Plygu perth
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau sy’n ofynnol i blygu perth.
Mae’n cynnwys nodi rhywogaeth y planhigyn rydych chi’n gweithio gydag ef a phenderfynu ar ddiben y berth. Hefyd, mae’n rhaid bod gennych wybodaeth am rywogaethau perth eraill a nodweddion y rhywogaethau hynny, a’u haddasrwydd ar gyfer perth.
Mae’n rhaid i chi benderfynu ar y math o berth i’w phlygu a’r effaith a gaiff hyn ar y ffordd rydych chi’n gweithio. Er y gallech fod yn gweithio’n bennaf gydag un arddull, mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol o arddulliau rhanbarthol eraill.
Wrth weithio gyda chyfarpar a pheiriannau, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol a dylech ddal ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- gwirio unrhyw ofynion statudol a allai fod ar waith a all atal neu osod amodau ar y gwaith i’w gyflawni a chadarnhau bod pob caniatâd a thrwydded ofynnol wedi’i sicrhau
- cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
- asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni, cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
- dewis y dulliau gweithio mwyaf diogel, gan ddefnyddio dulliau mecanyddol lle bo hynny’n fwy diogel, yn unol â’r risgiau a aseswyd, a chynllunio gwaith yn unol â hynny
- cadarnhau bod hyfforddiant ac ardystiad perthnasol yn eu lle wrth ddefnyddio cyfarpar mecanyddol
- cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a chyfarpar sy’n ofynnol yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- cadarnhau bod yr holl gyfarpar wedi cael ei wirio a’i fod yn addas at ei ddiben, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- nodi prif ddiben y berth a’r rhywogaethau planhigion y mae’n eu cynnwys
- penderfynu ar arddull plygu’r berth, gan ystyried amrywiadau rhanbarthol
- mesur hyd y berth i’w phlygu ac amcangyfrif y deunyddiau fydd yn ofynnol
- gwirio am bresenoldeb ceblau cyfleustodau a ffensys
- nodi a chytuno ar ba goed gwrych fydd yn cael eu cadw, a nodi a oes unrhyw gamau gwarchod arbennig yn bodoli
- amcangyfrif nifer y planhigion y bydd eu hangen i ail-lenwi’r bylchau
- cael y deunyddiau sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith
- nodi i ba gyfeiriad bydd y berth yn cael ei phlygu a ble bydd y plygu’n dechrau
- gwaredu pren marw a deunyddiau dieisiau eraill
- dewis, torri a phlygu plygwyr ar yr ongl gywir, gan gynnal colynnau hyfyw a lleihau bonion yn briodol
- llenwi bylchau, fel y bo’n briodol
- hogi a gosod stanciau gyda bylchau penodol, rhwymo’r berth a thrimio’r stanciau, yn ôl arddull plygu’r berth
- gwaredu pob deunydd gwastraff a deunydd dros ben, a delio â nhw yn unol â’r cyfarwyddyd
- lleihau difrod i’r safle a’r ardal gyfagos, neu darfu arnynt, wrth wneud y gwaith hwn a chadarnhau bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr diogel a thaclus
- gweithredu agweddau arfer gorau at gynaliadwyedd sy’n briodol i’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
- sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud a phwysigrwydd asesiad risg sy’n benodol i safle a chamau rheoli sy’n berthnasol i’ch maes gwaith
- y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol, gan gynnwys gweithio ar eich pen eich hun, lle bo’n briodol
- y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
- gofynion cyfreithiol, gofynion y diwydiant a gofynion sefydliadol am hyfforddiant ac ardystiad wrth ddefnyddio cyfarpar mecanyddol
- yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i baratoi, defnyddio, gwneud gwaith cynnal a chadw’r gweithredwr a storio’r rhain yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- y gofynion cyfreithiol am wirio a phrofi cyfarpar a pham mae’n bwysig cynnal a chadw pob cyfarpar i safon uchel
- rhywogaethau perth a’u nodweddion
- yr amser mwyaf priodol o’r flwyddyn i blygu perth, yn dibynnu ar yr hinsawdd lleol ac effaith rhew ar y plygwyr
- effaith eich gwaith ar gynefinoedd bywyd gwyllt, er enghraifft yn ystod y tymor nythu
- y rhesymau dros blygu perthi
- pwy y dylech gysylltu â nhw ynghylch presenoldeb ceblau cyfleustodau
- gwahanol arddulliau plygu perth ac amrywiadau rhanbarthol
- offer a dulliau gwahanol o blygu perth
- hyd a diamedr priodol coesynnau i’w defnyddio fel plygwyr
- y mathau o rwymwyr a stanciau sydd ar gael, a’u ffynonellau
- sut i gael y deunyddiau sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith
- y dulliau cywir o ddelio â deunydd gwastraff a deunydd dros ben yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
- effaith bosibl y gwaith ar y safle a’r ardal gyfagos a sut gellir lleihau’r effaith hon
- eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
- pwysigrwydd gwirio bod gwaith gorffenedig yn bodloni gofynion, yn unol â’r wybodaeth a ddarperir
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Mae dibenion plygu perthi yn cynnwys:
- bioamrywiaeth
- rhwystro stoc
- cynnal y dirwedd
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:
- lluniadau
- cynlluniau
- amserlenni
- manylebau
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
- cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- gofynion y cwsmer
- gofynion sicrhau ansawdd
- safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
- cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
- canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)
Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer
System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.