Adeiladu a chynnal a chadw offer a dyfeisiau a ddefnyddir i brosesu chynhyrchion coedlannau a glasgoed
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau sy’n ofynnol i adeiladu a chynnal a chadw’r offer a’r dyfeisiau a ddefnyddir i brosesu cynhyrchion coedlannau a glasgoed. Mae’n cynnwys cydosod ac addasu offer a dyfeisiau, a’r gwaith cynnal a chadw sy’n ofynnol i’w cadw mewn cyflwr da.
Wrth weithio gyda chyfarpar a pheiriannau, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol a dylech ddal ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gofynion a chyfrifoldebau craidd
1. cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
2. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
3. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r gwaith sydd i’w gyflawni, cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd
4. dewis a gweithredu’r dulliau gweithio mwyaf diogel, gan ddefnyddio dulliau mecanyddol lle bo hynny’n fwy diogel, yn unol â’r risgiau a aseswyd a gweithdrefnau sefydliadol
5. cadarnhau bod hyfforddiant ac ardystiad perthnasol yn eu lle i ymgymryd â’r gwaith sydd i’w gyflawni, a chydnabod y cyfyngiadau ar eich cymhwysedd chi
6. cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
7. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a chyfarpar sy’n ofynnol i adeiladu a chynnal a chadw’r offer a’r dyfeisiau yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
8. cadarnhau bod yr holl gyfarpar wedi cael ei wirio, ei brofi, lle bo angen, a’i fod yn addas at ei ddiben, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
9. gwaredu pob deunydd gwastraff a deunydd dros ben, a delio â nhw yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
10. gweithredu agweddau arfer gorau at gynaliadwyedd sy’n briodol i’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
11. cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
Adeiladu offer a dyfeisiau
1. cael neu ddyfeisio manyleb glir a chywir i adeiladu offer a dyfeisiau a ddefnyddir i brosesu cynhyrchion coedlannau a glasgoed
2. nodi a dod o hyd i ddeunyddiau addas i adeiladau’r offer a’r dyfeisiau yn ôl y fanyleb
3. creu neu gael y cydrannau sy’n ofynnol i adeiladu’r offer a’r dyfeisiau yn ôl y fanyleb
4. cydosod yr offer a’r dyfeisiau yn unol â’r fanyleb
5. cadarnhau bod offer a dyfeisiau yn ddiogel ac yn addas at eu diben
6. addasu offer a dyfeisiau, fel bo angen
7. nodi unrhyw ddiffygion neu welliannau y gellir eu gwneud i’r offer a’r dyfeisiau a gwneud yr addasiadau
8. storio offer a dyfeisiau a ddefnyddir i brosesu cynhyrchion coedlannau a glasgoed yn gywir i gynnal eu cyflwr a gwneud yn siŵr eu bod yn ddiogel i’w defnyddio
Cynnal a chadw offer a dyfeisiau
9. cynnal a chadw offer llaw miniog trwy nodi a thrwsio mân ddiffygion yn y carn neu’r siafft
10. nodi unrhyw ddiffygion mawr mewn offer llaw miniog
11. atgyweirio a chadarnhau bod yr offer llaw miniog mewn cyflwr diogel i’w ddefnyddio
12. nodi min torri diffygiol a heb fin a defnyddio’r cyfarpar priodol i hogi ac adfer y min torri cywir ar offer
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gofynion a chyfrifoldebau craidd
1. sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
2. eich cyfrifoldebau chi o dan y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer iechyd a diogelwch perthnasol
3. sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud
4. y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
5. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
6. gofynion cyfreithiol, gofynion y diwydiant a gofynion sefydliadol am hyfforddiant ac ardystiad i wneud y gweithgareddau gwaith gofynnol a phwysigrwydd cydnabod eich cyfyngiadau a pheidio ag ymgymryd â gwaith sydd y tu hwnt i lefel eich cymhwysedd
7. yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i baratoi, defnyddio, gwneud gwaith cynnal a chadw’r gweithredwr a storio’r rhain yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau sefydliadol
8. y gofynion cyfreithiol am wirio a phrofi cyfarpar a pham mae’n bwysig cynnal a chadw pob cyfarpar i safon uchel
9. y dulliau cywir o ddelio â deunydd gwastraff a deunydd dros ben yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
10. eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
Adeiladu offer a dyfeisiau
1. yr amrywiaeth o offer a dyfeisiau a ddefnyddir i brosesu cynhyrchion coedlannau a glasgoed a’r defnydd gwahanol arnynt
2. swyddogaeth pob rhan o’r offeryn neu’r ddyfais
3. y gwahanol ddyluniadau a’u rhinweddau cymharol
4. sut i nodi deunyddiau addas i’w defnyddio i adeiladau’r offer a’r dyfeisiau yn ôl y fanyleb
5. sut i greu neu gael y cydrannau sy’n ofynnol i adeiladu’r offer a’r dyfeisiau yn ôl y fanyleb
6. sut i gydosod ac addasu’r offer a’r dyfeisiau yn unol â’r fanyleb
7. yr addasiadau sy’n gallu cael eu gwneud i offer a dyfeisiau i wella’u perfformiad
8. prif achosion dirywiad yr offer a’r dyfeisiau a ddefnyddir i brosesu cynhyrchion coedlannau a glasgoed, a’r camau y gellir eu cymryd i’w hamddiffyn
9. sut i amddiffyn a storio offer llaw â min yn ddiogel i gynnal eu cyflwr
10. sut i labelu, storio a rhoi gwybod am offer sydd wedi’u difrodi ac sy’n beryglus
Cynnal a chadw offer a dyfeisiau
11. dulliau o gynnal a chadw’r amrywiaeth o offer a dyfeisiau i sicrhau eu bod yn aros yn effeithiol gydag amser
12. goblygiadau diffygion mewn offer llaw miniog, offer miniog a siafftiau i iechyd a diogelwch
13. y gwahanol ddulliau a dyfeisiau ar gyfer hogi offer llaw miniog
14. yr amrywiaeth o broffiliau min offeryn a pha rai sy’n briodol at ddibenion gwahanol
15. sut i nodi nodweddion befel a min offer miniog unigol sy’n ofynnol ar gyfer swyddogaethau penodol
16. pwysigrwydd y “tempro” mewn offeryn miniog
17. y defnydd priodol o amrywiaeth o gerrig hogi a’r gwahaniaeth rhwng carreg hogi ag olew a cherrig hogi â dŵr
18. defnyddio peiriannau llifanu ongl a meini llifo yn gywir
19. sut i brofi miniogrwydd offeryn yn ddiogel ac adnabod pryd mae angen hogi offeryn
20. y gwahanol ddulliau o osod carn neu siafft newydd
21. sut i ddewis y deunyddiau priodol i newid cyrn offer
Cwmpas/ystod
Mae cynnal a chadw offer llaw yn cynnwys:
- nodi a delio â diffygion mewn offer
- newid cyrn a siafftiau offer
- amddiffyn offer i atal erydiad, difrod ac anaf personol
- hogi offer miniog
- ail-lifanu’r befel
- hogi’r min torri
- storio offer yn gywir
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:
- lluniadau
- cynlluniau
- amserlenni
- manylebau
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
- cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- gofynion y cwsmer
- gofynion sicrhau ansawdd
- safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
- cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
- canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)
Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)
System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.