Cynnal iechyd a chyflwr coed a choetiroedd
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r holl weithgareddau y gall fod eu hangen i gynnal iechyd a chyflwr coed a choetiroedd, ynghyd â’r gofynion a’r cyfrifoldebau craidd.
Gallai gweithgareddau gynnwys rhai neu’r cyfan o’r canlynol:
- rheoli llystyfiant digroeso
- rheoli plâu, clefydau ac afiechydon
- gwella pridd er iechyd coed
- tocio coed o’r ddaear i fyny
- teneuo ac ailfylchu coed ifanc
- rheoli coed sbesimen
Gallech fod yn gweithio yn unol â manyleb a roddwyd sy’n diffinio’r dulliau i’w defnyddio, ond bydd disgwyl i chi benderfynu sut i gyflawni’r dulliau hyn ar y safle.
Bydd angen i chi ystyried unrhyw gyfyngiadau sy’n effeithio ar y gwaith e.e. safleoedd dynodedig, presenoldeb strwythurau rhestredig, bywyd gwyllt, rhywogaethau estron goresgynnol neu rywogaethau gwarchodedig, ac ati.
Mae’n ofynnol i chi osgoi neu leihau difrod i, neu darfu ar, yr ardal gyfagos, gan gynnwys coed, llystyfiant arall, bywyd gwyllt a chynefinoedd, neu i unrhyw strwythurau, ffensys, llwybrau, arwyddion, ffosydd/dyfrffyrdd neu ddraeniau, i sicrhau nad yw eich gwaith yn peri risg i ddefnyddwyr eraill y safle.
Wrth weithio gyda chyfarpar a pheiriannau neu gemegion, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol a rhaid bod gennych ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.
Cysylltiadau â NOS eraill:
LANCS31 Paratoi a thaenu cynnyrch diogelu planhigion i reoli chwyn, plâu, clefydau neu afiechyd
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gofynion a chyfrifoldebau craidd
1. monitro iechyd a chyflwr coed a choetiroedd i nodi’r camau gweithredu sy’n ofynnol ar gyfer cynnal a chadw, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
2. cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
3. gwirio unrhyw ofynion statudol a allai fod ar waith a all atal neu osod amodau ar y gwaith i’w gyflawni a chadarnhau bod pob caniatâd a thrwydded ofynnol wedi’i sicrhau
4. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
5. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
6. cadarnhau bod camau rheoli digonol wedi’u rhoi ar waith a bod cynllunio a gweithdrefnau brys yn berthnasol i’r safle wedi’u sefydlu a’u cofnodi
7. dewis y dulliau gweithio mwyaf diogel, gan ddefnyddio dulliau mecanyddol, lle bo hynny’n fwy diogel, yn unol â’r risgiau a aseswyd a gweithdrefnau sefydliadol, a chynllunio gwaith yn unol â hynny
8. cadarnhau bod hyfforddiant ac ardystiad perthnasol yn eu lle i ymgymryd â’r gwaith sydd i’w wneud a chydnabod cyfyngiadau eich cymhwysedd eich hun
9. defnyddio dulliau priodol i gyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, yn unol â chanllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
10. cael y deunyddiau sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
11. cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
12. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sy’n ofynnol yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
13. cadarnhau bod yr holl gyfarpar wedi cael ei wirio, ei brofi, lle bo angen, a’i fod yn addas at ei ddiben, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
14. cynnal diogelwch a diogeledd offer a chyfarpar ar y safle
15. trin, defnyddio a storio sylweddau peryglus, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
16. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, canllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
