Dylunio a chynhyrchu cynhyrchion neu gydrannau glasgoed neu goedlan
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau sy’n ofynnol i ddylunio a chynhyrchu cynhyrchion neu gydrannau glasgoed neu goedlan.
Mae gweithgareddau’n cynnwys:
- cael manyleb cynnyrch
- cynhyrchu dyluniad i fodloni’r fanyleb
- gwneud prototeip
- cytuno ar fanyleb y dyluniad terfynol
- cynllunio’r cynhyrchu
- gwneud, trin a gorffen cynhyrchion neu gydrannau glasgoed neu goedlan
- cofnodi gwybodaeth ar gyfer costio a rheoli stoc.
Wrth weithio gyda chyfarpar a pheiriannau, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol a dylech ddal ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gofynion a chyfrifoldebau craidd
1. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
2. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r gweithle a’r gwaith sydd i’w gyflawni, cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd
3. dewis a gweithredu’r dulliau gweithio mwyaf diogel, yn unol â’r risgiau a aseswyd a gweithdrefnau sefydliadol, a chynllunio gwaith yn unol â hynny
4. cadarnhau bod hyfforddiant ac ardystiad perthnasol yn eu lle i ymgymryd â’r gwaith sydd i’w gyflawni, a chydnabod y cyfyngiadau ar eich cymhwysedd chi
5. cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
6. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a chyfarpar sy’n ofynnol yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
7. cadarnhau bod yr holl gyfarpar wedi cael ei wirio, ei brofi, lle bo angen, a’i fod yn addas at ei ddiben, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
8. gwaredu pob deunydd gwastraff a deunydd dros ben, a delio â nhw yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
9. gweithredu agweddau arfer gorau at gynaliadwyedd sy’n briodol i’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
10. cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
Dylunio cynhyrchion neu gydrannau glasgoed neu goedlan
1. cael a chadarnhau manyleb gywir, glir a chynhwysfawr gan y cleient ar gyfer y cynhyrchion neu gydrannau glasgoed neu goedlan
2. cynhyrchu dyluniad i fodloni manyleb y cleient ar gyfer y cynhyrchion neu gydrannau glasgoed neu goedlan
3. canfod ymarferoldeb y deunyddiau, yr offer a’r cyfarpar sy’n ofynnol i gynhyrchu’r cynhyrchion neu’r cydrannau glasgoed yn ôl y fanyleb, ac a ydynt ar gael
4. gwneud prototeip sy’n ddigon i gadarnhau manyleb derfynol y cleient ac i brofi’r deunyddiau a’r technegau sy’n ofynnol
5. nodi a chymhwyso meini prawf gwerthuso sy’n briodol i fanyleb y cleient ac i’r busnes
6. cadarnhau bod manyleb derfynol y cleient, deunyddiau a thechnegau yn gallu cael eu cyflawni, eu bod yn economaidd ac yn addas at eu diben, a chytuno ar addasiadau gyda’r cleient lle nad yw hyn yn bosibl
7. cofnodi digon o wybodaeth glir ar gyfer costio cywir, rheoli stoc a chopïo’r dyluniadau, y deunyddiau a’r technegau a ddefnyddiwyd
8. paratoi dyfynbris ar gyfer cynhyrchu’r chynhyrchion neu’r cydrannau glasgoed neu goedlan
Cynhyrchu cynhyrchion neu gydrannau glasgoed neu goedlan
1. cael y fanyleb ar gyfer y cynhyrchion neu’r cydrannau glasgoed neu goedlan
2. cynllunio amserlen waith i ddefnyddio’r deunyddiau glasgoed neu goedlan cymaint â phosibl a lleihau gwastraff
3. gwirio bod y deunyddiau yn addas ac yn briodol i fodloni’r fanyleb ar gyfer y cynhyrchion neu’r cydrannau glasgoed neu goedlan
4. adeiladu cynhyrchion neu gydrannau glasgoed neu goedlan yn ôl y fanyleb, gan ddefnyddio’r technegau priodol
5. gwirio bod y cynhyrchion neu’r cydrannau glasgoed neu goedlan yn bodloni’r fanyleb
6. gorffen y cynhyrchion neu’r cydrannau glasgoed neu goedlan mewn ffordd addas a fydd yn ychwanegu atynt a/neu’n eu diogelu
7. rhoi cyngor ar sut i leihau dirywiad y cynhyrchion neu’r cydrannau glasgoed neu goedlan wrth eu defnyddio, eu storio neu eu cludo
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gofynion a chyfrifoldebau craidd
1. eich cyfrifoldebau chi o dan y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer iechyd a diogelwch perthnasol
2. sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r gweithle a’r gwaith i’w wneud
3. y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
4. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
5. gofynion cyfreithiol, gofynion y diwydiant a gofynion sefydliadol am hyfforddiant ac ardystiad i wneud y gweithgareddau gwaith gofynnol a phwysigrwydd cydnabod eich cyfyngiadau a pheidio ag ymgymryd â gwaith sydd y tu hwnt i lefel eich cymhwysedd
6. yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i baratoi, defnyddio, gwneud gwaith cynnal a chadw’r gweithredwr a storio’r rhain yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau sefydliadol
7. y gofynion cyfreithiol am wirio a phrofi cyfarpar a pham mae’n bwysig cynnal a chadw pob cyfarpar i safon uchel
8. y dulliau cywir o ddelio â deunydd gwastraff a deunydd dros ben yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
9. eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
10. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth
Dylunio cynhyrchion neu gydrannau glasgoed neu goedlan
1. sut i ddehongli manylebau’r cleient a gyflwynir ar ffurf ysgrifenedig, llafar, llun a ffisegol
2. y cynhyrchion y gellir eu gwneud o rywogaethau glasgoed a choedlan sylfaenol, eu priodweddau a’u defnydd
3. sut i adnabod y pren mwyaf priodol i’w ddefnyddio a’r prif resymau dros y dewis hwnnw
4. nodweddion gweledol a ffisegol deunyddiau
5. ffynonellau gwybodaeth am arddulliau, technegau, cefndir hanesyddol a chyd-destunau
6. cyfyngiadau posibl deunyddiau, cyfarpar, technoleg a thechnegau
7. y gwahanol dechnegau dylunio
8. sut i gymhwyso egwyddorion esthetig ac ergonomig
9. sut i asesu hyfywedd economaidd ac ymarferol technegau
10. sut i gynhyrchu prototeip
11. sut i nodi a dewis meini prawf gwerthuso
12. sut i gymhwyso technegau gwerthuso
13. y dangosyddion sy’n awgrymu bod angen addasiad
14. ffyrdd o nodi a datrys problemau gyda gofynion manyleb y cleient
15. sut i gostio cynhyrchu cynhyrchion neu gydrannau glasgoed neu goedlan, gan gynnwys costau amser
16. sut i gyfleu pob agwedd ar eich dyluniad arfaethedig i’r cleient yn effeithiol
Cynhyrchu cynhyrchion neu gydrannau glasgoed neu goedlan
1. sut i ddehongli’r fanyleb ar gyfer cynhyrchion neu gydrannau glasgoed neu goedlan
2. sut i asesu pren am ei addasrwydd ar gyfer cynhyrchion neu gydrannau glasgoed neu goedlan
3. sut i baru rhinweddau’r deunyddiau â’r cynhyrchion gofynnol
4. natur dymhorol deunyddiau coedlan a sut gall hyn effeithio ar p’un a fydd cynhyrchion ar gael a’u gwydnwch
5. y dulliau a ddefnyddir i estyn oes ymarferol deunyddiau glasgoed neu goedlan
6. sut i asesu ansawdd deunyddiau glasgoed neu goedlan
7. y gwahanol dechnegau a ddefnyddir i gynhyrchu cynhyrchion glasgoed neu goedlan
8. nodweddion hanfodol cynhyrchion coedlan, gan gadw’r manylebau mewn cof
9. sut i weithio gwahanol fathau o goed hollt
10. y gwahanol fathau o uniadau a’u defnydd
11. sut i ffurfio a gorffen cynhyrchion neu gydrannau glasgoed neu goedlan sylfaenol
12. sut i drefnu swp-gynhyrchu cynhyrchion neu gydrannau glasgoed neu goedlan
13. y gwahanol dechnegau a ddefnyddir i orffen a gwarchod cynhyrchion neu gydrannau glasgoed neu goedlan rhag difrod a dirywio a phryd i’w defnyddio
14. disgwyliad oes a gofynion cynnal a chadw cynhyrchion neu gydrannau glasgoed neu goedlan
15. yr angen am yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a phryd mae hyn yn briodol
Cwmpas/ystod
Asesu pren am y canlynol:
- cyfradd twf
- strwythur a pharhad graen
- presenoldeb ceinciau
- ymosodiad ffyngaidd
- ymosodiad pryfed
- graddau’r sychu
- oedran
- pydredd, holltau a choesynnau
Prosesau priodol yn cynnwys:
- hollti, bylchu, rhannu
- llifio
- cymynu, torri
- torri â rhasgl
- pilio
Defnyddio pren o’r canlynol:
- collen
- derwen
- onnen
- helygen
- masarnen
- bedwen
- ffawydden
- castanwydden
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)
System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.