Cynhyrchu cynhyrchion tanwydd pren mewn coetir neu goedwig
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau sy’n ofynnol i gynhyrchu cynhyrchion tanwydd pren mewn coetir neu goedwig ar gyfer y farchnad ddomestig.
Mae gweithgareddau’n cynnwys y canlynol:
- nodi rhywogaethau tanwydd pren
- paratoi a phrosesu pren
- paratoi cynhyrchion tanwydd pren, gan ystyried y cynnwys lleithder, dwysedd y pren a gofynion y farchnad.
Wrth weithio gyda chyfarpar a pheiriannau, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol a dylech ddal ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
- asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni, cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
- dewis a gweithredu’r dulliau gweithio mwyaf diogel, gan ddefnyddio dulliau mecanyddol lle bo hynny’n fwy diogel, yn unol â’r risgiau a aseswyd
- cadarnhau bod hyfforddiant ac ardystiad perthnasol yn eu lle i ymgymryd â’r gwaith sydd i’w gyflawni, a chydnabod y cyfyngiadau ar eich cymhwysedd chi
- defnyddio dulliau priodol i gyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, yn unol â chanllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
- cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a chyfarpar sy’n ofynnol yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- cadarnhau bod yr holl gyfarpar wedi cael ei wirio, ei brofi, lle bo angen, a’i fod yn addas at ei ddiben, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- nodi’r rhywogaethau tanwydd pren addas o’r coetir neu’r goedwig i fodloni’r manylebau cytunedig ar gyfer y cynnyrch tanwydd pren
- torri pren i fodloni’r manylebau ar gyfer y cynnyrch tanwydd pren
- paratoi pren a’i brosesu i gynhyrchu’r cynnyrch tanwydd pren
- pentyrru cynhyrchion tanwydd pren yn ddiogel i’w sychu
- storio cynhyrchion tanwydd pren yn ôl y dull cynhyrchu
- sicrhau bod cynhyrchion tanwydd pren yn bodloni gofynion y farchnad
- gwaredu pob deunydd gwastraff a deunydd dros ben, a delio â nhw yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
- lleihau difrod i’r safle a’r ardal gyfagos, neu darfu arnynt, wrth wneud y gwaith hwn a chadarnhau bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr diogel a thaclus
- gweithredu agweddau arfer gorau at gynaliadwyedd sy’n briodol i’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
- delio’n effeithiol â phroblemau sy’n codi o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cyfrifoldebau eich hun a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
- sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud
- y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
- y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
- gofynion cyfreithiol, gofynion y diwydiant a gofynion sefydliadol am hyfforddiant ac ardystiad i wneud y gweithgareddau gwaith gofynnol a phwysigrwydd cydnabod eich cyfyngiadau a pheidio ag ymgymryd â gwaith sydd y tu hwnt i lefel eich cymhwysedd
- yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i baratoi, defnyddio, gwneud gwaith cynnal a chadw’r gweithredwr a storio’r rhain yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau sefydliadol
- y gofynion cyfreithiol am wirio a phrofi cyfarpar a pham mae’n bwysig cynnal a chadw pob cyfarpar i safon uchel
- y gwahanol farchnadoedd tanwydd pren a’r amrywiaeth o gynhyrchion
- priodweddau llosgi a phrosesu gwahanol rywogaethau coed coetir neu goedwig
- y broses llosgi pren
- arwyddocâd cynnwys lleithder i ansawdd y cynnyrch tanwydd pren
- sut gall y tymor effeithio ar gynnwys lleithder gwahanol rywogaethau a chynhyrchu cynhyrchion tanwydd pren
- y dulliau storio sy’n briodol ar gyfer gwahanol gynhyrchion tanwydd pren a sut gall storio effeithio ar y cynnwys lleithder
- y dulliau cynhyrchu ar gyfer gwahanol gynhyrchion tanwydd pren
- yr effaith a gaiff y deunydd crai ar faint gronynnau a chynnwys llwch
- pwysigrwydd sychu pren a’r lefel sy’n ofynnol ar gyfer gwahanol gynhyrchion tanwydd pren
- y safonau ansawdd sy’n briodol ar gyfer y cynnyrch tanwydd pren
- y dulliau cywir o ddelio â deunydd gwastraff a deunydd dros ben yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
- effaith bosibl y gwaith ar y safle a’r ardal gyfagos a sut gellir lleihau’r effaith hon
- eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
- y problemau a all godi wrth gynhyrchu cynhyrchion tanwydd pren, y camau i’w cymryd a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth
Cwmpas/ystod
Cynhyrchu’r cynhyrchion tanwydd pren canlynol:
- priciau
- boncyffion hollt
- sglodion pren
- ffagodau
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:
- lluniadau
- cynlluniau
- amserlenni
- manylebau
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
- cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- gofynion y cwsmer
- gofynion sicrhau ansawdd
- safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
- cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
- canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)
Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)
System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.