17. gwneud y gwaith gofynnol yn unol â’r wybodaeth a ddarparwyd a gweithdrefnau sefydliadol
18. gwaredu pob deunydd gwastraff a deunydd dros ben a delio â nhw yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
19. lleihau difrod i’r safle a’r ardal gyfagos, neu darfu arnynt, wrth wneud y gwaith hwn a chadarnhau bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr diogel a thaclus
20. rhoi agweddau arfer gorau at gynaliadwyedd ar waith, sy’n briodol i’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
21. delio’n effeithiol â phroblemau sy’n codi o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cyfrifoldebau eich hun a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
22. cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â’r gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol
Rheoli llystyfiant digroeso
23. nodi’r llystyfiant y mae angen ei reoli
24. cymryd y camau gofynnol lle nodir llystyfiant peryglus neu hysbysadwy
25. rheoli llystyfiant digroeso gan ddefnyddio dulliau priodol yn unol â gwybodaeth a ddarperir a chanllawiau’r diwydiant
26. wrth ddefnyddio dulliau cemegol, paratoi a thaenu cynnyrch diogelu planhigion sy’n addas i reoli’r chwyn a nodwyd, yn unol â chanllawiau’r diwydiant a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
Rheoli plâu, clefydau ac afiechydon
27. nodi presenoldeb plâu, clefydau ac afiechydon, a’u graddau
28. cymryd y camau gweithredu gofynnol lle nodir plâu a chlefydau hysbysadwy
29. nodi presenoldeb unrhyw reoliadau biolegol a phryfed buddiol
30. nodi difrod a achoswyd gan geirw, gwiwerod llwyd neu fertebratiaid, a rhoi gwybod amdano
31. wrth ddefnyddio dulliau cemegol, paratoi a thaenu cynnyrch diogelu planhigion sy’n addas i reoli’r plâu, clefydau ac afiechydon a nodwyd, yn unol â chanllawiau’r diwydiant a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
Gwella pridd er iechyd coed
32. asesu amodau’r pridd i benderfynu ar ddulliau gwella addas i wella iechyd y goeden
33. gwella pridd gan ddefnyddio dulliau priodol yn unol â’r wybodaeth a ddarperir
34. nodi ôl-ofal addas i atal amodau’r pridd rhag digwydd eto yn y dyfodol
Tocio coed o’r ddaear i fyny
35. nodi’r angen am docio a’r math o docio sy’n ofynnol
36. sefydlu ardal weithio ddiogel trwy waredu rhwystrau yn yr ardal docio, gan gynnwys llystyfiant sy’n tyfu, fel y bo’n briodol
37. dewis dulliau tocio sy’n addas ar gyfer y canlyniad a ddymunir, meintiau canghennau a’u cyflwr
38. tocio coed gan ddefnyddio’r technegau priodol a heb achosi difrod i’r goeden
Teneuo ac ailfylchu coed ifanc
39. nodi’r angen am deneuo ac ailfylchu coed ifanc
40. teneuo ac ailfylchu coed ifanc gan ddefnyddio’r technegau priodol, yn unol â’r wybodaeth a ddarperir
Rheoli coed sbesimen
41. nodi coed sbesimen
42. nodi unrhyw risgiau coed sbesimen i ddiogelwch y cyhoedd
43. cyfrif am unrhyw gyfyngiadau o gwmpas y safle a’r coed sbesimen sydd i’w rheoli
44. rheoli coed sbesimen i sicrhau eu hiechyd a’u diogelwch yn unol â deddfwriaeth berthnasol a’r wybodaeth a ddarperir
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gofynion a chyfrifoldebau craidd
1. pwysigrwydd monitro iechyd a chyflwr coed a choetiroedd, pryd dylid gwneud hyn a’r arwyddion i gadw llygad allan amdanynt
2. sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
3. sut i nodi rhywogaethau a theuluoedd coed
