Gwerthuso marchnadoedd ar gyfer gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau coedwig a choetir

URN: LANTw46
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau sy’n ofynnol i werthuso marchnadoedd ar gyfer gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau coedwig a choetir.

Gall cynhyrchion gynnwys eitemau pren ac eitemau eraill fel llystyfiant, hadau a chonau, mwsogl a rhisgl. Gallai gwasanaethau gynnwys cyfleusterau hamdden neu chwaraeon.

Mae’n cynnwys ymchwilio i farchnadoedd a nodi’r galw am gynhyrchion a gwasanaethau pren a chynhyrchion a gwasanaethau eraill.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  2. ymchwilio i farchnadoedd posibl ar gyfer gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau coedwig a choetir, a’u gwerthuso
  3. asesu addasrwydd cynhyrchion a gwasanaethau coedwig a choetir i fodloni gofynion y farchnad
  4. penderfynu ar fanyleb a meintiau pob cynnyrch fydd yn cael ei werthu
  5. meintioli a gosod gwerth y cynhyrchion i’w gwerthu
  6. penderfynu ar y dull gwerthu a’r pwynt gwerthu yn ôl gofynion eich sefydliad
  7. cael yr adenillion gorau ar gyfer pob cynnyrch a gwasanaeth sydd ar gael yn unol â pholisïau eich sefydliad
  8. cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
  2. pam ddylai marchnadoedd posibl gael eu gwerthuso a chanlyniadau peidio â gwneud hynny
  3. y ffactorau byd-eang sy’n dylanwadu ac yn effeithio ar y diwydiant
  4. y ffactorau a all effeithio ar addasrwydd marchnadoedd
  5. gwerthoedd gwahanol gynhyrchion a gwasanaethau coetir ar y farchnad
  6. sut gellir defnyddio tystiolaeth hanesyddol
  7. sut i ymchwilio i ofynion a chyfyngiadau’r farchnad
  8. sut i ddehongli manyleb cynnyrch
  9. y cyfyngiadau gweithredol posibl a all fodoli
  10. y gwahanol ddulliau gwerthu ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau coedwig a choetir
  11. sut i gynhyrchu amcangyfrifon o’r gwariant sy’n ofynnol i ennill incwm
  12. prisiau presennol y farchnad ar gyfer amrywiol gynhyrchion a gwasanaethau coedwig a choetir
  13. sut i gael at gromliniau maint prisiau a’u dehongli
  14. goblygiadau amseru a grwpio gwerthiannau i gyflawni’r effaith fwyaf
  15. sut i werthuso a gweithredu dewisiadau contract
  16. marchnadoedd sydd ar gael a natur dymhorol marchnadoedd
  17. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth

Cwmpas/ystod

Penderfynu ar fanyleb a meintiau pob cynnyrch:

  • amser cyflenwi
  • manylebau cynhyrchion
  • tystiolaeth hanesyddol

Meintioli a gosod gwerth y cynhyrchion:

  • cost cynhyrchu
  • cludo
  • dibynadwyedd y farchnad

Cael yr adenillion gorau trwy:

  • osod y pris a phris cadw
  • dewis y dull hyrwyddo
  • dewis y dull gwerthu
  • dewis y pwynt gwerthu
  • amseru a grwpio’r gwerthu

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Dewisiadau contract – contractau tymor byr, canolig a hir, contractau cyfnod, ac ati

Dylanwadau byd-eang – cyfraddau cyfnewid, galw byd-eang, trawsfudo clefydau, y newid yn yr hinsawdd

Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:

  • lluniadau
  • cynlluniau
  • amserlenni
  • manylebau
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
  • cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  • gofynion y cwsmer
  • gofynion sicrhau ansawdd
  • safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
  • cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
  • canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)

Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)

Cynhyrchion a gwasanaethau eraill – llystyfiant, hadau a chonau, mwsogl, rhisgl, cyfleusterau hamdden a chyfleusterau chwaraeon


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw62

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth, Prysgoedio

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

coedwig; coetir; pren; cynhyrchion