Cynnal iechyd a chynhyrchiant coedlan

URN: LANTw40
Sectorau Busnes (Cyfresi): Garddwriaeth, Gwaith coed, Cadwraeth Amgylcheddol
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau sy’n ofynnol i gynnal iechyd a chynhyrchiant coedlan.

Mae gweithgareddau’n cynnwys:

  • cynnal a gwella dwysedd coedlan
  • nodi ffactorau sy’n effeithio ar dwf iach planhigion

Wrth weithio gyda chyfarpar a pheiriannau neu gemegion, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol a dylech ddal ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  2. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
  3. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni, cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
  4. cadarnhau bod camau rheoli digonol wedi’u rhoi ar waith, a bod cynllunio a gweithdrefnau brys yn berthnasol i’r safle wedi’u sefydlu a’u cofnodi
  5. dewis a gweithredu’r dulliau gweithio mwyaf diogel, gan ddefnyddio dulliau mecanyddol lle bo hynny’n fwy diogel, yn unol â’r risgiau a aseswyd a gweithdrefnau sefydliadol, a chynllunio gwaith yn unol â hynny
  6. cadarnhau bod hyfforddiant ac ardystiad perthnasol yn eu lle i ymgymryd â’r gwaith sydd i’w gyflawni, a chydnabod y cyfyngiadau ar eich cymhwysedd chi
  7. defnyddio dulliau priodol i gyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, yn unol â chanllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
  8. cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
  9. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a chyfarpar sy’n ofynnol yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  10. cadarnhau bod yr holl gyfarpar wedi cael ei wirio, ei brofi, lle bo angen, a’i fod yn addas at ei ddiben, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  11. cynnal diogelwch a diogeledd offer a chyfarpar ar y safle
  12. trin, defnyddio a storio sylweddau peryglus yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  13. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, canllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
  14. nodi ardaloedd lle y gall dwysedd y stoc gael ei wella
  15. cynyddu dwysedd coedlan trwy blannu rhywogaethau coed priodol o’r maint cywir
  16. cynyddu dwysedd coedlan trwy “frigblannu”
  17. gwella amodau safle i annog adfywio naturiol a chynyddu cynhyrchiant
  18. nodi difrod a achoswyd gan anifeiliaid sy’n pori a phlâu fertebraidd eraill
  19. dewis dull addas o reoli difrod plâu fertebraidd a’i weithredu
  20. nodi presenoldeb llystyfiant digroeso
  21. dewis a gweithredu dull addas o reoli llystyfiant digroeso
  22. monitro a chynnal iechyd coedlan
  23. gwaredu pob deunydd gwastraff a deunydd dros ben, a delio â nhw yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
  24. lleihau difrod i’r safle a’r ardal gyfagos, neu darfu arnynt, wrth wneud y gwaith hwn a chadarnhau bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr diogel a thaclus
  25. gweithredu agweddau arfer gorau at gynaliadwyedd sy’n briodol i’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
  26. delio’n effeithiol â phroblemau sy’n codi o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cyfrifoldebau eich hun a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  27. cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol



Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
  2. sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud a phwysigrwydd asesiad risg sy’n benodol i safle a chamau rheoli sy’n briodol i’ch maes gwaith
  3. y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
  4. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
  5. gofynion cyfreithiol, gofynion y diwydiant a gofynion sefydliadol am hyfforddiant ac ardystiad i wneud y gweithgareddau gwaith gofynnol a phwysigrwydd cydnabod eich cyfyngiadau a pheidio ag ymgymryd â gwaith sydd y tu hwnt i lefel eich cymhwysedd
  6. pam mae’n bwysig cyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, a’r dulliau cyfathrebu y dylid eu defnyddio
  7. yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i baratoi, defnyddio, gwneud gwaith cynnal a chadw’r gweithredwr a storio’r rhain yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau sefydliadol
  8. y gofynion cyfreithiol am wirio a phrofi cyfarpar a pham mae’n bwysig cynnal a chadw pob cyfarpar i safon uchel
  9. y gofynion ar gyfer trin, defnyddio a storio sylweddau peryglus yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  10. pwysigrwydd hylendid a mesurau bioddiogelwch a sut i gymhwyso’r rhain
  11. effeithiau amodau tyfu ar iechyd coedlan
  12. dwysedd gorau’r goedlan yn briodol i rywogaethau, cylchdro a lleoliad y coed
  13. effaith dwysedd coedlan ar gynhyrchiant
  14. y rhesymau dros ddwysedd gwael coedlan
  15. yr amrywiaeth o ddulliau priodol ar gyfer gwella dwysedd coedlan, eu buddion a’r defnydd priodol ohonynt
  16. prif fertebratau coedlannau sy’n achosi difrod i goedlannau a bonion coedlannau
  17. sut i amddiffyn bonion rhag difrod gan anifeiliaid pori
  18. dulliau rheoli plâu fertebraidd, eu buddion a’r defnydd priodol ohonynt
  19. y prif rywogaethau planhigion sy’n achosi difrod i goedlannau a bonion coedlannau
  20. dulliau o reoli llystyfiant digroeso, eu buddion a’r defnydd priodol ohonynt
  21. yr amrywiaeth o amodau sy’n effeithio ar ddewis dulliau rheoli priodol, gan gynnwys ffactorau economaidd, dynodiadau safle a ffactorau amgylcheddol
  22. y dulliau cywir o ddelio â deunydd gwastraff a deunydd dros ben yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
  23. effaith bosibl y gwaith ar y safle a’r ardal gyfagos a sut gellir lleihau’r effaith hon
  24. eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
  25. y problemau a all godi wrth gynnal iechyd a chynhyrchiant coedlan, y camau i’w cymryd a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
  26. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a’ch atebolrwydd
  27. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:

  • lluniadau
  • cynlluniau
  • amserlenni
  • manylebau
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
  • cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  • gofynion y cwsmer
  • gofynion sicrhau ansawdd
  • safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
  • cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
  • canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)

Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)

System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.

Mae llystyfiant digroeso yn cynnwys: twf sy’n cystadlu â thwf arall, twf hysbysadwy, twf peryglus a thwf gormodol.

Gall fertebratau gynnwys ceirw, gwiwerod llwyd, cwningod, ysgyfarnogod, llygod y dŵr, moch gwyllt, da byw sy’n pori, adar

Chwyn: planhigion gwyllt sy’n tyfu lle nad oes croeso iddynt, gan gystadlu â phlanhigion trin


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw52

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Cadwraeth, Gweithiwr Ystâd, Ceidwad, Garddwriaeth, Prysgoedio

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

coedlan; prysgoedio