4. sut i nodi peryglon ac asesu risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud a phwysigrwydd asesiad risg penodol i safle a chamau rheoli sy’n briodol i’ch maes gwaith
5. y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
6. y cynllunio a’r gweithdrefnau brys sy’n berthnasol i’r safle a’r defnydd cywir o arwyddion rhybudd a rhwystrau i hysbysu ac amddiffyn pobl eraill wrth i’r gwaith gael ei gyflawni
7. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
8. gofynion cyfreithiol, y diwydiant a sefydliadol am hyfforddiant ac ardystiad i wneud y gweithgareddau gwaith gofynnol a phwysigrwydd cydnabod eich cyfyngiadau a pheidio ag ymgymryd â gwaith sydd y tu hwnt i lefel eich cymhwysedd
9. pam mae’n bwysig cyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n cymryd rhan yn y gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, a’r dulliau cyfathrebu ddylai gael eu defnyddio
10. sut i gael y deunyddiau sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i sicrhau bod deunyddiau ar gael, lle bo angen, a phan fo angen
11. yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i baratoi, defnyddio, gwneud gwaith cynnal a chadw’r gweithredwr a storio’r rhain yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau sefydliadol
12. y gofynion cyfreithiol am wirio a phrofi cyfarpar a pham mae’n bwysig cynnal a chadw’r holl gyfarpar i safon uchel
13. technoleg a ddefnyddir yn eich maes gwaith a sut i’w defnyddio
14. y gofynion o ran trin, defnyddio a storio sylweddau peryglus, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
15. pwysigrwydd mesurau hylendid a bioddiogelwch a sut i gymhwyso’r rhain
16. y dulliau cywir o ddelio â deunydd gwastraff a deunydd dros ben yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
17. pwysigrwydd gwirio bod y gwaith sydd wedi’i gwblhau yn bodloni gofynion, yn unol â’r wybodaeth a ddarperir
18. eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
19. effaith bosibl y gwaith ar y safle a’r ardal gyfagos a sut gellir lleihau’r effaith hon
20. y problemau a all godi wrth gynnal a chadw coed a choetiroedd, y camau i’w cymryd a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
21. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a’ch atebolrwydd
22. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth
Rheoli llystyfiant digroeso
1. sut i nodi chwyn a llystyfiant digroeso, gan gynnwys rhywogaethau peryglus a goresgynnol, ac effaith bosibl y rhain ar iechyd coed a choetiroedd
2. pa lystyfiant digroeso sy’n hysbysadwy, pwy y mae angen eu hysbysu a sut dylid gwneud hyn
3. y dulliau ffermwrol ar gyfer rheoli chwyn a sut maen nhw’n gweithio
4. sut i ddewis a chymhwyso dulliau a chyfarpar priodol i reoli chwyn a llystyfiant digroeso a beth ddylai gael ei ystyried
5. y mathau o gynnyrch diogelu planhigion a ddefnyddir i reoli chwyn, sut i’w defnyddio a’r ddeddfwriaeth sy’n rheoli’r defnydd ohonynt
6. defnyddio tomwellt a matiau tomwellt i helpu i reoli llystyfiant digroeso
Rheoli plâu, clefydau ac afiechydon
1. sut i nodi presenoldeb plâu, clefydau ac afiechydon, gan gynnwys rhywogaethau goresgynnol, ac effaith bosibl eu presenoldeb ar iechyd coed a choetiroedd
2. pa blâu a chlefydau sy’n hysbysadwy, pwy y mae angen eu hysbysu a sut dylid gwneud hyn
3. y dulliau rheoli biolegol a’r pryfed buddiol perthnasol a ddefnyddir ar y safle
4. sut i ddewis dulliau a chyfarpar priodol i reoli plâu, clefydau ac afiechydon a beth ddylai gael ei ystyried
