Adeiladu cynnyrch pren gwyrdd neu goedlan i fanyleb cleient
URN: LANTw58
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag adeiladu cynnyrch pren gwyrdd neu goedlan gan ddefnyddio manyleb i fodloni gofynion y cleient.
Mae'r safon hon yn cynnwys:
- dilyn manylebau'r cleient ar gyfer cynnyrch pren gwyrdd neu goedlan
- cynllunio a bodloni amserlenni gwaith
- dewis, adeiladu a chynnal a chadw offer, cyfarpar a deunyddiau
- atgyweirio a chynnal a chadw'r offer a ddefnyddir ar gyfer cynnyrch pren gwyrdd neu goedlan
- gwneud, trin a gorffen cynnyrch pren gwyrdd neu goedlan
- cofnodi gwybodaeth ar gyfer prisio a rheoli stoc.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sydd yn gysylltiedig â'r gwaith arfaethedig
- dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- cael a chadarnhau manyleb y cleient ar gyfer y cynnyrch coed gwyrdd neu goedlan
- adnabod y deunyddiau a'r offer sy'n ofynnol ar gyfer adeiladu
- paratoi dyfynbris ar gyfer adeiladu'r cynnyrch pren gwyrdd neu goedlan
- dewis a gwirio bod y deunyddiau'n addas ac yn briodol i fodloni manyleb y cleient ar gyfer cynnyrch pren gwyrdd neu goedlan
- adeiladu cynnyrch pren gwyrdd neu goedlan yn unol â manyleb y cleient
- gorffen y cynnyrch pren gwyrdd neu goedlan mewn ffordd addas fydd yn gwella a/neu'n eu cadw
- rhoi cyngor i leihau diraddio cynnyrch pren gwyrdd neu goedlan sy'n cael eu defnyddio, eu storio neu eu symyd
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- sut i ddehongli manyleb y cleient ar gyfer cynnyrch pren gwyrdd neu goedlan
- sut i brisio cynnyrch pren gwyrdd a choedlan yn cynnwys costau amser
- y dulliau a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer nodi cynnyrch pren gwyrdd neu goedlan
- y technegau gwahanol a ddefnyddir i adeiladu cynnyrch pren gwyrdd neu goedlan yn unol â manyleb y cleient
- y technegau gwahanol a ddefnyddir i orffen a chadw cynnyrch pren gwyrdd neu goedlan wedi ei gwblhau a phryd i'w defnyddio
- y mathau gwahanol o gymalau a'u defnydd
- sut i drefnu cynhyrchu sypiau o gynnyrch pren gwyrdd neu goedlan
- disgwyliad oes a gofynion cynnal a chadw cynnyrch pren gwyrdd neu goedlan
- sut i ddiogelu cynnyrch pren gwyrdd neu goedlan yn erbyn niwed a diraddio
- yr angen am atebolrwydd cynnyrch a phryd y mae hyn yn briodol
- eich cyfrifolddebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANTw58
Galwedigaethau Perthnasol
Coedlannu
Cod SOC
Geiriau Allweddol
coedlan; pren gwyrdd; manyleb; adeiladu