4. Pam mae’n bwysig cyfathrebu’n effeithiol ac yn effeithlon
  5. Sut i wrando, dehongli, dethol a chofnodi gwybodaeth
  6. Pa mor gyflym ddylech chi ateb y ffôn
  7. Pam mae’n bwysig sefydlu perthynas ac ewyllys da â galwyr
  8. Sut i gyfansoddi negeseuon yn gywir ac yn effeithiol
  9. Pam mae’n bwysig dehongli gwybodaeth a chyfarwyddiadau yn gywir
  10. Ffynonellau gwybodaeth y gallwch eu defnyddio i helpu gydag ymholiadau
  11. Polisïau a gweithdrefnau cyfrinachedd eich sefydliad a pham mae’n rhaid i chi ddilyn y rhain
  12. Gofynion cyfreithiol sylfaenol perthnasol ar gyfer diogelu data
  13. Sut i adio, tynnu, lluosi a rhannu rhifau
  14. Sut i wirio ffigurau yn erbyn ffynonellau gwybodaeth eraill
  15. Sut i gadarnhau bod ffigurau’n gywir
  16. Beth yw’r gweithdrefnau ar gyfer anfon ymlaen eitemau sydd wedi cael eu gwirio
  17. Beth yw’r gweithdrefnau adrodd ar gyfer anghysondebau

Cwmpas/ystod

1. Galwadau ffôn
17.1 i ac oddi wrth bobl o’r tu mewn i’ch sefydliad
17.2 i ac oddi wrth bobl o’r tu allan i’ch sefydliad

2. Ffynonellau gwybodaeth
2.1 o fewn y sefydliad
2.2 ffynonellau allanol
2.3 eich nodiadau eich hun

3. Person sy’n gofyn am wybodaeth
3.1 y tu mewn i’ch sefydliad
3.2 o’r tu allan i’ch sefydliad

4. Cyfrifiadau sylfaenol
4.1 adio, tynnu, lluosi a rhannu rhifau cyfan
4.2 adio, tynnu, lluosi a rhannu arian i ddau le degol


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cyfrinachedd
Peidio â rhoi gwybodaeth i bobl na ddylent gael y wybodaeth honno

Lefel cyfrifoldeb
Beth mae eich sefydliad yn caniatáu i chi ei wneud a ddim yn caniatáu i chi ei wneud


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL1FOH1

Galwedigaethau Perthnasol

Derbynnydd

Cod SOC

4216

Geiriau Allweddol

prosesu, gwybodaeth, derbynfa