5. y mathau o gynnyrch diogelu planhigion ar gyfer rheoli plâu, clefydau ac afiechydon, sut i’w defnyddio a’r ddeddfwriaeth sy’n rheoli’r defnydd ohonynt
Gwella pridd er iechyd coed
1. sut i adnabod arwyddion a symptomau yn y goeden a/neu’r pridd sy’n awgrymu bod angen gwella’r pridd
2. dulliau gwella’r pridd a phryd byddai pob un ohonynt yn briodol i wella iechyd y goeden
3. goblygiadau amodau tymhorol ac amodau’r tir i’ch gwaith
Tocio coed o’r ddaear i fyny
1. sut i nodi pa goed y mae angen eu tocio, y gwahanol fathau o docio a phryd dylent gael eu defnyddio
2. goblygiadau gwaith tocio gwahanol rywogaethau coed, eu cyflwr ac amser y flwyddyn
3. sut i ddefnyddio technegau tocio priodol i fodloni gofynion
4. sut i adnabod tyniant a chywasgedd yn y canghennau a’r ffyrdd o ryddhau llif sy’n cael ei dal mewn toriad
5. pam mae’n bwysig peidio â difrodi’r goeden a sut gellir osgoi hyn
Teneuo ac ailfylchu coed ifanc
1. pryd dylid teneuo ac ailfylchu coed ifanc
2. sut i ddewis a defnyddio dulliau priodol i deneuo ac ailfylchu coed ifanc
Rheoli coed sbesimen
1. sut i adnabod coed sbesimen a phwysigrwydd monitro rheolaidd
2. goblygiadau rheoli coed sbesimen mewn ardaloedd cyhoeddus i ddiogelwch
3. sut i werthuso gwerth a hyfywedd coed sbesimen
y systemau a gyfer rheoli a monitro coed sbesimen a’r gofynion o ran cofnodi’r camau a gymerwyd
Cwmpas/ystod
Gallai gweithgareddau cynnal iechyd coed a choetiroedd gynnwys rhai neu’r cyfan o’r canlynol:
- rheoli chwyn a llystyfiant digroeso
- rheoli plâu, clefydau ac afiechydon
- gwella pridd er iechyd coed
- tocio coed o’r ddaear i fyny
- teneuo ac ailfylchu coed ifanc
- rheoli coed sbesimen
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Sut i reoli’r mathau canlynol o lystyfiant digroeso:
- coediog
- llysieuol
- glaswellt
- cystadleuol
- peryglus
- hysbysadwy
- gormodol
Sut i ddefnyddio’r mesurau rheoli canlynol:
- cemegol
- mecanyddolâ
- llaw
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.
Gallai dulliau gwella’r pridd gynnwys:
- tomwellt
- bwydo
- trin yr arwyneb
- datgywasgu niwmatig
- chwistrelliad mycorhisol
Gellid diffinio coed sbesimen yn ôl:
- gwerth masnachol
- gwerth hamdden
- gwerth cynefin
- rhywogaeth brin
- arwyddocâd hanesyddol
- pryderon diogelwch y cyhoedd
- buddion ecolegol
- disgwyliad oes
- estheteg
Gallai systemau ar gyfer rheoli coed sbesimen gynnwys:
- archwiliadau rheolaidd
- gweithredu gwaith ecolegol, fel toriadau coronig
- creu ardaloedd clwyf
- datblygu cynefinoedd unigryw
- gwella gwerth
Mathau o docio:
- Torri popeth ond un coesyn – gwaredu prifganghennau niferus pan fydd y coed yn ifanc iawn, dan bump oed yn nodweddiadol
- Tociffurfiannol – fe’i gwneir yn neng mlynedd gyntaf oes coeden, yn fras. Mae’n cynnwys:
- gwaredu canghennau sy’n croesi ac yn rhwbifewn y goron
- gwaredu canghennau ochrol garw
- gwaredu fforchau sy’n datblygu yn y goron
- Maluri– gwaredu canghennau is coeden, fel arfer i uchder oddeutu 2 fetr (uched y pen)
- Tociuchel – yn debyg i falurio, sef ei fod yn cynnwys gwaredu’r holl ganghennau is, ond i lefel uwch
Mae llystyfiant di-groeso yn cynnwys: twf cystadleuol, hysbysadwy, peryglus a gormodol.
Gall fertebratiaid gynnwys: ceirw, gwiwerod llwyd, cwningod, ysgyfarnogod, llygod y dŵr, baeddod gwyllt, da byw sy’n pori, adar
Chwyn: planhigion gwyllt sy’n tyfu lle na ddymunir iddynt dyfu, gan gystadlu gyda phlanhigion amaethyddol