Cynhyrchu siarcol (golosg) mewn coetir
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau sy’n ofynnol i gynhyrchu siarcol (golosg) mewn coetir.
Mae gweithgareddau’n cynnwys y canlynol:
- nodi rhywogaethau pren addas i wneud siarcol
- lleoli safle ar gyfer odyn
- llosgi a pharatoi’r siarcol ar gyfer y farchnad.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
- asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni, cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd
- dewis y dulliau gweithio mwyaf diogel, yn unol â’r risgiau a aseswyd a gweithdrefnau sefydliadol, a chynllunio gwaith yn unol â hynny
- cadarnhau diogelwch y cyhoedd a gweithwyr eraill yng nghyffiniau ardal y gwaith
- cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
- nodi a pharatoi safle addas yn y coetir ar gyfer yr odyn
- nodi’r rhywogaethau pren i’w llosgi i gynhyrchu siarcol
- gwirio bod y pren yn ddigon sych i’w losgi
- penderfynu ar faint o bren i’w losgi, i fodloni’r allbwn siarcol sy’n ofynnol
- paratoi pren yn briodol ar gyfer y math o losgi
- paratoi a chynnau’r odyn
- cynnal a rheoli’r llosgi i sicrhau ansawdd y siarcol sy’n cael ei gynhyrchu
- caniatáu i’r odyn oeri’n ddigonol cyn tynnu’r siarcol
- graddio a bagio’r siarcol sy’n cael ei gynhyrchu
- gwahanu llwch a gronynnau mân
- lleihau difrod i’r safle a’r ardal gyfagos, neu darfu arnynt, wrth wneud y gwaith hwn a chadarnhau bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr diogel a thaclus
- gweithredu agweddau arfer gorau at gynaliadwyedd sy’n briodol i’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
- sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud
- y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
- y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
- y marchnadoedd targed ar gyfer y siarcol
- y math o dir mewn coetir sy’n fwyaf addas i leoli odyn
- y gwahanol fathau o odyn siarcol a dulliau o’u llwytho a’u cynnau
- nodweddion rhywogaethau pren ac effeithiau’r rhywogaethau ar ansawdd y siarcol sy’n cael ei gynhyrchu
- am ba hyd y dylai pren gael ei sychu cyn llosgi a sut mae hyn yn amrywio rhwng rhywogaethau
- sut mae’r ffordd o bentyrru pren yn effeithio ar y broses sychu
- y gostyngiad ym mhwysau a chyfaint y cordiau pren sy’n cael eu llosgi ar gyfer siarcol
- effaith cynnwys lleithder, rhywogaeth, gwerth y pren a’r broses losgi
- y newidiadau sy’n digwydd trwy gydol y broses losgi
- y dulliau o reoli’r broses losgi
- arwyddocâd lliw’r mwg ar adegau gwahanol
- defnydd arall ar gyfer llwch a gronynnau mân
- sut i storio odyn yn ystod cyfnodau hir pan na chaiff ei defnyddio
- effaith bosibl y gwaith ar y safle a’r ardal gyfagos a sut gellir lleihau’r effaith hon
- eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:
- lluniadau
- cynlluniau
- amserlenni
- manylebau
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
- cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- gofynion y cwsmer
- gofynion sicrhau ansawdd
- safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
- cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
- canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)
Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)
System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.